Pump am yr wythnos 13/2/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Dwlwen » Maw 13 Maw 2007 9:57 am

I'r rheini welodd eisiau ddydd Gwener diwetha'...

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan ceribethlem » Maw 13 Maw 2007 10:17 am

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.Dihuno
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.Lladin a Hieroglyphics
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.Licorish olsorts, tren bach Blaenau Ffestiniog a shorts gyda welis.
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…Meddwi, darllen, cerdded, meddwi.
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.Llwyddiant disgyblion, setiau gallu isel yn cayflawni gwaith uwch na'u safon arferol, clywed plant yn siarad Cymraeg, Bethan y ci, Mrs Bethlem.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cacamwri » Maw 13 Maw 2007 10:37 am

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Codi.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Siarad Ffrangeg yn rhugl (mae gen i fy lefel a ond di anghofio lot!) a dysgu sut i gael amynedd sant.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Bullseye, brechdane cig eidon a branston picl, chips yn Cei Newydd ar nos suliau'r haf.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd allan am fwyd, meddwi, gwylio teledu, treulio awr yn y bath.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Mynd nol i Bontweli, Dewi, heulwen, meddwl am y wyrth fach sydd yn fy nghroth (sydd ddim ar frys mawr i ddod allan, er bod y dyddiad due wythnos yma!) a clywed y Gymraeg yn sir fflint.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan nicdafis » Maw 13 Maw 2007 10:38 am

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.

Siecio bod neb yn cael eu henllibo ar maes-e.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.

Sut i drysio sustem hysbysebu'r maes.

Sut i beidio mynd yn gaeth i gemau cyfrifiadur.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.

Arogl yn Adeiliad Texaco, Prifysgol Llambed. (Ddim yn gwybod beth yw e, neu beth yn union mae'n f'atgoffa i ohono, ond mae'n fy nhguro bob tro dw i'n mynd yna.)

<a href="http://www.homeandholidays.com/midi-madness/lovingyouhasmademebananas.mid">"Loving You Has Made Me Bananas"</a> gan Guy Marks.

A rhyw gant a mil o bethau yn Y Waun.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…

Madarch hud.

Gweld fy ffrindiau o Gaerdydd.

Cael <i>quads</i> yn erbyn tŷ llawn yn poker.

Mynd am dro hir gyda Philippa.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.

F'anwylyd.

Gwên Arwel Jones, tîm Talwrn Tan y Groes.

Cawl dail poethion.

<a href="http://morfablog.com/07/03/roadcrew.mp3"><i>We Are The Road <b>Crew</b></i></a> (MP3, 5.8mb)

Pump am y penwythnos, hyd yn oed ar ddydd Mawrth ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Manon » Maw 13 Maw 2007 11:38 am

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
bwyta bara.

2.Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Siarad Ffrangeg ac arlunio.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.

Pic a mics o Woolworths.
Pwll nofio Bangor.
'Sgidia coch.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd ar wylia' Haven.
Mynd a Efan am ginio, jysd y ddau ohona ni, a gadael iddo fo bwyntio at ba fwyd 'sa fo'n licio ar y fwydlen.
Mynd i'r pyb/ am fwyd a chael sgyrsiau am oriau efo fy ffrindia'.
Mynd i arcades a chwara' ar y peiriannau 2c.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Cymryd oriau i fwynhau swper efo fy ngwr.
Efan, bob amser.
Yr Haf.
Chwerthin efo ffrindiau.
Digon o gwsg!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Chwadan » Maw 13 Maw 2007 12:47 pm

Ieeei!

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Pi-pi.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Tynnu llun yn well
Deud y peth iawn

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Jig-sos
Castell Dolwyddelan
Cap taid

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd ar wyliau
Coginio/mynd i ddinyr parti
Mynd i ben y Pared
Yfed gwin coch deche.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Chwerthin ar betha swreal/dychmygol
Heulwen
Gallu gweld tir uchel
Dillad newydd
Tynnu coes y Dyn Ifanc
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan eusebio » Maw 13 Maw 2007 1:14 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Yfed coffi

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Sbaeneg a sut i ddweud "na"

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Diwrnod y Cup Final
Grange Hill
Yr ogla' wedi iddi fwrw glaw yn dilyn diwrnod cynnes o haf

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Seiclo
Dringo
Garddio
Ymlacio
Cael Lie-in

[Plant 'lwch ... dyna sy'n digwydd]

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Cwmni'r wraig
Cwmni'r plant
Buddugoliaeth i Wrecsam
Pryd bwyd da
Cyfle i wneud popeth yng nghwestiwn 4.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Maw 13 Maw 2007 1:23 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
newid clwt.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
sbaeneg a chwara offeryn.... yn dda.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
carpad patrymog lliwgar,
swn emyna ar y radio'n gymysg efo swn mam yn gneud cinio dy sul,
dad yn cysgu ar y gadair siglo.

4.Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
mynd am dro,
mynd i'r pictiwrs,
siarad efo 'mrawd,
cael penwsos boncyrs efo ffrindia da.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
gwên gan babi,
choclet,
prês,
cwmni oedolyn,
clwt glan.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan garynysmon » Maw 13 Maw 2007 1:27 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Mynd ar bbc.co.uk/football

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Almaeneg a siarad mwy eglur


3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Gwylio Reslo WWF
Jurgen Klinsmann
Pili Palas


4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Nofio
Darllen
Mynd i'r dafarn yn y p'nawn
Chwarae Gemau Cyfrifiadur

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Fy nhim Peldroed yn enill (wel, ddim yn colli a dweud y gwir)
Eira
Croesi Pont Borth
Clywed pobol yn siarad Cymraeg
Deffro a ffendio allan fod hi'n benwythnos neu gwyl y banc
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

Postiogan Dwlwen » Maw 13 Maw 2007 1:28 pm

1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Mynd am dro.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Gitar, a sut ma bod yn ____* yn teimlo.

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Mynd dros dwmpathau ar gyflymdra, arogl tar 'di toddi, bwyta malteasers.

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd i'r sinema, dal lan 'da ffrindie coleg, nofio, pobi teisen.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Cwtsho, twirlo, siglo (ar siglenni), gwylie, gwely.

*gosoder enw bron a bod unman tu allan i Ewrop
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron