Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 1:15 pm
gan garynysmon
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Lot o bethau a deud y gwir. Bod yn hwyr i lefydd am wn i.
2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Methu meddal am ddim.
3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Dwi'n casau pobol sy'n canu a gwneud swn mewn llefydd amhriodol. e.e pobol yn canu gweiddi rhyw ganeuon trist fel 'lawr y lon goch' mewn ty tafarn pan mae pawb arall eisiau peint ddistaw. Fe ddoth hyn yn hen lol ffasiynol ymysg rhai pobol yn fy nyddiau olaf yn y coleg, ac yn wir mynd o dan fy nghroen. Ddim yn licio pobol yn gweiddi rhegi chwaith.
4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Os dwi ddim isho siarad efo rhywyn, neu gweld eu pwynt neu sgwrs yn ddi-bwynt/diflas, wnai ddim eu cydnabod.
5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Hiltons

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 1:41 pm
gan Dwlwen
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Ydi cnoi gwinedd yn cyfri? Gadwch fi fod i strywa' mysedd.

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Fyddai'n gwylltio os ydw i'n cerdded at hewl a car yn stopio i fi gael croesi. Me'n hala fi i stressio am ryw rheswm...

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Mewn llawer o ffyrdd.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Anwybyddu'r siarad mân...

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Sdim cliw 'da fi. Y ty ar y bryn a'r bryn ar y ddaear a'r ddaear ar ddi-i-i-im, falle...

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 2:57 pm
gan Tracsiwt Gwyrdd
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
i gario 'mlaen hefo'r thema cytleri - buta hefo fforc yn unig.

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
cytuno 'fo dwlwen, dwi hefyd yn mynd yn sdresd pan ma' ceir yn stopio - yn enwedig efo pram, achos dwi methu croesi'n sydyn.
...blaw am tu allan i morrisons dre, lle 'sa neb yn stopio a dwi yna am oes.

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
ella bo fi braidd yn anal yn hyn o beth. dwi'n credu mewn manars, fatha cadw drws ar agor am eiliad ar ol mynd drwyddo fo, rhag ofn bo' na rywun yn dwad, aros i bawb orffan byta cyn codi o'r bwr' neu glirio plat, deud 'sgiws mi' ar ol torri gwynt, peidio pigo trwyn o flaen pobol erill, bla bla bla alla' i fynd ymlaen am oes. a ma'n pisho fi off pan di pobl erill ddim yn gneud 'r un peth.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
dwi'n stopio gwrando os ydi rhywun yn boooorio fi... ond heb drio.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
di-deitl - fatha bob dim arall dwi'n trio, ac yn methu, rhoi enw iddo fo.

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 8:21 pm
gan krustysnaks
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Dwi'n aml yn pigo fy nhwyn pan dwi ar fy mhen fy hun ond dwi'n trio 'ngorau i gysidro sut mae pobl eraill yn teimlo (fel arfer).

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Cytuno'n llwyr gyda Mr Gasyth - "Haia krusty!!! Sut wyt ti -insert "cariad" neu "blodyn"-?!!1!!1!" :rolio:

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Dwi'n ymdrechu'n wirioneddol galed bob dydd i fod mor foesgar â sy'n bosib drwy'r amser. Fy meddylfryd: mae'n cymryd 1% ymdrech ar fy rhan i i fod yn neis i bobl eraill. Dwi'n ildio i bobl eraill mewn ciw ac ar y stryd yn ogystal â gwneud pwynt o ddweud "diolch" mor aml â phosib.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Dwi'n gallu bod yn eitha ruthless pan dwi'n cerdded drwy strydoedd trefi. Os dwi ar frys, ewch o'r ffordd!

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Bryn Awelon.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 8:26 pm
gan krustysnaks
garynysmon a ddywedodd:3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Ddim yn licio pobol yn gweiddi rhegi chwaith.

Hyd yn oed mewn gem bêl droed? Yn anaml iawn fyddai'n rhegi heblaw am pan dwi'n gwylio chwaraeon.

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 8:39 pm
gan Manon
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Wedi sylweddoli ers i mi gael piercing yn fy nhrwyn faint o bigo trwyn o'n i'n arfar 'neud!

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Pobol 'dwi'n gwbo sy'm yn keen ana fi yn gneud point o sgwrsio'n neis efo fi. Fatha' 'swn i'n gutted os 'sa nw'n fy anwybyddu i.

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
'Dwi'n trio bod mor anryfelgar a phosib. Mae 'na adegau wedi bod lle 'ma pobol wedi trio neud i mi ffraeo efo nhw, a 'dwi jysd yn bod yn glen fel ymateb- fi sy' gryfaf wedyn.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Achos bo' fi'n trio bod yn glen wrth bawb, 'dwi weithia'n ddau wynebog.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Teth y Fron.

PostioPostiwyd: Gwe 16 Maw 2007 8:57 pm
gan garynysmon
krustysnaks a ddywedodd:
garynysmon a ddywedodd:3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Ddim yn licio pobol yn gweiddi rhegi chwaith.

Hyd yn oed mewn gem bêl droed? Yn anaml iawn fyddai'n rhegi heblaw am pan dwi'n gwylio chwaraeon.

Be ti'n feddwl? :winc:
Wahanol mewn lle felly dydi? Ar y stryd a ballu dwi'n feddwl, rhyw teenagers yn gweiddi rhegi o flaen hen bobol a ballu.

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

PostioPostiwyd: Sad 17 Maw 2007 8:34 am
gan sanddef
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?

Licio platiau ar ôl gorffen bwyta

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?

Dweud "Sut mae" os nad oes diddordeb gen ti am yr ateb. Mae "Bore da", "Hylo" etc yn ddigon derbyniol.

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?

Os bydd rhywun yn ymweld â mi dw'i'n diffodd y teledu. Hefyd os dw'i'n cael galwad ar fy ffon symudol yng nghanol sgwrs dw'i'n ffonio yn ôl wedyn yn lle torri ar draws y sgwrs.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?

Dw'i'n anwybyddu Cristnogion Newydd-Anedig os maen nhw'n ceisio fy atal ar y stryd. Hefyd os dw'i'n cael lie-in dw'i ddim yn ateb y drws i neb.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?

Baswn i'n ei roi i'r mudiad Cymuned, felly penderfyniad y mudiad byddai.

Re: Pump am y Penwythnos - 16/3/07

PostioPostiwyd: Sul 18 Maw 2007 4:19 pm
gan Sili
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Diffyg political correctness gan bobl. Dwi'm yn dallt be sy'n bod efo galw rhaw yn raw :rolio: Wrth gwrs, ma na limits mashwr.

2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Cytuno efo Corrach, capal ar ddydd Sul.

3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Wastad yn rhoi'n sedd i bobl hyn/anabl/beichiog'hyll ayyb, wastad yn agor drysa, wastad yn gwenu a deud "diolch" wrth bobl.

4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Dwi'n dueddol o ddeud be sy'n dod i mhen i'n syth heb feddwl am y peth gynta. Ma hyn yn landio fi up a certain creek without the preverbial paddle reit aml.

5. Pe bai chi’n berchen ar blasty crand ar gopa bryn, beth fyddech chi’n ei alw?
Casa Eroti 'de 8)

PostioPostiwyd: Sul 18 Maw 2007 7:19 pm
gan Cawslyd
1. Allwch chi feddwl am weithred y byddai’r mwyafrif o bobl yn ystyried yn anfoesgar, sy’n golygu fawr o ddim i chi?
Ma'n dipyn o boen pan 'da chi'n mynd allan am fwyd, ma disgw'l i chi ddisgw'l i bawb arall gal'u bwyd cyn i chi gal cychwyn. Mae'n her dibwynt, so dwi jysd yn rhoi 'ngwyneb yn y blât, ac yn bwyta. Iym.
2. Fedrwch chi feddwl am ddefod foesgar sy’n ddi-nod yn eich barn chi?
Deud "sir" neu "madam". Basdads.
3. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol foesgar?
Dwi'n licio gwenu ar bobl. A deud helo. A plis a diolch. Ac yn un da am ysgwyd llaw a rhoi hygs.
4. Ym mha ffyrdd ‘ych chi’n gyffredinol anfoesgar?
Dwi'n trio lladd pob sgwrs ma' unrhywun yn trio'i gych'wn mewn toilets. Mae angen sbês ar ddyn weithia'.

Timbuktu.