Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 11 Mai 2007 10:56 am

Cwestiynau ar hap wythnos 'ma...

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 11 Mai 2007 11:08 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Catalonia am bythefnos fis Mehefin, ac yna'r Algarve am wythnos ddiwedd Medi (oes, dwi'n gwybod fod gen i ôl troed fawr losgedig...ond dwi 'mond wedi rhoi petrol yn y car chwe gwaith yn y flwyddyn ddiwethaf...)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Reidio 'meic adra yn y t'wyllwch heb oleuadau (echnos) - oeddach chi'n gwybod fod posib cael "on the spot fine" am hynny?!

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Wythnos yng Nghymru Fydd (gei di o'n ôl wsnos nesa' GDG) a Blink...ond wedi bod yn pori mewn llyfrau academaidd dros yr wythnos ddiwethaf (arholiad mawr ddydd Mercher - argh)

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Hmmm...'ddoi'n ôl at hwn

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
'Sa fo'n well os fysa fo ddim mor smwt
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Tegwared ap Seion » Gwe 11 Mai 2007 11:08 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

'Werddon, Sbaen, 'Sdeddfod, Malaysia (gobeithio, os bydd gen i ddigon o bres)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Dwi'm yn cofio, dim byd mawr, dwi'n hogyn da. Ydi hit and run ar feic echdoe yn cyfri?!

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

Cofia Dy Werin, Rhiain Bebb (alawon dawnsio)

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Fi. Fydda neb arall yn medru "gwneud cyfiawnder" a mi :?

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Yndw, dwi 'di gweld rhai gwaeth, dwi'n meddwl. Er, mae gen i lwmp arno fo hannar ffordd i fyny a mae 'na dipyn o bobol yn gofyn os dwi 'di dorri fo o gwbwl. (dwi'm yn meddwl 'mod i) Ond dio'm yn fy mhoeni i, fedrai'm weld o! :P
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Sioni Size » Gwe 11 Mai 2007 11:17 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Sesiwn Faswr a Steddfod

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Gyrru ma'n debyg. Petai hwnnw'm yn drosedd ella byddai celwydd yn hanfodol.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
ar eu hanner maeNecessary Illusions gan Noam Chomsky, Writings From Prison gan Bobby Sands, Hotel Eddie gan Daniel Glyn a Vive la Revolution gan Mark Steel (ers tua dwy flynedd, ond mae o'n dda iawn).

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Brian Blessed

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Dwi mewn cariad hefo fy nhrwyn. Ma'n wych.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Llefenni » Gwe 11 Mai 2007 11:20 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

Gobaith ,awr ydi trip ar y tên o Baris, i Frwsel ac yna i Amsterdam am wsos/wsos a hanner. Job ddrud a lot o drefnu, ond di'r cariad ddim ffansi trip i'r ttraeth.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Dwi'n dwyn rhaglenni cyfrifiadurol i ddiben personol o hyd :(


3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

The Last Days of Hitler (Hugh Trevor-Roper) di darllen o droeon, ond mae o dal yn synnu fi.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Ym... swni'n lyfio deud Audrey Tautou, ond di'n edrych dim byd fel fi, so swni'n edndio fyny efo Drew Barrymore. Gytud.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Ddim rili, mae o'n un nodweddiadol iawn o deulu nhad, ond o'r ochr mae o'n edrych yn uffernol o ddynol, dwi'n edrych fel rw cameo Rhufeinig o'i ganlyniad. Ond swni'm yn cael llawdriniaeth i'w newid. Just ffringe fawr sy'n gorchuddio do i gyd :winc:
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 11 Mai 2007 11:37 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Does gen i ddim cynlluniau ar gyfer eleni a does dim cynllun "blynyddol" fel sydd gan rhai teuluoedd o fynd i'r un lle dro ar ôl tro ganddon ni chwaith. Dwi'n sicr yn mynd i rywle, beth bynnag, neu a'i wallgo.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Dwi'n eitha da am beidio torri'r gyfraith, dwi'n meddwl. Drunk and disorderly ar ôl noson allan cwpwl o wythnosau nôl, mwy na thebyg.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Darllen yw'r unig beth dwi'n gwneud ar hyn o bryd. Bore ma - Small Books and Pleasant Histories gan Margaret Spufford, The Visible Hand gan Alfred Chandler, Puritans and Revolutionaries gol. Pennington a Thomas.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Dwi'n meddwl dylai'r ateb yma wastad fod yn iau na chi, ond yn anffodus does na ddim lot o actorion da sy'n iau na fi. Felly y bachgen yn Skins oedd yn arfer bod yn About a Boy i wneud i fi edrych yn fwy golygus na'rydw i.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Roeddwn i'n arfer bod yn hapus iawn gyda fy nhrwyn, ond, wrth i mi dyfu yn ystod fy arddegau, fe ddes i'n raddol fwy anhapus gyda'r siap a'r maint. Dwi wedi dros hynny erbyn hyn ac yn ei dderbyn am yr hyn yr ydyw, sef amherffaith ond derbyniol.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 11 Mai 2007 11:40 am

1. steddfod a ty ddewi ar y funud... ond dwisho mynd i rwla poeth.
2. neshi ddwyn cerdyn penblwydd o tesco yn reit ddiweddar.
3. cyfarwyddiada pacad o baby rice.
4. angelina jolie. i wish.
5. braidd yn fawr 'di o. ond dwi'n difaru peidio'i werthfawrogi o fwy cyn i mi 'i dorri o.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Wierdo » Gwe 11 Mai 2007 11:50 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Seshwn fawr a sdeddfod. Dwi mor crazy :rolio:

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Hyd y gwyddwn (ac y cofiaf), bthefnos yn ôl. Yfad Quinns ar y stryd! Woo. Ond dwi wedi cael rhybydd am yfed ar y stryd yn aber o'r blaen, wbath oedd fwy amlwg yn alcahol tro dwetha. Peidiwch a gofyn i mi be, allaim cofio!

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Dwi rhwng llyfra. Mi orffenish i "Marged" echddoe a dwim yn meddwl y fysa dechra un arall a minna yng nghanol yn f'aroliada yn gall iawn. Hynny yw, dwi heb gyradd y siop i brynu un newydd eto!

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Wel yn ôl y wefan yma ma Lindsay Lohan yn edrych 71% fel fi. Mi fysa hi'n gneud y tro mai'n shwr!

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Dibynnu ar y diwrnod. Heddiw? Ydw. Weithia man edrych yn hirach. Shwr mai pinocio mewn bywyd arall dwi!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Cymro13 » Gwe 11 Mai 2007 11:55 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

I'r Steddod 8)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Ges i sigaret mewn tafarn ar ol y bon i ddod i mewn pan oedd lock- in(well peidio dweud lle)

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

TV guide y Western Mail - Be sydd mlaen heno?

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Baswn yn mynnu chware fy hun

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Ydw
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Manon » Gwe 11 Mai 2007 11:55 am

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Yr Alban alla... 'Rioed 'di bod o'r blaen.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Speedio ar yr A55. Mond tua 72mya.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
The Liar gan Stephen Fry am y pumed tro. A Smot Yn Mynd I'r Ffair drosodd a throsodd a throsodd.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
John Ogwen a Maureen Rhys.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Braidd yn fawr, ond 'swn i 'myn newid o.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai