Pump am yr wythnos 13/2/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan tafod_bach » Maw 13 Maw 2007 3:13 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
rhegi

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
gitar a gymnastics

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
pridd, plastig, pw

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Hwylio, nosweithiau dancehall a reggaeton (sgil effaith byw rwle newydd -oes rhywun moyn dod 'da fi?), glanhau, canu karaoke

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
haul; lleuad; gwynt; fy ffrindie sexi; ffilms efo ymladd, robots neu explosions.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Sili » Maw 13 Maw 2007 3:41 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Golchi gwynab yn ddi-ffael bob bora, motch lle dwi.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Llydaweg a chwarae'r ffidl yn iawn. Falla sa dysgu sut i fod chydig mwy amyneddgar yn talu fyd...

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Bohemian Rhapsody, hen digital pianos yamaha ac organs chep o'r 70au a creions sy'n edrych yn ddu ond sy'n lliwio'n biws go iawn. Ffac, gesi blentyndod cwl 8)

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Gneud darna celf mawr. Wrth fy modd yn gneud, ond byth i weld efo digon o amsar i ista lawr am ddwrnod cyfan i neud campwaith ne ddwy. Pasg a ddaw yn fuan... Sgwennu caneuon fel arall, cael pryda bwyd efo nheulu pan dwi'n mynd adra, jammio ar yr organs a'r pianos efo nhad yn y stafell gerdd a sbio drwy hen lunia plentyndod.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Parma Violets, telynnau duon, cyflenwad digonol o dishws yn fy mhoced/fy mag, cyflenwad digonol o de yn fy nghwpwrdd (ar y funud ma gennai gwpwrdd cyfa wedi ei aberthu i bocsus te a coffi) a nghariad boliog joli :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan tafod_bach » Maw 13 Maw 2007 4:00 pm

[quote=sili]

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Parma Violets, telynnau duon, cyflenwad digonol o dishws yn fy mhoced/fy mag, cyflenwad digonol o de yn fy nghwpwrdd (ar y funud ma gennai gwpwrdd cyfa wedi ei aberthu i bocsus te a coffi) a nghariad boliog joli :D[/quote]

fydd raid i ni siarad... :D
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan krustysnaks » Maw 13 Maw 2007 4:28 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Methu gorffen pryd bwyd.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Sut i chwarae'r organ yn iawn; sut i dynnu lluniau (mae fy sgiliau arlunio wedi bod ar plateau ers on i'n tua 7 oed).

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Mynd i'r gwely tra bod hi'n olau tu allan; Live and Kicking; gwersi piano ar brynhawn dydd Llun.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Chwarae snwcer ar fwrdd da; mynd i gyngerdd clasurol; cael McDonalds i swper; eistedd wrth yr afon gyda photel o win yn yr haul.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Bwyta Creme Eggs; tywydd braf (fel heddiw); buddugoliaeth i Chelsea; Guinness (ddim extra cold); fy soffa adre.

Diolch Dwlwen :D
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan khmer hun » Maw 13 Maw 2007 4:47 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Mynd adre.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Syrffio, a Gwyddeleg yn weddol fach o realistig.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Wy 'di ferwi da Mam-gu. Poster mawr Llydaweg yn y ty^ bach. Archebion post 10c clwb plant y Cymro.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml… Sgïo. Darlunio. Carlamu gefn ceffyl. Sgwennu llythyr. Dyle fi di byw ganrif nol...

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus
Twmblo ym môr Sir Benfro; hwylio brecwast mas yn ffrynt y babell; sgwrs gyhyrog dros gaws a gwin; dal dwylo'n dawel; ac ennill Scrabble.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 13 Maw 2007 4:55 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Snackio cyn gwely.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Golygu (ffilm, digidol 'lly), iaith arall - Rwsieg/Sami/Pwyleg?
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Welis, shorts, baw
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Seiclo, dringo waliau (rioed di bod ar fynydd), cerdded mynyddoedd, dawnsio drwy nos i Tecno (sob)
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Concro mynydd
Ista rownd tân yn ganol nunlla
Peint cynta nos Wenar
Dihangfa ffilm sy'n syndod o dda
Björksan
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan sanddef » Maw 13 Maw 2007 7:17 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.

Yfed coffi go iawn

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.

Y Fasgeg a sut i ddefnyddio Propellerhead Reason

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.

2000 AD (y comic), rusks, baner yr Awyrlu

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…

siarad Sbaeneg, codi mewn pryd i weld Maniffesto, ysmygu canabis, rhyw

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.

Ymweld â'm cyfeillion dramor, a wneud popeth dw'i wedi rhestri fel ateb i gwestiwn 4
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Wierdo » Maw 13 Maw 2007 10:19 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Gwisgo fy modrwy. Os dwi'n anghofio gwisgo fo'n bora ma fy mowdun yn teimlo'n noeth hebddo a man rhaid i mi fynd i'w nol cyn gynted a sydd bosib

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Chwarae'r piano'n dda a html

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Ma' eira yn fy nhroi yn blentyn eto yn syth!

Mynd yn ôl i Benrhyndeudraeth (boed i'r deintydd neu i weld y bobl odd yn byw lawr lôn bob dolig) lle oeddwn i'n byw yn sicr yn f'atgoffa o'm mhlentyndod. Mynd i'r siop neu i'r ty lawr lon: 2 beth dwi'n cysylltu a Penryn.

Legings. Casau'r petha'. Mam yn fy ngorfodi i'w gwisgo pan onin fach. Doeddwn i byth yn gallu cael fy nhraed i mewn i'r bali petha.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Cael Cajun Chicken Wrap o M&S. Nefoedd mewn tortilla wrap.

Gweld fy nghariad.

Meddwi mewn ffansi-dres.

Sgwennu Can yn hawdd

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Fy nghariad
Fy nghi
Hwyl gwirion
Lluniau
Syrffio
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Dewi Lodge » Mer 14 Maw 2007 1:30 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Byta brecwast. Fedraim meddwl cychwyn o ty heb gal rwbath i fyta.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Siarad iaith arall yn rhugl e.e. Ffrangeg, Sbaeneg, Eidaleg.
Nofio :wps: .
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Jeli a blwmonj.
Rhai o'r rhaglenni ar Nick Jr. - Bagpuss, Ivor the Engine, Paddington Bear etc.
Ty mam a dad (lle magwyd fi).
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Cerad mynyddoedd a chefn gwlad Cymru.
Teithio dramor.
Byta allan.
Rhyw! :wps: Dwi'n sengl ar y funud. Derbynnir unryw gynigion yn llawen!
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Dwrnod braf o haul unryw adag o'r flwyddyn.
Cerad allan o'r gwaith peth dwytha cyn cychwyn cyfnod o wyliau.
Bod mewn cwmni difyr.
Gweld Cymru'n curo peldroed ne rygbi.
Clywad yr adar bach yn canu (ond dim am 5 yn y bora!).
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 14 Maw 2007 2:01 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Diolch i Dduw y ces i fy ngeni'r ochr iawn i'r Llwchwr.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Y piano a Ffrangeg.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Syr Wynff a Plwmsan.
Siop bapur newydd Rowlands yn y Coed Duon.
Dawnsio gwerin. :wps:

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd am dro.
Mynd i Rodney Parade.
Gweld teulu.
Aros yn sobor.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Haul ar fore Sadwrn.
Pryd o fwyd mewn bwyty neis.
Diwrnod tâl.
<strike>Gweld Gareth Jenkins yn cael ei ddiswy...</strike> Cymru'n ennill.
Prynu albwm newydd a gwrando arno fe am y tro cynta'.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron