Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Socsan » Gwe 23 Maw 2007 2:10 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Tro diwetha fi brynu CD go iawn a dim lawrlwytho?? Llynedd rywdro.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Rioed. :wps:

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ydw, a dwi'n bod yn hogan dda ac yn llosgi copi yn syth ar ol gneud (fyddai yn printio clawr a petha fyd - ydi hynna'n fy ngeud i dipyn yn drist??) Hefo singles, fyddai'n disgwl nes fod gin i tua 15 nes llosgi disc o'r rheini. itunes ydi'r peth gwaetha ddigwyddodd i fy nghyfrif banc erioed.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Sgen i ddim byd sydd yn werthfawr yn yr ystyr ariannol, ond mae na sawl un sydd yn golyg lot i mi. Ma Performance and Cocktails gin y Stereophonics yn bwysig i mi, dim oherwydd fod y gerddoriaeth yn ddim byd ofnadwy o sbeshal, ond oherwydd dyna oedd soundtrack fy arddegau canol.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Chilia. Mi WYT ti ddigon da i fynd i'r coleg, mi fyddi di'n gneud yn iawn yn ganol yr holl Saeson hunan-bwysig. Fydd y 5 mlynedd nesa ma'n lot haws os ti'n stopio'r inferiority complex na'r munud ma! :lol:
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan dave drych » Gwe 23 Maw 2007 3:35 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Pythefnos yn dôl - Neon Bible gan yr Arcade Fire. Nes i brynu o o Andy's yn Aberystwyth. Dwi'm yn dallt y boi sy'n rhedeg y siop 'ne n'de. Pan es i at y cownter i dalu, nath o dechrau cael rant am yr albwn hyn, yn cwyno pa mor debyg i'w hoff albwm Echo and the Bunnymen o'r 80'au a pa mor crap oedd Neon Bible. Roeddo'n mynd ymlaen am y diwydiant cerddoriaeth yn connio pobl ifanc ddi-wybodus (fi) i brynu cerddoriaeth wedi ei ail-gylchu. Pric.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Adeg 'Dolig - Youth gan Matisyahu. Double heavy-weight vinyl oeddo! Dwi'n gellu bod ychydig o geek pan mae'n dod at vinyls limited edition.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Dwi erioed di prynu unrywbeth drwy lawrlwytho. Dwi yn lawrlwytho o Ares weithiau. Dwi di gwario digon o bres ar gerddoriaeth, felly dwi'n haeddu cael ychydig a ganeuon am ddim!

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Lot o bethau sy'n werthfawr emosiynol - London Calling gan y Clash er enghraifft. Newi sbïo ar e-bay, a gweld bod 7" Biffy Clyro nesi brynu pan yn yr ysgol yn mynd am £20+!

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?[/quote]
"Doedd hi'm hynne sbesial"
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan *HERO69* » Gwe 23 Maw 2007 3:59 pm

1. Air - pocket Symphonies dydd Mawrth. ar ol 3 gwrandawiad ma fe bron cystal a 10,000Hz.

2. Dim mor aml ond ges i Seven Sleepers Den dydd Iau.

3. CWESTIWN DA - MA PAWB YN HOFF O lawrllwytho tunes. cerwch i http://www.recordiaukimberley.co.uk (Rec Kim) a lawrllwythwch loads o tunes da. a gwyliwch mas am podcasts / video casts / gigs a ballu.

4. dwnim / saimo.

5. colles i diddordeb ar ol cwestiwn 3. ond rhywbeth fel "tyfa par o bols a ffinda jobyn well - y pwrsyn"
Fi'n mynd i safio'r SRG o'r Port connection
Rhithffurf defnyddiwr
*HERO69*
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 391
Ymunwyd: Llun 15 Rhag 2003 12:04 pm
Lleoliad: Carffosiaeth

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Sili » Gwe 23 Maw 2007 4:12 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Wsos dwytha, dau Lou Reed, dau Johnny Cash, ELO ac un arall dwi'm yn cofio :wps: dwi fod yn sgint...

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Un mistar Huw.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Nagydw, mae'r rhaglenni wastad yn bygro'r cyfrifiadur fyny felly dwi di rhoi'r ffidl yn y to efo hynna.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Un Milt Buckner, Rockin' Hammond. Nid yn unig werth dipyn go lew ond hefyd yr unig albym allai wrando ar drosodd a drosodd heb laru. Fy record ffefryn heb os.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Paid byth defnyddio'r geiria "gnewch be dachisio efo fo" wrth ddynes torri gwallt. Mullet coch llachar a ddaw... :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 23 Maw 2007 4:35 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Mis diwethaf - Albwm Mika.
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Sengl, hynny yw? Hmmm... methu cofio.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ydw, am pop-fix sydyn, ond prynu CDs gan amlaf.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Radiohead - OK Computer ac Ultimate Kylie.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Paid â phoeni, dyw cathod na draenogod ddim yn gwybod y gwahaniaeth.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Gwe 23 Maw 2007 5:41 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Wythnos hyn, EP Radio Lux. Yr wythnos cyn 'ni ges i 'Pet Sounds' a 'Entroducing' gan DJ Shadow, 'Neon Bible' a 'Bore Da'. A newydd archebu un gan Boards of Canada o eBay heddi.
'Itha habit 'da fi ar hyn o bryd.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Erioed di byrnu un. Bydd dim clem da fi ffordd i whare un. :wps:

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Odw, ond dimond i gal blas o rhwbeth cyn pryni'r cd go-iawn.
Os ôs gân arbennig a fi'n gwbod yn nêt fydda i methu stwmog albwm cyfan, â fi ar iTunes i gâl e.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Llwyth o bethe. "And Out Come the Wolves" gan Rancid yn atgoffa fi o blynydde ola' ysgol, ma'r Triawd Datblygu yn neud y r'un peth o ran Brifysgol.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Ma Carling yn afiach 'ychan.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 23 Maw 2007 6:18 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Yyy...fymryn yn ôl. The blues roots of Eric Clapton o Woolworth am £1. Benthyg CDs sy'n costio dros £5 dwi.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Pryd oedd y tro cynta?

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ddim felly, dim mynadd talu am dracia.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Ariannol, Cyngerdd Les Mis. Yn emosiynol, Greatest Hits cynta Dylan mae'n siŵr - nid am ei fod o'n gasgliad gwych ond am mai dyna'r profiad cynta ges i ohono Fo.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Paid â mynd ar maes-e.
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan anffodus » Gwe 23 Maw 2007 6:23 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Cream of Clapton ym mis Ionawr

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
'Rioed di gneud

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Na. Es i'n nyts ar limewire ryw dro, ond ar ol y tro cynta nath y rhaglan wrthod agor

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
The Pogues - The Ultimate Collection. Gwych o cd. 'Di agor 'yn llygad i i gerddoriaeth gwerin a pync.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
ti'n mynd i fod angan beiro!
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan dawncyfarwydd » Gwe 23 Maw 2007 7:19 pm

anffodus a ddywedodd:1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Cream of Clapton ym mis Ionawr
Pam na ddudist ti? Arbad punt i fi yn bysa'r llipryn. Lle ti'n feddwl w't ti - Bytlins?!
Rhithffurf defnyddiwr
dawncyfarwydd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 4:27 pm
Lleoliad: yn dal yma...

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Gwe 23 Maw 2007 8:19 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
albym euros childs a ep radio lux tua thefnos / 3 wthnos nol

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
nesi brynnu sengl like a star corinne bailey ray tua mis tachwedd

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
ymmmmmm, ydw - gora'n byd os dio am ddim

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
wnim am ariannol ond ma pob cd yn golygu wbath gwahanol i fi. dwi'n meddwl yr un mwya dylanwadol ydy cd o gerddoriaeth philip glass sydd wedi'n ysbrydoli i i gyfansoddi fel dwi'n cyfansoddi heddiw

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
i beidio cymryd petha ormod o ddifri, peidio gwrando ar mam, peidio bod mor ddiniwed... a cario mlaen i fod yn uffernol o hapus a siriol fo pawb!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai