Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 16 Maw 2007 10:30 am

Mannners maketh man…

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 16 Maw 2007 10:32 am

Dwlwen a ddywedodd:4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?

Freudian typo - yn wreiddiol 'nes i sgwennu "ym mha ffyrch 'ych chi'n gyffredinol anfoesgar?" :ofn:
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 16 Maw 2007 11:32 am

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Penelin ar y ford. Sai'n deall beth yw'r ffys.

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Na allaf.

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Fi'n eitha' da yn rhoi sedd i rywun arall. Hefyd, fi'n trio ngore i ddefnyddio'n ffôn symudol cyn lleied â phosib yn gyhoeddus, gan fod defnydd amlwg amlwg o'r pethe yn gyhoeddus yn 'y nghythruddo i.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Fi'n gallu bod braidd yn swnllyd wrth fyta. A bod yn hwyr yn cwrdd â phobl.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Shgwlwch Arna' i, Dlodion y Deyrnas
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan CORRACH » Gwe 16 Maw 2007 11:39 am

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?

Traed ar y soffa ar ol tynnu'r sgidiau. ond mae hynny fwy "anghwrtais" na "anfoesgar" ma siwr

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?

Hmmmmm, ma rhain yn anodd! Mynd i'r capel ar y sul.

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?

Dwi'n glen rhan fwya o'r amsar. Sgen i fawr ddim cas i ddeud amdan neb na fyswn i'n ddeud yn eu wynebau nhw.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Llawer o bethau pan dwi di meddwi ma siwr. Sgen i'm mynadd siarad efo rhai pobol weithia chwaith.


5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?


Yyym "Wwww, dwi bron a chyrraedd y nenfwd"
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 16 Maw 2007 11:52 am

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?

Dwi'n dal y gyllell a'r fforc ffordd 'rong' - pam, ffycin llai de?!

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?

'O helooooo, sut wyt tiiiii? be ti'n neud dyddie ymaaa?' Ffyc off!

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?

Dwi'n reit da am adel ceir i mewn o mlaen i, a wnai adel y stafell i siarad ar y ffon.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?

Os oes gen i ddim diddordeb mewn siarad efo rywyn, nai jest anwybyddu nhw. Dwi'm yn gweld pwynt man siarad 'cwrtais'.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?[/quote]

Y Garnedd Fawr
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Jeni Wine » Gwe 16 Maw 2007 12:02 pm

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?

Rhegi

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?

Galw bobol yn "chi"

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?

Dwi'n trio ngora i fod yn glen efo pobol lle bynnag yr a i.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?

Dwi hefyd weithia yn anwybyddu pobol pan does gen i ddim mynadd siarad man efo nhw. Ond dwi yn teimlo'n euog wedyn.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?

Ben Boncan
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Wierdo » Gwe 16 Maw 2007 12:09 pm

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Rhaid mi gytuno fo GDG, penelin ar y bwrdd. Mi odd fy ffrindiau ysgol fach yn neud ffys am hyn, doeddwn i rioed wedi clywed amdano! Ond roedd rhoi eich penelin ar brenmesur ar y bwrdd yn iawn :rolio:

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
ym...dynion yn tynnu codi hetia wrth basio ar styrd pan wneith gwen neu helo wneud y tro

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Dwin hoffi meddwl mod i. Dwi'n agor drysa i bobl, yn aros amdanyn nhw (os dwi'n ei nabod!), dweud diolch ac ati

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Pan ma fy mhen i yn rhywle arall. Sydd yn gallu digwdd yn reit aml. Dwin anghofio am bawb arall. Neu pan dwi ar frys. :wps:

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
ewadd, ym "sarth dwfnen"
dwfnen yw nenfwd am yn ôl. Sarth oherwydd fod angen rhywbeth o flaen y dwfnen.

Mi oedd cwestiynnau wthos yma yn anodd!! Nid mod i'n cwyno!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Wil wal waliog » Gwe 16 Maw 2007 12:42 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Fi'n eitha' da yn rhoi sedd i rywun arall.


Ca dy ffacin geg! Wyt ti? :o
"he didn't mean to hit me officer. he's a good man. don't take him away. i fell asleep in the driveway and he run over my head with the truck."

http://www.flickr.com/photos/92984618@N00/
Rhithffurf defnyddiwr
Wil wal waliog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 310
Ymunwyd: Sul 18 Ion 2004 9:37 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan nicdafis » Gwe 16 Maw 2007 1:09 pm

1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?

Na allaf, ddim yn wir. Mae lot o bethau sy ddim o bwys i fi ond fydda i ddim yn eu neud yng nghwmni pobl eraill, 'swn i'n meddwl y byddan nhw'n cymryd offens. Enghraifft Mr Gasyth o fwyta gyda'r fforc yn y llaw de: byddwn i'n wneud hyn gartre, ond ddim yn nh&375; fy mam. Dyw e ddim yn ddigon pwysig i wneud "safiad" drosto.

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?

Gwisgo tei?

Sa i'n gwybod. Mae torri "y rheolau" er mwyn bod yn driw i dy hunan yn iawn, ond ydy hi'n werth dieithrio pobl eraill trwy wneud? Er enghraifft, yr arfer o dynnu het (dynion yn unig, wrth gwrs) wrth fynd mewn i gapel. Mae hyn wedi fy nharo yn hurt ers i mi sylwi yn 5 oed. Oes ots 'da Duw? Ond pam fyddai unrhyw un <b>peidio</b> wneud e?

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?

Yn jyst abowt bob ffordd.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?

Dw i'n tueddu dweud y gwir pan bydd rhywun yn gofyn i mi beth dw i'n meddwl am X, oni bai ei fod yn hollol amlwg taw celwydd golau sy angen.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?

Maes y Morfa 2.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 16 Maw 2007 1:10 pm

Wil wal waliog a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Fi'n eitha' da yn rhoi sedd i rywun arall.


Ca dy ffacin geg! Wyt ti? :o


Fi'n well yn torri dy seddi di, mwnc.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai