Tudalen 3 o 3

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 2:20 pm
gan Macsen
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Ffonio pedwar neu bump o bobol dw i erioed wedi siarad gyda nhw o'r blaen.

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Sut i siarad Japaneaidd, a sut i saethu bwa saeth.

3. Peth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Y 'mynydd mwd' ar waelod ein gardd ni - pentwr o'r holl bridd a cerrig gafodd eu torri ymaith yn y ddau estyniad ar ein ty ni. Un pan oeddwn i tua pump a'r llall pan oeddwn i tua deg.

4. Peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Dwi wrth fy modd yn reidio beic ond does dim lle i'w gadw yn fy fflat yn Llambed.

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.[/quote]
Ysgrifennu. Cathod. Fy swydd. Dilwylliannau amrywiol y byd. Ehangder di bendraw y fodolaeth.

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 2:38 pm
gan Dwlwen
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Dawnsio gwerin. :wps:

...a dawnsio disgo :?: :winc:

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 2:50 pm
gan Ray Diota
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
wyndro be ffac wy'n mynd i neud 'da'n hunan yn dyfodol...
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
gyrru. car a motobeic.
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
trâth borth, ffrainc, afon ceiro.
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
chware peldroed (bron byth yn neud - wy rhy ddiog :( ), teithio a darllen
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
wicend brêcs, 'oh what a glorious thing' gan akira the don, noson mewn ar ben fy hun yn neud ffyc ol nawr ac yn y man...

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 4:36 pm
gan Mali
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Cerdded.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Siarad Sbaeneg a nofio.
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Nadolig,flares, pwdin reis.
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd i weld y Canucks yn fyw, amser efo perthnasau, sgio, beicio.
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Amser efo fy ngwr, Blackie neu Mali'r gath ar fy nglin i, gwrando ar gerddoriaeth, gêm o golff ar ddiwrnod braf , mynd allan i fwyta.

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 5:24 pm
gan Fflamingo gwyrdd
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Edrych yn y ffrij

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Chwarae'r piano yn dda (neu "o gwbwl" bellach, ddecini)
Gwybod pryd i gau 'ngheg

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Chocolate chips a raisins (efo'i gilydd)
Spash-suit a welis cochion
Pink wafers
Ogla paent powdwr
(wps sori, camddarllen y cwestiwn...ond methu penderfynu p'run i'w ddileu)

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Cerdded mynyddoedd
Cerdded traethau
Cyd-chwarae ffliwt (efo rhywun arall yn chwarae rhywbeth arall)
Cael napan ganol p'nawn

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Cael fy nghanmol :wps:
Cael hyg heb ddisgwyl un
Cael bwyd wedi'i goginio i fi, heb ei ddisgwyl
Gwybod fod gwyliau o'r gwaith ar y gorwel
Adar yn canu gyda'r nos


Ydyn, atebion hollol hunanol... :wps:

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 6:57 pm
gan Hogyn o Rachub
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Gwisgo sanau

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Chwarae'r gitar
Gwyddeleg

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Cartwns o'r 1980au
Diwrnodau braf yn y wlad
Ty Nain

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Cerdded mynyddoedd
Pysgota
Coginio ddiawl o rwbath mawr a chymhleth
Chwarae tennis

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Canmoliaeth
Bwyd da
Bod mewn tafarn efo ffrindiau
Y penwythnos
Clywed plant bach yn siarad Cymraeg

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 7:14 pm
gan Jeni Wine
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Defnyddio beiro

2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Canu'r organ geg
Iaith arall

3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Mr Men
Yr hufen ia Funny Feet
Wellfield Road yng Nghaerdydd

4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Nofio
Mynydda
Yfed shampen

5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Yr haul yn tasgu drwy'r llenni ac yn fy neffro fi
Nofio'n y mor
Croen fy mistar nesa ata i yn y gwely
Ogla gwair
Cynffon y gath yn lapio o amgylch fy nghoesa

Re: Pump am yr wythnos 13/2/07

PostioPostiwyd: Mer 14 Maw 2007 7:50 pm
gan Jon Bon Jela
1. Enwch un peth y byddwch chi’n ei wneud bob dydd.
Ar hyn o bryd, gwirio Facebook ac osgoi gwneud gwaith coleg.
2. Enwch dau beth hoffech chi ddysgu.
Y piano; astroleg.
3. Tri pheth sy’n eich atgoffa chi o’ch plentyndod.
Parc godidog Llandysul yn yr haf, lolipops 'Zap'.
4. Pedwar peth ‘ych chi’n mwynhau, ond ddim yn gwneud yn aml…
Mynd i'r sinema; coginio pryd o fwyd arbennig i fi a pherson arall; teimlo'n ddi-euog; chwarae Scrabble.
5. Pum peth sy’n gwneud i chi deimlo’n hapus.
Dymchwel byd y Cymry sythion.
Traethau yn y Gaeaf
Dance-offs
Dod yn fuddugol mewn cwisiau tafarn
Hiwmor Sir Gaerfyrddin/Rhydaman.