Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 23 Maw 2007 11:29 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan ceribethlem » Gwe 23 Maw 2007 11:46 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?Bore Da gan Euros Childs wthnos dwetha

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?Dim chwareuwr recordiau gyda fi

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?Fi'n mynd yn rhy hen i ddeall y dechnoleg fodern 'ma

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?ariannol - fersiwn gwreiddiol limited edition o "The Man Don't Give a Fuck" gan SFA. Emosiynol - "Merched yn neud gwallt ei gilydd" gan y Gorky's. Atgofion o haf hapus a gwyllt yn Aberystwyth yn ystod dyddie coleg (Haf 1994 os fi'n cofio'n iawn)

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?Hwp ddecpunt ar y Gymru'n ennill y Gamp lawn o fewn pum mlynedd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Jeni Wine » Gwe 23 Maw 2007 12:00 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Wsos dwytha - Brawlers, Bawlers and Bastards gan Tom Waits

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Mis Hydref dwytha - Jean-Claude Vannier 7" EP

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Na, ddim rili. Well gen i ddal y cynnyrch yng nghledr fy llaw.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Yn emosiynnol, 7" Hanner Dwsin efo 'Ysbryd y Nos' ar yr A-side ac 'O Dan y Dwr' ar y B-side. 8)

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?

Paid a byta'r apple turnover na
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan garynysmon » Gwe 23 Maw 2007 12:05 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Misoedd yn ol. Vanta dwi'n credu.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Erioed wedi gwneud

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Ydw, gwneud bob nos bron.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Dwi'm yn meddwl fod gen i un gwerthfawr.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?

Dos i'r coleg yn llawn hyder.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan bartiddu » Gwe 23 Maw 2007 12:08 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Casgliad 'Y gore oll' gan Led Zeppelin yn gwmni i llyfr ar amazon.
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
LP 'Back to Back' Status Quo yn Woolworths Aberteifi yn 1983, Duw Duw!
3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Audiogalaxy? Napster? Kaza? Oeddwn yn hoff iawn, ond dim yn ddiweddar.
4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Blwch gasgliad Edward H.
5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Ddrwg da fi 'weud boi, i ni dal yn yr un twll o hyd!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Dwlwen » Gwe 23 Maw 2007 12:12 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Old Fashined Love gan John Fahey. Tua pythefnos nôl. Wy'n bihafio a'n peidio gwario.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Pff. Fi 'di prynu 2 record erioed - Annie Lennox "Walking on Broken Glass" a Paul Young "Otis Blue" - ddaeth mas yn 1993 yn ôl Wikipedia, felly wy'n beio'r diffyg chwaeth ar y ffaith 'mod i'n 11 ar y pryd... Ma "Walking on Broken Glass" dal yn wych o diwn, wrth gwrs.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Nadw. Wy'n hoff o ddarllen clorie albyms ac edrych fel ffwl wrth ganu o'r lyric sheet... 'Nes i hwn wrth wrando ar "His and Hers" gan Pulp unwaith, yna sylwi ar nodyn gan Jarvis Cocker ar waelod y ddalen yn dweud "don't read the lyrics whilst listening to the music." Diolch Jarvis.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Sdim lot o werth ariannol - signed copi o Franz Ferdinand ges i fel fluke. Yyym, hen LPs Beatles Mam - ond ma'r whar 'di dwyn rheini... Gwerth emosiynnol: ambell i fix-tape. Recordiad o fi a 'ngwar yn 'neud 'Tu ol i'r dorth mae'r blawd' (Pontyberem '85.)

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Adolyga! A cer i deithio.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 23 Maw 2007 12:18 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Dwi wedi bod yn fachgen da iawn yn ddiweddar - dwi heb brynu llawer o CDs ers y flwyddyn newydd. Radio Luxembourg - Diwrnod gyda'r Anifeiliaid oedd yr un diwethaf.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Canol Ionawr. Wham! - Make It Big.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ydw. Dwi'n prynu traciau'n weddol aml. Dwi byth yn dwyn. Y ddwy gân ddiwetha i fi lawrlwytho oedd En Vogue - Don't Let Go (Love) a'r Carpenters - Rainy Days and Mondays.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Dwi'n hoff iawn o fy recordiau Bando - un o'r rheiny.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Ymlacia.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan sanddef » Gwe 23 Maw 2007 12:18 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Mis Ionawr

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Be' ti'n feddwl? Feinil? Rhywbryd ym 1990.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

O ie. Diolch i'r nefoedd am y rhyngwe.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Heaven or Las Vegas gan y Cocteau Twins. Ni allaf fyw heb y CD 'ma.

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?

Paid troi'n 30 oed. Yn enwedig os ti'n sengl.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan Ari Brenin Cymru » Gwe 23 Maw 2007 12:21 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Chydig fisoedd nol, albwm Get Cape Wear Cape Fly.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?

Erioed wedi.

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Na.

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?

Bran-Ail Ddechra

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?

??
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 23.3.2007

Postiogan mam y mwnci » Gwe 23 Maw 2007 12:26 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?

Best of - Dolly Parton yn little Chef Dolgellau cyn dolig!

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
Heddiw - EP Brigyn!

3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?

Ydw - Hoff iawn - dwi newydd lawr lwytho Album Hanna Montana i un o'r plant!

4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
7" Brown Sauce - i just wana be a winner! 8)

5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?[/quote]

Paid a chael genedigaeth naturiol - os ti'n cael cynnig cyffuriau - cymer nhw! :ofn:
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron