1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu CD?
Newydd archebu EP Radio Lux o wefan Sebon. Cyn hynna, Neon Bible gan Arcade Fire, Bore Da gan Euros Childs a 'Giant' gan Herman Düne. A fi'n meddwl pam bo' fi mewn dyled...
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi brynu record?
'Os Chi'n Lladd Cindy' yn Steddfod llynedd. Ond s'dim chwaraewr recordiau 'da fi. Fi angen cael un.
3. Ydych chi'n hoff o lawrlwytho cerddoriaeth?
Ddim fel'ny. Fel Jeni, mae'n rhaid i fi gael y peth yng nghledr fy llaw.
4. Beth yw'r CD/record mwyaf gwerthfawr yn eich casgliad - yn ariannol neu'n emosiynol?
Dim sydd werth rhyw lawer yn ariannol. Yn emosiynol, bosib y copi o Grace sydd dal 'da fi o '98. Fe es i drwy'r brifysgol gan wrando ar yr albwm ar fore pob arholiad fel lwc dda.
5. Pa gyngor fyddai'r fersiwn 2007 ohonoch chi'n hun yn ei roi i'r fersiwn 2002 ohonoch chi'ch hun?
Rho'r ffurflen cerdyn credyd 'na lawr.