1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Tydw i ddim yn
difaru per se, ond mi
fyswn i wedi gwerthfawrogi deall beth
ydi peirianneg yn y cyfnod pwysig hwnnw pan oedd rhaid dewis. Mi ddewisish i'ngyrfa o dan rhyw "false sense of knowledge", ac mewn gwirionedd 'ron i'n gwybod cynlleied amdano ag yr o'n i am beirianneg (jysd mod i'n gwybod am un, a ddim yn adnabod peirannydd, ella). Gyda llaw, er gwybodaeth, fy nhroi i yn erbyn y fath yrfa wnaeth y "WISE bus" (women in science and engineering) ddaeth i'r ysgol i drio annog merched i ddilyn gyrfa felly. Roedd o mor nawddoglyd. "Yes, you can be a scientist, despite being a girl"[/i]. Mi fyswn i lawer mwy tebygol o fod wedi ymddiddori mewn gwybod mwy am y posibiliadau os y bysa'nhw wedi rhoi cyfle i ni i
gyd yn y bws, ac nid jysd y merched (a gadael y bechgyn yn yr ystafell ddosbarth am y prynhawn). Fy ngwneud yn 'styfnig wnaeth o
2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Peirianneg?
3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Nid ar hyn o bryd. Lot o bobl fysa well gin i beidio a theulio amser â nhw, ond neb 'dwi'n ei gasau...mae rheiny'n brin (ond
yn bodoli!)
4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Cinio hwyr a chadw'n brysur.
5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Hmmm...merch i uchelwyr, er mwyn cael isda o flaen tanllwyth o dân, yn gwnio a darllen a ballu (comme Pride and Prejudice) - a chael morwyn i llnau a tendiad