Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 23 Maw 2007 12:27 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Newydd archebu EP Radio Lux o wefan Sebon. Cyn hynna, Neon Bible gan Arcade Fire, Bore Da gan Euros Childs a 'Giant' gan Herman Düne. A fi'n meddwl pam bo' fi mewn dyled...

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
'Os Chi'n Lladd Cindy' yn Steddfod llynedd. Ond s'dim chwaraewr recordiau 'da fi. Fi angen cael un.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ddim fel'ny. Fel Jeni, mae'n rhaid i fi gael y peth yng nghledr fy llaw.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Dim sydd werth rhyw lawer yn ariannol. Yn emosiynol, bosib y copi o Grace sydd dal 'da fi o '98. Fe es i drwy'r brifysgol gan wrando ar yr albwm ar fore pob arholiad fel lwc dda.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Rho'r ffurflen cerdyn credyd 'na lawr.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 23 Maw 2007 12:42 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Wsnos dwetha, Goreuon Heather Jones. Safon 8)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Be?

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Rioed di gneud. Fel sawl un arall, dwi'n hoffi cael rhywbeth yn fy llaw ac i gadw. Am yr un rheswm dwi ddim yn defnyddio llyfrgelloedd rili.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Gen i man Don't Give a Fuck hefyd. Yn emosiynnol mae Different Class gan Pulp yn f'atgoffa o'm blynyddoedd arddegol. Nid yr albwm gerddorol ore sgen i, ond fy ffefryn dal i fod heb os.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?[/quote]

Paid poeni gymaint am bethe
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Cymro13 » Gwe 23 Maw 2007 12:44 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Outlander - Meic Stevens ar Ebay

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Dyniadon Ynfyd Hirfelin Tesog - ar E Bay

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Ydw - Yn enwedig os yw e am ddim :crechwen:

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr - Hen Wlad fy Nhadau
Jip - Genod Oer

EP Brawd Hwdini - GYDA LLOFNOD MEIC !!!!

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?

Gormod i'w rhestri !!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Cymro13 » Gwe 23 Maw 2007 12:47 pm

ceribethlem a ddywedodd:5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?Hwp ddecpunt ar y Gymru'n ennill y Gamp lawn o fewn pum mlynedd.


Bydde ti dal di colli - 2005 (Tair blynedd dylet ti fod wedi dweud)
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Wierdo » Gwe 23 Maw 2007 12:51 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
flwyddyn dwetha; bocset Eric Bogle

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Rieod wedi gwneud dwi ddim yn meddwl

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Mi fyddai'n gwneud pam mae'r ysfa yn codi. Mae gan fy mrawd gyfrif Napster a dwi'n cael rhannu hwnnw felly dwi'n defnyddio hwnnw o dro i dro. Dwi hefyd yn dwyn caneuon oddi ar maisbeis os yw bobl yn gadal mi wneud

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Fy mocset Eric Bogle. Amwni

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Bydda'n fwy hyderus a tynna lot o lunia
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 23 Maw 2007 12:59 pm

Cymro13 a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?Hwp ddecpunt ar y Gymru'n ennill y Gamp lawn o fewn pum mlynedd.


Bydde ti dal di colli - 2005 (Tair blynedd dylet ti fod wedi dweud)


Ma' 3 blynedd o fewn 5 :winc:
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Siffrwd Helyg » Gwe 23 Maw 2007 1:05 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Fi'n hollol sgint yn ddiweddar, ond wedi prynu un cd ers Dolg (ahh!) a Radio Luxembourg - Diwrnod gyda'r Anifeiliaid odd hwnna.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
EP Mr Huw adeg Dolig

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Dim rili - fi'n hoffi cael y cd yn fy nwylo a gweld y clawr a stwff... Ond fi hefyd yn berson diamynedd iawn - os fi'n cael e yn fy mhen bod fishe rhwbeth, fishe fe NAWR - so weithie nai brynu off itunes (yn lle cerdded i ben y stryd i Andys Records.... hmmmm...!)

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Yn emosiynol - Sengl Oasis - Don't look back in Anger. Nath hwnna gal fi mas o'r Boyzone-phase. Cofio grando arno fe drosto a drosto a drosto... a drosto....

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Gwna Celf yn lle daearyddiaeth i TGAU. Gwna Ffrangeg i Lefel A. Ystyria opsiyne ehangach na just cymryd yn ganiataol mai astudio Cymraeg yn y Brifysgol yw dy dynged! Paid a gwisgo'r dillad AFIACH na!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Manon » Gwe 23 Maw 2007 1:15 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Nes i brynu CD Regina Spektor i fy chwaer a gnweud copi i mi fy hun- Hyfryd hyfryd hyfryd!

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
'Dwi'n ama' bod o'n singl Kylie a Jason, Especially for You.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Hmmm. Wel, yndw, a 'dwi'n lawrlwytho llwythi off allofmp3.com (rhad fel baw!) ond 'dwi yn gweld isho llyfryn bach twt yn fy llaw.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Am gwestiwn da! Mae gen i hen CDs James Taylor mam sy'n werthfawr iawn i mi, yn enwedig Hourglass. O ran gwerth ariannol, mae gen i sengl I Am a Free Spirit- Fatha fersiwn rap o'r interview Panorama 'na 'nath y Dywysges Di cyn 'ddi farw- beryg bo' hwnna'n werth wbath.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Chill out, Manon fach, a mwynha' bywyd. Mae popeth yn mynd i fod yn iawn!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 23 Maw 2007 1:22 pm

Cymro13 a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?Hwp ddecpunt ar y Gymru'n ennill y Gamp lawn o fewn pum mlynedd.


Bydde ti dal di colli - 2005 (Tair blynedd dylet ti fod wedi dweud)


tro dwetha i mi checio, mae tair mlynedd yn llai na phump.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan ceribethlem » Gwe 23 Maw 2007 1:37 pm

Tegwared ap Seion a ddywedodd:
Cymro13 a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?Hwp ddecpunt ar y Gymru'n ennill y Gamp lawn o fewn pum mlynedd.


Bydde ti dal di colli - 2005 (Tair blynedd dylet ti fod wedi dweud)


Ma' 3 blynedd o fewn 5 :winc:
'Na beth o'n i'n meddwl :lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai