sian a ddywedodd:ac yn byw yn rhywle fel Taliesin
Ty Frank Lloyd Wright?
1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Fel Dwlwen, wy wedi llwyddo yn fy ngyrfa i greu rhyw fath o drefn mas o anhrefn. Falle nad yw'r gwaith yn wych, ond mae'n ddigon derbyniol.
2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Falle 'na i ddifaru hyd fy oes peidio â dilyn rhyw gwrs newyddiaduraeth ar ôl graddio. Cawn weld.
3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Oes. Mae'n odli gyda Bara Mod.
4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Torri'r diwrnodau lan mewn i ddarnau bach. A'r croesair.
5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Dienyddiwr.