1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Siecio bod neb yn cael eu henllibo ar maes-e.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Sut i drysio sustem hysbysebu'r maes.
Sut i beidio mynd yn gaeth i gemau cyfrifiadur.
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Arogl yn Adeiliad Texaco, Prifysgol Llambed. (Ddim yn gwybod beth yw e, neu beth yn union mae'n f'atgoffa i ohono, ond mae'n fy nhguro bob tro dw i'n mynd yna.)
<a href="http://www.homeandholidays.com/midi-madness/lovingyouhasmademebananas.mid">"Loving You Has Made Me Bananas"</a> gan Guy Marks.
A rhyw gant a mil o bethau yn Y Waun.
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Madarch hud.
Gweld fy ffrindiau o Gaerdydd.
Cael <i>quads</i> yn erbyn tŷ llawn yn poker.
Mynd am dro hir gyda Philippa.
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
F'anwylyd.
Gwên Arwel Jones, tîm Talwrn Tan y Groes.
Cawl dail poethion.
<a href="http://morfablog.com/07/03/roadcrew.mp3"><i>We Are The Road <b>Crew</b></i></a> (MP3, 5.8mb)
Pump am y penwythnos, hyd yn oed ar ddydd Mawrth