1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Odd gennai gasgliad go helaeth o betha o'r Aifft pan oni'n fach. Safio pres pocad am fisoedd wedyn gwario punnoedd ar lyfrau a modelau o'r wlad. Gesi hydnoed sarcophagus bach o fedd rhyw hen frenin gan egptologist odd fy wncwl yn adnabod ar un adeg. Bellach ma bob dim mewn dror dan y gwely...
2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Canu gwlad. Oni'n ei gasau pan oni'n fach tan i mi droi'n 15-ish, rwan dwi wrth fy modd efo fo.
3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Pan oni'n fach, oni'n arfer bod efo syniad pendant a teimladau cryf dros be sy'n dda neu'n ddrwg a sut ddylsai pobl ymddwyn. Bellach, ma popeth yn liw llwydaidd braf
4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
Cymreictod mashwr. Odd gennai nifer o ffrindiau Cymraeg yn r'ysgol odd yn mynnu siarad Saesneg ac yn anwybyddu eu gwreiddiau a nesi rioed feddwl dim ohona fo tan esi i chweched dosbarth. Bellach ma petha felma'n fy nghorddi braidd.
5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Jin