Tudalen 2 o 3

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 11:14 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Nadw, ac rwy'n dueddol o edrych lawr ar bobl sydd yn ofergoelus.

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
Er nad ydw i'n ofergoelus, fe fydda' i'n towlu unrhyw halen sy'n weddill yn fy llaw wrth goginio dros fy ysgwydd chwith drwy arfer o weld pobl eraill yn gwneud hynny. Chi'n towlu halen yn llygaid y diafol yn ôl pob sôn. :?

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Dim byd ofergoelus, nag oes. Pan o'n i'n chwarae yn yr ail reng o'n i'n mynnu cael rhif 5 achos o'n i ddim yn hoff o rif 4, ond sai'n gwbod os mai peth ofergoelus oedd hynna.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
Naddo, ond mae 'na ryw amheuon bach yng nghefn 'y mhen wrth fynd i'r ty bach yn y tywyllwch. Ffwlbri llwyr, a finne'n darllen hwn hefyd.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Mae'n ymateb naturiol i bethau nad y'n ni'n eu deall neu'r elfen o siawns, o bosib, ond mae rhai pobl yn mynd yn rhy bell.

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 12:25 pm
gan Fflamingo gwyrdd
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Nachdw...

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
Ym, dwi ddim yn meddwl. Er, fyswn i ddim yn rhoi esgidiau newydd ar y bwrdd chwaith.

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Wna i ddim torri ffrwythau/llysiau ar fy mhren bara. Ac mi waedda i ar bwy bynnag arall (y Dyn) sy'n meiddio gwneud hyn. Ond dwi'n meddwl mai elfen o OCD ydi hynny, ac nid ofergoel.
Mae'n well gen i chwarae gemau bwrdd efo cownter (neu bethbynnag) gwyrdd. Ond dwi ddim yn meddwl mai ofergoeledd sydd tu cefn i hynny chwaith.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
Dwi'n credu i mi weld rhywbeth unwaith, ond yn fy ffordd sgeptical sunical i fy hun, dwi bellach wedi dileu'r profiad o'nghof.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Twp.

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 12:32 pm
gan tafod_bach
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
ydw, ond ddim ond am ifi dysgu trwy brofiad gynta.

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
mi fyddai'n deud bendith pan fydd rhwyun yn tisian, yn cyffwrdd pren i gael gwared ar unrhyw providence drwg, gwisgo locet math yna o beth.

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
rhai pethau cyfrinachol i'w gwneud â'r lleuad...

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
ydw a do.mae 'na gath yn ty ni sy'n anweledig i SWEAR.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
ofergoel: socially-sanctioned ocd. dim mynedd. pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol? gan amla dwi'n dod ymlaen yn dda efo nhw. mae'n dangos chwilfrydedd naturiol am y byd o'n cwmpas, tydi? hynna a ma nhw felarfer fewn i crystals neu swingio neu rwbeth ffynci felna.

gol:
Chi'n towlu halen yn llygaid y diafol yn ôl pob sôn.

nagefe 'cofio gwraig lot' y'n ni'n neud wrth daflu halen dros ein sgwydde?
a

ps: yeeeew ffiacin sceptics blin y lot onach chi! 8)

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 1:17 pm
gan nicdafis
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?

Nadw. Un o'r <a href="http://www.the-brights.net/">brights</a> ydw i ;-)

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?

Dim ond os dw i'n meddwl y bydd yn achosi ffws (gan fy mod i gyda person ofergoelus, er enghraifft). Ond gan fy mod i'n eitha tal, dw i'n tueddu osgoi cerdded dan ysgol ta beth.

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?

Nag oes.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?

Nadw, a nadw.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?

Pawb a'i farn, ondyfe? Wedi dysgu o hir brofiad nad oes pwynt trial dadlau gyda nhw, a beth yw'r ots. Dw i ddim yn gweld unrhyw gwahaniaeth rhwng y fath 'ma o gred a bod yn grefyddol yn gyffredinol. Yr unig wahaniaeth mae'n wneud i fi yw pan dw i'n chwarae poker yn erbyn rhywun sy'n credu bod eu canlyniadau yn dibynnu ar ryw ddefod ofergoelus, neu sy'n credu mewn "lwc" fel rhyw greddf natur. <i>Happy trails.</i>

Re: Pump am y Penwythnos, 13.4.2007

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 2:57 pm
gan Manon
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
Dim rili.

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
'Dwi'n codi llaw ar bioden ac yn cyffwrdd pren, as in, touch wood. Er fy mod i'n gwneud y prtha' 'ma, 'dwi'n gwybod yn iawn mai lol ydyn nhw :?

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Jys twtsh o OCD, ee peidio gallu mynd i'r gwely os 'dwi heb olchi'r llestri.

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
Nes i glywed rhywun yn mynd i mewn i'r llofft drws nesa i f'un i, rhoi'r gola' 'mlaen ac eistedd ar gadair am ryw 3 o gloch y bora pan o'n i dal yn byw efo Mam. O'n i'n meddwl bod o reit weird bo' 'na rywun jysd yn isda 'na 'nghanol nos, so es i i edrych ond doedd na'm byd yna.
'Dwi'n meddwl i mi weld rhywun oedd yn agos iawn i mi mewn tyrfa unwaith, tua 3/4 mlynedd ar ol i mi farw. Ro'n i'n cael fy nghyflwyno i'r orsedd ar y pryd ac mi fysa hi wedi bod wrth ei bodd yn fy ngweld i. (Ond 'dwi'n kind-of derbyn bod fy llygaid yn gweld be' oeddan nhw isho'i gweld, ar adeg lle ro'n i'n gweld isho hi.)

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
Live and let live!

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 3:47 pm
gan Positif80
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?

Mewn ffordd. Mae gen i OCD sy'n reit ddrwg ar adegau, ond dwi ddim yn poeni am bethau fel torri drych ayyb.


2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?

Nagoes.


3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
Jest stwff OCD: golchi dwylo, ailadrodd tasgau ayyb.


4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?


Nacdw. Fydda i'n coelio ym mhethau felly pan dwi'n gweld rywbeth oruwchnaturiol.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?

Gan fod ofergoeliaeth yn ryw fath o hangover o ganrifoedd o ddifyg gwybodaeth am y byd, dwi'm yn synnu bod pobl fel na'n bodoli.

Mae nhw'n gallu bod yn dwp e.e. person oedd yn gweithio ar y Cob ym Mhorthmadog a gwrthododd dod allan i gasglu pres yn ystod yr Eclipse, gan meddwl fod rhywbeth Satanaidd yn perthyn i'r digwyddiad.

Hefyd, dwi'n casau Colin Fry, John Edward, Derek Acorah ac unrhyw sideshow arall sy'n cymeryd mantais o pobl sy'n galaru.

PostioPostiwyd: Gwe 13 Ebr 2007 7:08 pm
gan Chip
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
i ofergoelion sy'n da

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
dim sefyll ar craciau ar palmant

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
oes ond methu cofi nw

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
dim rili felly dim yn deall pam dwi'n osgoi sefyll ar craciau :?

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
os ma nw ddim yn golchu wallt nw ma nw wedi mynd rhy bell

PostioPostiwyd: Sad 14 Ebr 2007 11:43 am
gan Dwi'n gaeth i gaws
1. Wyt ti'n berson ofergoelus ar y cyfan?
dwi ddim yn berson ofergoelus iawn iawn ond ma na betha bach sy'n mhigo i weithia

2. Oes 'na rai defodau cyffredin (e.e. peidio â cherdded o dan ysgol) rwyt ti'n eu dilyn?
peidio rhoi sgidia ar bwrdd... dwi'n meddwl fod petha'n ofnadwy os dwi'n torri drych ne wbath fyd

3. Oes gen ti dy ddefodau/arferion dy hun?
ymmmmmm, dwi'm yn meddwl... ma na betha dwi'n neud ond dwi'n meddwl ma arferion di rhein yn lle ofergoeliaeth

4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
dim profiad goruwchnaturiol fel gweld petha ond dwi'n cal profiada seicig bob hyn a hyn.

5. Beth yw dy farn di o bobl ofergoelus/pobl sy'n credu yn y goruwchnaturiol?
ma na rei petha ma pobl yn neud i fynd allan o'i ffordd yn anoio fi... nenwedig pan dwi'n goro mynd allan o'n ffor...

PostioPostiwyd: Sad 14 Ebr 2007 12:03 pm
gan Manon
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:
4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
dim profiad goruwchnaturiol fel gweld petha ond dwi'n cal profiada seicig bob hyn a hyn.



Cwl! fatha be?

PostioPostiwyd: Sad 14 Ebr 2007 12:06 pm
gan Dwi'n gaeth i gaws
Manon a ddywedodd:
Dwi'n gaeth i gaws a ddywedodd:
4. Wyt ti'n credu neu wedi cael profiad o'r goruwchnaturiol?
dim profiad goruwchnaturiol fel gweld petha ond dwi'n cal profiada seicig bob hyn a hyn.



Cwl! fatha be?

breuddwydio gan amlaf o betha sy'n mynd i ddigwydd ne petha sydd am ddigwydd... dwi hefyd wedi clwad mam yn siarad pan nath hi feddwl o a ddim ddeud o - a faswn i di dadla yn ddu las bod hi di siarad...