Pump am y Penwythnos 20/4/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 20 Ebr 2007 10:25 am

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan ceribethlem » Gwe 20 Ebr 2007 10:44 am

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…Buffy the Vampire Slayer, o'n i'n ffan selog pan ddath e' mas gynta!
2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.Cerdd dant, byth yn deall e' pan yn ifanc, nawr fi'n ffeindio'r peth yn ddiddorol ar y naw.
3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…Gwleidyddiaeth modern. Crap celwyddog yw'r holl beth.
4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.Y system addysg - pan yn ddisgybl o'n i'n meddwl mai gwastraff amser odd e', bellach rwyf wedi newid fy meddwl ac yn gweithio ym myd addysg (y newid meddwl dath gynta gyda llaw)
5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu? Cyfnod arholiadau. Byddai'n colli cymaint o ddosbarthiadau pan fydd yr arholiadau yn dechrau byddai'n mynd o 45 gwers y pythefnos i 9 gwers y pythefnos! Trad lan!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan mam y mwnci » Gwe 20 Ebr 2007 10:57 am

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Dawnsio gwerin - arfer mynd yn selog i ddosbarthiadau ond wedi dysgu rhai o'r dawnsfeydd dwi bellach wedi diflasu ar yr holl beth :crio:


2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Pel rwyd - un o'r genod hoci o'n i yn yr ysgol! Wedi dechrau chwarae eto yn ddiweddar ac mae o'n ...ddifyr!
3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Jonsi - o'n i fel petawn i yn gwrando er mwyn gwylltio fy hun ond bellach nai just ddiffodd y radio
4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
Cinio ysgol - dwi wedi neidio ar 'band wagon' jamie oliver! ma'r shit ma nhw yn bwydo i'r plant yn gywilyddus.
5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu? [/quote]
Smocio!
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan docito » Gwe 20 Ebr 2007 11:06 am

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Cyfres gyntaf o Blackadder

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
y 3 gyfres arall

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
negeseuon michael moore

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
na, dwi braidd yn apathetic dyddie hyn

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Olwyddon (olives??)
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan Sili » Gwe 20 Ebr 2007 11:14 am

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Odd gennai gasgliad go helaeth o betha o'r Aifft pan oni'n fach. Safio pres pocad am fisoedd wedyn gwario punnoedd ar lyfrau a modelau o'r wlad. Gesi hydnoed sarcophagus bach o fedd rhyw hen frenin gan egptologist odd fy wncwl yn adnabod ar un adeg. Bellach ma bob dim mewn dror dan y gwely...

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Canu gwlad. Oni'n ei gasau pan oni'n fach tan i mi droi'n 15-ish, rwan dwi wrth fy modd efo fo.

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Pan oni'n fach, oni'n arfer bod efo syniad pendant a teimladau cryf dros be sy'n dda neu'n ddrwg a sut ddylsai pobl ymddwyn. Bellach, ma popeth yn liw llwydaidd braf :D

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
Cymreictod mashwr. Odd gennai nifer o ffrindiau Cymraeg yn r'ysgol odd yn mynnu siarad Saesneg ac yn anwybyddu eu gwreiddiau a nesi rioed feddwl dim ohona fo tan esi i chweched dosbarth. Bellach ma petha felma'n fy nghorddi braidd.

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Jin :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 20 Ebr 2007 1:00 pm

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Tan yn lled ddiweddar, gwleidyddiaeth.

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Bwyd da

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Llwyth gwaith myfyrwyr

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.Y
Annibynniaeth i Gymru

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Lagyr
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan Macsen » Gwe 20 Ebr 2007 1:09 pm

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Y Simpons! Ges i fwy o'r cwestiynnau yn iawn ar hwn na'r boi nath guro mastermind cymru, ond dwi methu gwylio'r episods newydd mae nhw mor sal.

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Criced a golf! Dau beth sydd yn ymddangos yn lot mwy diddorol ers dechrau byw yn Llambed.

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Cristnogaeth. Dw i wedi mynd o fod yn gryf o blaid i fod yn gryf yn erbyn a nawr wedi setlo rywle yn y canol.

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
Stad cyfryngau a gwleidyddiaeth Cymru.

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Merched, odd nhw'n betha brwnt ac aflan pan oni'n 8 oed. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan Manon » Gwe 20 Ebr 2007 1:32 pm

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
Gwleidyddiaeth. 'Dwi'n cofio cyffro '97, a fy ffydd plentynnaidd i... Erbyn hyn 'dwi'n tueddu meddwl bod pob gwleidydd yn llawn ciach.

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Morrissey. Roedd fy ngwr yn arfer chwarae'r tapiau Smiths yn y car, a finna'n mynd on am lais cwynfanllyd anoi-ing Morrissey. Erbyn hyn, 'dwi in lyf

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Alcohol. Mae o jysd yn neud fi'n sal bora' wedyn. 'Dwi'm yn ca'l pleser allan ono fo rhagor.

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
O'n i'n arfer meddwl bod crefydd yn gwneud dim byd ond drwg. Er nad ydw i'n grefyddol, 'dwi'n llwyr ddallt ac yn parchu crefydd erbyn hyn.

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Gwrando ar y radio.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan nicdafis » Gwe 20 Ebr 2007 1:42 pm

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…

Byd Warcraft.

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.

Prog roc. Wedi mynd o fod yn ddifyr, i ddiwerth, ac yn awr mwy difyr nag erioed, wrth sylweddoli faint o'n i wedi colli nôl yn y dydd.

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…

Pêl-droed.

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.

Y Gymraeg.

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?

Cysgu yn y prynhawn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 20/4/07

Postiogan Wierdo » Sad 21 Ebr 2007 4:09 pm

1. Enwch rywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddifyr, sy’ bellach yn ddiwerth…
yyym...Stereophonics. Oedden nw'n anhygoel tan nw gal gwared o Suart Cable a mynd i gyd yn americannaidd arnai.

2. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer ystyried yn ddiwerth, sy’ bellach yn ddifyr.
Facebook....:wps:

3. Enwch rywbeth o'ch chi’n arfer teimlo’n gryf amdano, sydd bellach yn ennyn apathi…
Dwi rioed wedi bod yn un am demlo'n gryf am ddim...

4. …a rhywbeth o’ch chi’n arfer teimlo apathi tuag ato, sydd bellach yn corddi teimladau cryf.
Trons dy fflipin dad. Oddon amusing tro gynta fi glwad o, mbach yn ddoniol yr ail dro, rwan din casau'r gan a chas perffaith

5. Oes ‘na rhywbeth o’ch chi’n arfer ei gasáu y'ch chi bellach yn ei garu?
Neibys. Och, pan gyrhaeddish i coleg mi onin ei gasau a mond yn ei wylio gan mai dyna oedd trefn diwrnod pawb arall. Wedyn mi eshin sownd yn y stori!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron