Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 13 Ebr 2007 9:40 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 13 Ebr 2007 9:43 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?

Dim yn y mymryn lleiaf


2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?

Dim un o gwbl, er os dw i'n cerdded ar craciau stryd a dw i'n ymwybodol o hynny mi stopia' i. Er, dim defod 'di hwnnw mashwr.

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?

Pan fydda i'n gwrando ar miwsig yn y car mae'r sain yn gorfod bod ar eilrif neu ar bumoedd.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?

Dw i 'di gweld ysbryd. Na, go iawn.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?

Wel, mae goruwchnaturiol yn iawn, ond mae pobl ofergoelus yn od ac yn siwtio bod yn lysieuwyr o naws sâl a thenau. Fel , wrth gwrs, y mae'r llysieuwr arferol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Sili » Gwe 13 Ebr 2007 9:58 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Dwi'm yn ofergoelus fel y cyfryw, ond esi drwy cyfnod o fod yn ofergoleus ofnadwy pan oni'n fach ac mae'r defodau yna wedi cario mlaen hyd at heddiw :wps:

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
Gneud arwydd y groes bob tro dwi'n gweld pioden. Gwirion braidd gan nad ydwi'n Gristnogol chwaith...

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Gennai OCD's bach de, fel cal petha penodol yn paralel, peidio cerddad ar cracs yn lon ayyb, ond ddim byd ofergoelus.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
Ma'r ty acw llawn "ysbrydion" (dwi dal yn sgeptic). Dwi di gweld dynes mewn ffrog ddu yn fy llofft a di cal petha di lluchio atai ond wedi glanio yn daclus wrth fy nhraed. Mam di gweld hen ddyn heb goesa yn cerdded ar draws y landing i fewn i'n llofft i cwpwl o weithia. Ogla tobaco peip yn symud ogwmpas y ty weithia. Swn traed yn rhedag fyny a lawr y grisia ac ar hyd llofft mam ac yn ddiweddar ma fi a Ramirez wedi gweld cysgod du yn symud mewn i'r office a taro rwbath i lawr oddi ar y cwpwrdd yno pan mai dim ond ni odd yn y ty :ofn:

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Pawb a'i farn mwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Sili » Gwe 13 Ebr 2007 10:00 am

Hogyn o Rachub a ddywedodd:3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?

Pan fydda i'n gwrando ar miwsig yn y car mae'r sain yn gorfod bod ar eilrif neu ar bumoedd.


Www dwinna'n goro cal y sain ar rifa od, a 25 di'r rhif lle dwi'n teimlo fwyaf bodlon :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 13 Ebr 2007 10:11 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?

Ddim o gwbl.

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?

Nagoes.

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?

Nid fy mod i'n ymwybodol ohonyn nhw.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?

Na

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?

Angen sortio eu hunain allan a chymeryd cyfrifoldeb am eu bywydau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan ceribethlem » Gwe 13 Ebr 2007 10:21 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Na

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
Na

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Na

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
Na

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Fi'n ffindo pethe ysbrydol, crefyddau, ofergoelion yn ddiddorol iawn, ac yn mwynhau darllen amdanynt a thrafod nhw.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 13 Ebr 2007 10:41 am

Sili a ddywedodd: Mam di gweld hen ddyn heb goesa yn cerdded ar draws y landing i fewn i'n llofft i cwpwl o weithia.


Be ddiawl...?! :ofn:
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 13 Ebr 2007 10:43 am

Sili a ddywedodd:
Hogyn o Rachub a ddywedodd:3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?

Pan fydda i'n gwrando ar miwsig yn y car mae'r sain yn gorfod bod ar eilrif neu ar bumoedd.


Www dwinna'n goro cal y sain ar rifa od, a 25 di'r rhif lle dwi'n teimlo fwyaf bodlon :D


Dynas byddar ydych felly. Un ai 18 neu 20 i mi bob tro, neu bymtheg. 17 yw fy rhif gwaethaf o ran hyn.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Macsen » Gwe 13 Ebr 2007 10:43 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Dim felly, ond rydw i'n cadw meddwl agored.

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
Oes, ond tipyn o'r obsessive compulsive disorder ydi'r bai am rheini nid cred yn y goruwchnaturiol dwi'n meddwl!

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Dwi'n siwr mod i wedi dweud hyn o'r blaen, ond dw i bob tro'n gorfod tynnu'r holl blwgs trydan yn fy stafell allan cyn mynd i'r gwely am ryw reswm.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
Wnes i weld dyn yn gwthio berfa llawn orennau drwy wal fy ystafell ac allan drwy'r wal arall unwaith, pan oeddwn i tua 6 oed.

Mae pobol yn rhy barod i weld ysbrydion dwi'n meddwl. Cwpwl o fisoedd yn ol roedd ffrind i mi'n taeru ei fod o wedi gweld ysbryd yn eistedd ar gadair yn ei ystafell noson gynt. Troi allan mai ei dad o oedd o yn chwilio am DVDs.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Digon teg. A dweud y gwir dw i'n damnio'r ffaith fy mod i mor betrus a rhesymegol weithiau - lle mae'r hwyl yn hynny?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

Postiogan Wierdo » Gwe 13 Ebr 2007 11:10 am

1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Nadw

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
Dwi ddim yn meddwl

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Lot. Fel Sili, dwi'n reit OC am rhai petha. Mi ai am oria ym mhantycelyn yn dewis fforc gan fod rhaid iddyn nhw fod yn syth, dwi'n tynnu fy ffon i ddarnau (ffon, batri, sim card) pan dwi'n mynd i'r sinema ac yn rhoi pob rhan mewn poced gwahanol (a ma'n rhaid i'r ffon fod ar silent gysda'r foliwm reit lawr rhag ofn cyn i mi ei droi i ffwrdd).

Fel Sili a HoRach, foliwm teledu neu radio. Eilrifau i mi. Ond os ydwi'n rhoi swsus neu debyg ar ddiwedd neges i rywun, odrif o rheina plis!

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
na

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Pawb i'w farn. Siwr fod bywyd yn llai diflas iddyn nhw (nid fod mywyd i'n ddiflas!)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron