Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Sili » Gwe 11 Mai 2007 2:25 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Ramirez a ddywedodd:Ynys Enlli eto ella, neu 'nelu'r fan unai am yr Alban neu Gernyw a gweld be ddigwyddith.

Croesi bysedd am Enlli...

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Wierdo a ddywedodd:Hyd y gwyddwn (ac y cofiaf), bthefnos yn ôl. Yfad Quinns ar y stryd! Woo.

(Ma hwn yn troi yn PayP reit ddi-feddwl ar fy rhan i wythnos yma...)

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Catalogue Korg ddoth drwy'r post bora ma. Ma na gymaint o oel driblo arna fo erbyn hyn ma'r tudalennau i gyd wedi glynnu...

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Delwedd

8)

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Ydw. Ma genna fo fylb ar ei ddiwedd. A lwmpyn bach hanner ffordd i lawr. A mae o'n rhoi'r camsyniad fod o'n reit fach o'r ffrynt tan dwi'n troi i'r ochr. Rhyw optical-illusion bach pinc.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Siffrwd Helyg » Gwe 11 Mai 2007 2:30 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
MAGALUF! - gyda ffrindiau ysgol, Gwyl Summercase yn Barcelona gyda ffrindiau coleg, a rhywle yn ffrainc gyda'r teulu, o bosib. Braf!

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Urm, es i mewn i'r swyddfa bost, dewis carden off y shilff, hol amlen a stamp, sgwennu'r garden yn y swyddfa bost, sticio'r stamp arno a posto fe. Heb dalu am ddim. Ond odd e ddim ar fwriad - so dyw e ddim yn cyfri.. ahem...

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Pili Pala - Catrin Dafydd. Ond nes i ond dechre fe neithiwr. A Norweigan Wood. A The Girls. Dibynnu ar yr hwylie!

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Audrey Tautou

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Nap, rhy fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Positif80 » Gwe 11 Mai 2007 5:43 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

Ninlle.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Ydi cerdded adref wedi meddwi (er nad oeddwn i'n disorderly o gwbl) yn drosedd?

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

Dwi'm yn darllen llawer o lyfrau, ond yr un diwethaf darllenais i oedd hunangofiant Peter Kay.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Charlie Sheen neu Ryan Reynolds.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Mae ok ar y cyfan - heblaw am pan mae'r nostrils yn fynd yn fwy na rhai RImmer o Red Dwarf.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Ioan_Gwil » Gwe 11 Mai 2007 7:20 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

Iwerddon, Amsterdam, Yr Wyddgrug ac Abersoch

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Pasio plisman cudd ar lein wyn

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

'In Patagonia', Bruce Chatwin

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Un anodd! Riwyn tew a gwirion. Felly unai Ricky Gervais neu'r twat arall na odd yn gwneud adverts ITV.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?[/quote]

Dim barn naill ffordd na'r llall
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 11 Mai 2007 8:14 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:'Sa fo'n well os fysa fo ddim mor smwt


Wedi newid fy meddwl - fwytish i'nghinio dros ffordd i rhywun o'dd yn gymwys i actio Ceridwen heddiw...well gin i f'un i fy hun :lol:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Sioni Size » Sad 12 Mai 2007 11:16 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Sioni Size.

Delwedd

Mae'r actio method wedi dechrau yn barod
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 12 Mai 2007 11:38 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Tiwnisia gyda'r wejen am bythefnos yn Gorffenaf, wetyn i Gwyl Reading diwedd Awst. Gobeitho mynd i Gwyl arall 'fyd, os docynnau i'r Dyn Gwyrdd ar werth o hyd? Ffaelu ny', â fi i Macs. Ne'r dou wrth gwrs.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Fel pawb arall, drifo'n rhi glou. Ne'r drive-by ny' draw yn Banwen nes i.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Gorffenws i Moby Dick cwpl o wythnose yn ol, ar ol tua 3 - 4 mis caled o ddarllen. Duw, mae'n llyfyr anferth, ond un arbennig wedi'r cwbwl. Newydd dechre yr argraffiad newydd o Hanes Cymru gan yr Athro John Davies.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
David Mitchell neu Mos Def.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Odw, mae'n shecshi.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan dave drych » Sad 12 Mai 2007 12:12 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Dwnim. Mae'n nyfodol i yn hollol ddi-gynllun ar hyn o bryd. Dwi'n gorffen coleg yn yr Haf, so dwi'm yn gwbod be i neud efo fi'n hyn. Genai mini-trip di baratoi i fynd i Gaerdydd, os di hynne'n cyfri.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Erm, well imi beidio datgelu.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Dwi'm yn darllen llyfrau. Nes i roid give-up ar ôl cychwyn East of Eden tua 3 mlynedd n'dôl. Gennai nodiadau i ddarllen ar gyfer yr adolygu, so mor diddorol.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Bruce Lee.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Yndw. Bymp bach arno, a dio'm yn 100% syth. Mae teulu ochr Mam yn adnybyddus am eu trwynau, sef y "Lloyd's Nose"! Mam di'r unig un o'i theulu i gael trwyn normal, a dwi di derbyn trwyn sydd yn reit normal hefyd.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Rhodri Nwdls » Sad 12 Mai 2007 4:18 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Groeg ma'n debyg.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Gynna, gor-yrru.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Gods and Monsters gan Peter Biskind - casgliad o'i waith ysgrifenedig o'r 70au hyd rwan. 2 erthygl gwych ar Terrence Malick ynddo.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Gene Wilder ifanc. Wrth gwrs. O ran actorion rwan...sna'm rhai digon hyll! Ma'r ffycars gyd yn edrych r'un fath.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Wrth y modd. Mawr, cam, blewog, snotlyd. Jest fel ma trwyna fod.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Mwddrwg » Sad 12 Mai 2007 8:43 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
weeeel... dwi newydd fod yn Florence feeeelly y plan oedd peidio mynd i ffwrdd ha' 'ma i arbed arian ar gyfer mynd i Seland Newydd ha' 2008... ond mi fyddai'n Llundain yn gweld Steely Dan ym mis Gorffennaf 8)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
gyrru'n rhy gyflym (o fewn cyfyngiadau'r modur)

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
bmj a Jamie's Italy (tra'n coginio, fel)

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Kristin Scott Thomas neu Edie Falco (er bod y ddwy lot hyn na fi a ddim byd tebyg i mi)

Gol: wedi cael 2nd opinion LlR ar hyn:
y dyddiau cynnar - Mari Gwilym
yr ugeiniau - Buddug Povey
yn aeddfedu - Betsan Powys (Talcen Caled styl-ee thenciw plis)
wedi'i cholli hi'n lan - yr actores better known as Anti Marian (PyC)

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Ydw. Ma'n reit defnyddiol i anadlu trwyddo
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron