Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan Chwadan » Gwe 30 Maw 2007 1:49 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd: Cyfrifeg? Fuo gen i awydd mynd yn ddeintydd am flynyddoedd hefyd :?

Doniol (neu od, ella, yn hytrach na doniol) ond dyna'r ddilema fawr fuo gen i am hydoedd cyn rhoi fy ffurflen UCAS i mewn...

Nes i ddim byd tebyg i run o'r ddau yn diwedd! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan Manon » Gwe 30 Maw 2007 3:02 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd: Cyfrifeg? Fuo gen i awydd mynd yn ddeintydd am flynyddoedd hefyd :?

Doniol (neu od, ella, yn hytrach na doniol) ond dyna'r ddilema fawr fuo gen i am hydoedd cyn rhoi fy ffurflen UCAS i mewn...


Braidd yn 'over-awed' gan allu academaidd amlwg Fflamingo Gwyrdd a Chwadan :ofn:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan dave drych » Gwe 30 Maw 2007 3:50 pm

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Na, ddim rili. Mwnyhau maes fy ngradd. Gallu bod braidd yn anodd weithiau efo lot o waith (dwi'n convinced bod gradd fi yn gofyn lot fwy na graddau eraill). Weithiau dwi'n meddwl dyle fi di gadel ysgol ar ol Bl.11 a neud ryw fath o brentisiaeth. Fyse di galluaogi ifi gychwyn busnes fy hun erbyn hyn a bod yn gyfoethog, yn hytrach na myfyriwr sgint.

Dwi yn crugo peidio dewis Celf TGAU hefyd.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Dwnim

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Oes. Coleg. Mae ne ryw foi 'mature student' sy'n goc! Un o rhein sy'n eistedd reit yn y blaen ac yn cael chat efo'r darlithwyr cyn bod darlith. Yng nghanol bob darlith mae'n gorfod torri ar draws y darlithwr a gofyn cwestiynnau hollol ddi-bwynt sydd efo'r atebion mwy amlwg. A mae yn un o'r bobl ne sydd yn efo'i holl dillad o Milletts ac efo rucksack yn llawn bob dydd. Mae o hyd yn oed yn dod a fflasg o goffi neu cawl efo fo pan mae'n braf. :drwg:

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Gwefan BBC Sport. Facebook.

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?[/quote]
Swydd Christopher Cloumbus.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 30 Maw 2007 3:59 pm

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Na - dwi'n hapus gyda fy newisiadau hyd yma. Gofyn y cwestiwn eto mewn rhyw ddeng mlynedd pan fyddai wedi dewis gyrfa.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Dwi'n y safle lwcus ( / anodd) o fod yn y cyfnod yn fy mywyd pan mae penderfyniadau i'w gwneud - mae sawl llwybr ar agor i fi.

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Mae na un neu ddau berson alla i ddim diodde ond dwi'n tueddu i jyst cadw o'u ffordd yn hytrach na trio pisio nhw off.

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Nap ganol pnawn.

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Llywydd Senedd lawn Gymreig.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan dafyddpritch » Sad 31 Maw 2007 2:33 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Yndw weithia (ar flwyddyn olaf gradd mewn Cymraeg)

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Pwnc fydda wedi arwain yn syth at swydd, nesi gychwyn ar lwybr y fferyllydd a wedyn y mathamategydd ond nes i ddechra casau Cemeg, a wedyn Maths. Odd ddim yn helpu petha.

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Na

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?
Dim darlithoedd

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?
Profwr Gwely
Fel yr oeddech
Rhithffurf defnyddiwr
dafyddpritch
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 128
Ymunwyd: Gwe 14 Gor 2006 6:12 am
Lleoliad: Llanberis

Re: Pump am y Penwythnos, 30.3.2007

Postiogan nicdafis » Sad 31 Maw 2007 9:19 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?

Ddim yn teimlo mod i erioed wedi <b>dewis</b> dim byd; damain a hap, ol ddy wei.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?

Je regret rien.

Wir, yr unig swydd dw i wedi cael lle o'n i'n hapusach nag ydw i nawr oedd plygu cloddiau, sy ddim yn job i'r flwyddyn gron. Dw i wedi meddwl am fynd yn ôl at rhyw fath o waith tu allan/cadwriaethol. Gawn ni weld.

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?

Nag oes. Ambell waith ti'n cael dysgwr annodd, ond dw i wedi bod yn lwcus yn diweddar.

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?

Mwy o bobl yn y dosbarth.

5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael?

Roadcrew i'r Rolling Stones, 1970-73.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Boibrychan » Sad 31 Maw 2007 9:20 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Os oedd gen i unrhyw uchelgais i ennill arian, do siwr braidd er bod fy ffrindiau o adre'n meddwl fyddai'n sorted ar ol gorffen yn coleg! Edrych ar wneud PhD hefyd! Hyd yn oed hirach yn coleg gret! :?

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Unrhyw bwnc ble da chi'n coleg jest am cwpwl o oriau'r diwrnod! Mwynhau hanes a gwleidyddiaeth on os felly y dewisiadau anghywir ar gyfer TGAU hyd yn oed!

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?

Cymleth falle fod casau yn rhy gryf ond mae na foi sydd yn cyfranu dim i waith grwp yn dweud ei fod yn sal ac wedyn yn mynd i'r dafarn! Un person yn y dosbarth dyw pawb ddim yn cin iawn arno a dweud y lleiaf!

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?

Mae'n mynd yn rhy gyflym yn barod o ran y gwaith sydd angen i wneud! Ond darlithwyr sydd a hiwmor a sydd ddim yn undonog, lwcus iawn fel na mae disgrifio'r rhan fwyaf!


5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael.

Gwyddonwr eto falle ond mewn cyfnod pan oedden nhw'n byw mewn plasdai, yn darganfod pethau pwysig ac yn uchel eu parch. Cyn y Daily Mail a'i storiau "gwyddonol" falle! :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 31 Maw 2007 9:56 am

1. Ydych chi byth yn teimlo'ch bod chi wedi dewis y llwybr anghywir yn academaidd/o ran gyrfa?
Wel, ydw, ond y gwir ydi fyddwn i dda i ddim ar ddim byd arall.

2. Pa lwybr arall y gallech chi ei ddilyn?
Fel a ddywedyd uchod, uffar o ddim

3. Oes 'na rywun yn yr ysgol/coleg/gwaith ry'ch chi wir yn ei gasau?
Ydw. Bendant.

4. Beth sy'n gwneud i'r diwrnod ysgol/coleg/gwaith fynd yn gyflymach?

Y rhyngrwyd, sy 'di bod off wsos yma


5. Pa swydd o unrhyw gyfnod hanesyddol yr hoffech ei chael.

Hwn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron