1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Os oedd gen i unrhyw uchelgais i ennill arian, do siwr braidd er bod fy ffrindiau o adre'n meddwl fyddai'n sorted ar ol gorffen yn coleg! Edrych ar wneud PhD hefyd! Hyd yn oed hirach yn coleg gret!
2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Unrhyw bwnc ble da chi'n coleg jest am cwpwl o oriau'r diwrnod! Mwynhau hanes a gwleidyddiaeth on os felly y dewisiadau anghywir ar gyfer TGAU hyd yn oed!
3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Cymleth falle fod casau yn rhy gryf ond mae na foi sydd yn cyfranu dim i waith grwp yn dweud ei fod yn sal ac wedyn yn mynd i'r dafarn! Un person yn y dosbarth dyw pawb ddim yn cin iawn arno a dweud y lleiaf!
4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Mae'n mynd yn rhy gyflym yn barod o ran y gwaith sydd angen i wneud! Ond darlithwyr sydd a hiwmor a sydd ddim yn undonog, lwcus iawn fel na mae disgrifio'r rhan fwyaf!
5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael.
Gwyddonwr eto falle ond mewn cyfnod pan oedden nhw'n byw mewn plasdai, yn darganfod pethau pwysig ac yn uchel eu parch. Cyn y Daily Mail a'i storiau "gwyddonol" falle!