1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Tro diwetha fi brynu CD go iawn a dim lawrlwytho?? Llynedd rywdro.
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Rioed.
3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ydw, a dwi'n bod yn hogan dda ac yn llosgi copi yn syth ar ol gneud (fyddai yn printio clawr a petha fyd - ydi hynna'n fy ngeud i dipyn yn drist??) Hefo singles, fyddai'n disgwl nes fod gin i tua 15 nes llosgi disc o'r rheini. itunes ydi'r peth gwaetha ddigwyddodd i fy nghyfrif banc erioed.
4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Sgen i ddim byd sydd yn werthfawr yn yr ystyr ariannol, ond mae na sawl un sydd yn golyg lot i mi. Ma Performance and Cocktails gin y Stereophonics yn bwysig i mi, dim oherwydd fod y gerddoriaeth yn ddim byd ofnadwy o sbeshal, ond oherwydd dyna oedd soundtrack fy arddegau canol.
5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Chilia. Mi WYT ti ddigon da i fynd i'r coleg, mi fyddi di'n gneud yn iawn yn ganol yr holl Saeson hunan-bwysig. Fydd y 5 mlynedd nesa ma'n lot haws os ti'n stopio'r inferiority complex na'r munud ma!