Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 30 Maw 2007 9:22 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Cymro13 » Gwe 30 Maw 2007 10:32 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?

Ydw - odd pawb yn dweud yn yr ysgol i gadw fy opsiynnau ar agos a nes i bach gormod nes bo fi ddim wir yn gall uigenud unrhywbeth(os di hwnna'n neud sens)

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?

Cwrs Ymarfer Dysgu :?

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?

Taw pia hi!

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?

Facebook a Maes E :winc:

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?

Spin Doctor i Blaid Cymru yn y 70au
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan Dwlwen » Gwe 30 Maw 2007 10:48 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Ddim rili. 'Nes i radd faffy odd ddim yn arwain at unman, wedyn dechrau swydd faffy 'nath arwain at rhywle, trwy lwc.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Yn gyffredinol, neu be arall hoffen i fod? Hoffen i lunio story-boards, neu 'neud unrhyw swydd tebyg sy'n gofyn i ti freuddwydio a dwdlo trwy'r dydd.

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Nyp.

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Paneidiau.

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Gwrach.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 30 Maw 2007 10:55 am

1. na, mwynhau be' dwi'n neud. ond ddylwn i 'di sticio efo modiwl gramadeg. a dwi'n dyfaru weithia bo fi heb 'neud cwrs sylfaen mewn celf.
2. celf. ond ma'n siwr 'swn i 'di glanio'n yr un lle'n diwadd.
3. oes.
4. gweithio, a llai o maes-e ac e-bay.
5. siwan
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan docito » Gwe 30 Maw 2007 11:09 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
na, dwi bellach yn meddwl bo' fi ar y trywydd iawn

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
chwaraewr rygbi proffesiynnol :rolio:

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
oedd/nag oedd/oes

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
maes e

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Base'n i di hoffi fod yn un o'r cryse brown yn ystod y ddauddegau a'r tridegau. Ma'n 'n rhwbeth deiniadol iawn am y wisg, y syniad o drefn y..
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan Sili » Gwe 30 Maw 2007 11:24 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Weithia dwi'n rhyw how ama os ydwi'n gneud y peth iawn (h.y. pan ma na lwyth o waith diflas i'w wneud a minna'n teimlo'n ddiog...), ond ar hyn o bryd dwi'n hollol hapus efo newis.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Artist fyddai'n ail ddewis i wedi bod, ond mai'n braf medru ffeindo'r amsar i neud gwaith celf ynghyd a nghwrs meddygaeth.

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Oes. Y twrdyn dwi'n byw efo. Digwydd bod ar yr un cwrs a mi hefyd, damia :drwg: Dwi di bod yn bodloni'n hun yn ddiweddar drwy sgwrio'r toilet efo'i frwsh dannedd...

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Cwsg.

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Artist. Unrhyw gyfnod cyn belled a mod i'n cael fy adnabod am gychwyn arlunio mewn steil hollol newydd a chwyldroadol (waeth befo os dio'n dda ne ddim!) :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 30 Maw 2007 11:46 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Dwi'n licio ngwaith, ond dwi'n meddwl y buasai dewis pwnc arall yn y coleg wedi mharatoi i yn well ar gyfer y math o beth dwi'n ei neud.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Gwas sifil, cyfrynga, pr, cyfieithu...
Mi faswn i'n licio mynd nol i coleg i neud gradd arall hefyd. Gradd Baglor, nid gradd uwch, a gwneud gwell defnydd o'r amser tro 'ma.

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Nag oes. Weithia mi fydda'i ddim yn licio cael rhywun o gwmpas, ond dydi hynny ddim cweit mor bersonol.

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Gweithio'n galed sy'n gwneud i'r amser fynd gyflyma. Mae diwrnod o din-droi ar y we yn mynd yn araf iawn, iawn

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Isda yn y drawing room yn cogio gwneud brodwaith.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Postiogan Gwen » Gwe 30 Maw 2007 11:47 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?

Wel, mi fuish i'n sdiwdant yn lot rhy hir fel nad oes gen i'm pres i ddim byd a finna ar drothwy'r 30. Ond taswn i'n mynd yn ôl, mae'n siwr y byswn i'n gneud yn union run fath eto, felly fedra i'm deud mod i'n dyfaru.


2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?

Er gwaetha fy ateb i gwestiwn 1, dwisho mynd yn ôl i'r coleg i ddilyn cwrs arall. Isho cymhwyso fel archifydd. Ond mae hi'n anodd gadael y rat rês unwaith dach chi arni (nid bod be dwi'n neud cweit yn y rat rês chwaith). Ond dwi di dechra dysgu Lladin yn y gobaith y galla i wneud hyn rywbryd. Hefyd er mwyn trio bod yn fwy dysgedig.


3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?

Dwi'm yn casáu neb, ond mae na rai pobol 'anodd', fel sy na ym mhobman.


4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?

Cael cinio hwyr. Top tip!


5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?

Yn ddelfrydol, swn i'n ddigon cyfoethog i beidio gorfod gweithio o gwbwl. Ond dwi'n gwbod hefyd y byswn i'n laru ar hynny yn fuan iawn. Dwi'n eitha licio bod yn ymchwilydd a chael y wefr yna dach chi'n ei chael wrth ddarganfod rwbath newydd, sy o bosib wedi bod ynghudd ers canrif a mwy (yn fy achos i - lot hirach i ymchwilwyr eraill wrth gwrs). Mi fyswn i'n licio bod yn archifydd rywbryd yn y dyfodol am yr un rheswm + mwy o sefydlogrwydd.

Yn groes i'r farn gyffredin, dwi ddim yn deisyfu bod yn chwarelwr nac yn wraig i chwarelwr.
Mwy no thân mewn eithinen.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1825
Ymunwyd: Llun 14 Ebr 2003 2:40 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan sian » Gwe 30 Maw 2007 11:54 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?

Na. Dw i'n hapus fel ydw i, diolch.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Dim lot â dweud y gwir - pan o'n i'n y coleg ro'n i'n dychmygu y byswn i'n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn byw yn rhywle fel Taliesin.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Dw i yma ar ben fy hunan bach - yn parablu â'n hunan reit gytun drwy'r dydd.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Gweithio'n galed.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?

Dw i ddim yn gwbod - ond nid un William Morgan na Bruce Griffiths.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 30 Maw 2007 12:06 pm

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Tydw i ddim yn difaru per se, ond mi fyswn i wedi gwerthfawrogi deall beth ydi peirianneg yn y cyfnod pwysig hwnnw pan oedd rhaid dewis. Mi ddewisish i'ngyrfa o dan rhyw "false sense of knowledge", ac mewn gwirionedd 'ron i'n gwybod cynlleied amdano ag yr o'n i am beirianneg (jysd mod i'n gwybod am un, a ddim yn adnabod peirannydd, ella). Gyda llaw, er gwybodaeth, fy nhroi i yn erbyn y fath yrfa wnaeth y "WISE bus" (women in science and engineering) ddaeth i'r ysgol i drio annog merched i ddilyn gyrfa felly. Roedd o mor nawddoglyd. "Yes, you can be a scientist, despite being a girl"[/i]. Mi fyswn i lawer mwy tebygol o fod wedi ymddiddori mewn gwybod mwy am y posibiliadau os y bysa'nhw wedi rhoi cyfle i ni i gyd yn y bws, ac nid jysd y merched (a gadael y bechgyn yn yr ystafell ddosbarth am y prynhawn). Fy ngwneud yn 'styfnig wnaeth o :rolio:

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Peirianneg?

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Nid ar hyn o bryd. Lot o bobl fysa well gin i beidio a theulio amser â nhw, ond neb 'dwi'n ei gasau...mae rheiny'n brin (ond yn bodoli!)

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Cinio hwyr a chadw'n brysur.

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Hmmm...merch i uchelwyr, er mwyn cael isda o flaen tanllwyth o dân, yn gwnio a darllen a ballu (comme Pride and Prejudice) - a chael morwyn i llnau a tendiad 8)
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai