Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan dafyddpritch » Gwe 23 Maw 2007 11:53 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Bore Da gen Euros Childs yn gig Euros Childs yn y Point ym Mae Caerdydd dechra mis yma

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Radio Lux, Os chi'n lladd Cindy yn Steddfod

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Na!

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Coldplay, A Rush of Blood to the Head. Di'm yn siwr pam yn union jysd atgoffa fi o amseroedd da iawn.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Paid a rhoi petha i ffwrdd tan fory elli di neud heddiw ac EDRYCHA AR OL DY BRES!
Fel yr oeddech
Rhithffurf defnyddiwr
dafyddpritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 128
Ymunwyd: Gwe 14 Gor 2006 6:12 am
Lleoliad: Llanberis

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Sad 24 Maw 2007 12:20 am

1. dwi ddim yn cofio. ddim 'di prynu cd i fi'n hun ers oesoedd. ond candylion ydi'r dwytha i fi gael yn anrheg... os 'di hunna'n cyfri.
2. llwybr llaethog / d.r.e tua tair blynadd yn ol.
3. ella faswn i taswn i'n gwbod sut.
4. o'r gad. mae o'n gasgliad cyflawn o 'nheimlada i i gyd ar un tap, ac yn dod ag atgofion melys o fod yn ifanc a naif iawn.
5. dim. dwi 'di gneud lot o betha gwirion, ond taswn i'n dechra newid un ohonyn nhw ella 'swn i ddim yn lle ydw i rwan - a 'swn i'm isho newid hynny am y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Chwadan » Sad 24 Maw 2007 11:22 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Euros Childs - Bore Da, yn ei gig yn y Point.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Sa gennai'm clem sut i neud :?

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Yn emosiynol - Bryter Later, Nick Drake, mashwr. Dwi'm yn meddwl bo run ohonyn nhw'n werth mwy na tua £15.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Cofia ymarfer rifyrsio mewn i parcing sbes neu mi fethi dy dest am yr eildro.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan nicdafis » Sad 24 Maw 2007 11:51 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Ces i What's the Ugliest Part of Your Body? yn y post ddydd Iau.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Ces i Alex Guiness darllen y Wasteland yn siop Barnardos, Aberteifi, rhyw ddeufis yn ôl. Fel Ceri B, sdim chwaraeydd recordiau 'da fi, ond gwyddonydd yw hwnna. Dw i'n cael wneud pethau sy ddim yn wneud sens.

Dw i am brynu stereo newydd, unwaith bod y bobl sy biau'r hysbys ar ben y dudalen hon (wrth i mi sgwennu, nid wrth i chi ddarllen) yn fy nhalu fi am y bygar.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Oh, yn eitha hoff ohono fe. Dim ond rhyw 10 albym y dydd. Dw i'n trial torri i lawr.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Yn ariannol: Big Black - Headache - mae'r dudalen 'na yn saff, ond paid clicio ar y lincs o fan'na os wyt ti yn y gweithle, neu newydd fwyta. Iesgob. Mae rhywun yn "gofalu" am y record hwn drosta i, ers 1989, ond dw i'n gwybod ble mae e, a bydda i'n ei gael yn ôl. Ces i gwpl o recordiau yn ôl pwywythnos gan rywun oedd wedi eu benthyg yn 1984, felly dw i'n eitha hyferus am hyn.

Emosiynol: yn fwy anodd dweud. Mae gen i gopi o'r 7" gan y Beatles a Tony Sheridan, My Bonnie, a fyddai'n werth lot mwy na'r un uchod 'sai fy Modryb Helen ddim wedi sgwennu dros y clawr a'r label i gyd gyda beirio yn 1962 :rolio: Stil, hwnna yw'r record cyntaf i mi gofio chwarae, felly hwnna yw'r un mwya gwertfawr, siwr o fod. Fel arall, Still Life, Van der Graaf.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?

Paid yfed gormod ar noson gyntaf y Steddfod.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron