1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Ffonio pedwar neu bump o bobol dw i erioed wedi siarad gyda nhw o'r blaen.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Sut i siarad Japaneaidd, a sut i saethu bwa saeth.
3. Peth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Y 'mynydd mwd' ar waelod ein gardd ni - pentwr o'r holl bridd a cerrig gafodd eu torri ymaith yn y ddau estyniad ar ein ty ni. Un pan oeddwn i tua pump a'r llall pan oeddwn i tua deg.
4. Peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Dwi wrth fy modd yn reidio beic ond does dim lle i'w gadw yn fy fflat yn Llambed.
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.[/quote]
Ysgrifennu. Cathod. Fy swydd. Dilwylliannau amrywiol y byd. Ehangder di bendraw y fodolaeth.