Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Dwi'n gaeth i gaws » Gwe 11 Mai 2007 12:02 pm

w, heb neud pap ers oesoedd maith!!!!
1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Steddfod, Sesiwn Fawr, Barcelona, Yr Eidal, ac ella i wersylla (sir benfro, pen llyn ne werddon ne rwla....!) ddechra Medi os fydd genai amser a phres ar ol.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Di cal lock-in noson o blaen yn cyfri?!

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
A Short History of Tractors in Ukranian... wedi bod yn darllan llyfra ar gyfer sgwennu traethoda ers sbel wan llu ma'n neis cael drallan stori am change.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Hmmm, Kylie...

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Ydw, diolch yn fawr iawn. A ma genai styd bach del ynddo fo... er bo fi'n golli fo ar adega!
blew
Rhithffurf defnyddiwr
Dwi'n gaeth i gaws
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 782
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 6:38 pm
Lleoliad: yn y dwr

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Dewi Lodge » Gwe 11 Mai 2007 12:13 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Mi faswn i wrth fy modd mynd dramor i'r haul ond di neud dim am y peth hyd yn hyn. Brynis i sgidiau mynydda newydd yn ddiweddar ond heb eu defnyddio eto felly os di'r tywydd yn braf dwi'n gobeithio treulio rywfaint o fy ngwyliau haf yn sgelcian o gwmpas Eryri.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Fel y rhan fwyaf o bobl masiwr, torri ryw reol yn ymwneud a gyrru car. Fydda i'n ymdrechu i gadw'n weddol agos i unryw gyfyngder cyflymdra ond wastad ryw chydig o filltiroedd yr awr drosodd.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Newydd ddechrau "The Coming Fury" gan Bruce Catton. Y gyfrol gyntaf o dair yn adrodd hanes Rhyfel Cartref America. Diddorol.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Rhys Ifans.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Fawr o ddewis nagoes. Mae o'n iawn am wn i. Mi roedd gan taid drwyn eitha coch yn ei henaint, a ma trwyn dad wedi mynd yn union yr un fath erbyn hyn felly dwi'n gwybod beth i ddisgwyl yn y dyfodol pell!
Rhithffurf defnyddiwr
Dewi Lodge
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 293
Ymunwyd: Mer 28 Medi 2005 11:52 am
Lleoliad: Pwllheli

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 11 Mai 2007 12:17 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Chamonix yn yr Alpau i briodas fy nghyfnither ym mis Awst, wedyn Nantes a 'mlaen i Perpignan (a Marseilles, gobeithio) ar gyfer Cwpan y Byd ym mis Medi.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Loitran

Delwedd

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
The Big Sleep gan Raymond Chandler. Mae'n wych. Hefyd, newydd ddechrau A Confederacy of Dunces gan John Kennedy Toole i fy mherswadio fy hun i'w ddarllen yn iawn o'r diwedd ar ôl gorffen The Big Sleep.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Sioni Size

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Mae'n ddi-nod. Sniff.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Ramirez » Gwe 11 Mai 2007 12:19 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Dwnim eto. Ynys Enlli eto ella, neu 'nelu'r fan unai am yr Alban neu Gernyw a gweld be ddigwyddith.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Neshi ddreifio am ddwrnod wedi i MOT Myfanwy'r Fan redag allan wsos dwytha.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Sebastian Faulks - Human Traces ar ei hanner ers tua dwy flynadd. Catalog Studiospares dwi'n ddarllan fwy na dim dyddia yma :wps:

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Jack Black

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Dim felly. Oddo'n lyfli pan oni'n hogyn bach, sa chi gyd yn jelys. Wedyn mi ddatblygodd na fwy o lwmp yn y canol - dim byd mawr, jysd fod o'm cweit yn syth, a wedyn oni'n paranoid o'i dori fo rhag i hwnnw fynd saith gwaith a golwg y diawl arna i. Wrth gwrs, meddwi neshi, a'i dorri fo, ond dio fawr gwaeth, jysd fod geni graith yn 'i ganol o.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Chwadan » Gwe 11 Mai 2007 12:49 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
I'r llyfrgell i orffen fy nhraethawd hir :crio: A tydi Sesiwn Fawr im hyd yn oed yn cyfri fel gwylia i rywun sy'n dod o Ddolgellau :crio:

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Ddoe, mynd drw ola coch ar fy meic.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Foucault and Political Reason ac East of Eden, Steinbeck. Caru Steinbeck.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Gillian Elisa.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Ydw. Mae o'n eitha pwyntiog ond ddim yn rhy fawr na llethr-sgioaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan ceribethlem » Gwe 11 Mai 2007 12:51 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf? Trip 'da'r wejen i Sbaen. A wedyn seshwn yn Steddfod sbo.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)? Mynd yn rhy glou mewn car (35 yn lle 30)

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd? Syllabus cwrs TGAU Cemeg newydd :wps:

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd? Jason bant o Pobol y Cwm

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn? Mae'n helpu cadw'r sbectol yn eu lle.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 11 Mai 2007 12:54 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

Steddfod, wedyn Ffrainc a/neu'r Eidial gobeithio. Mae'r dyfodol yn ansicir ar hyn o bryd...

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Gyrru rhy gyflym ma siwr, neu smygu rhywbeth sydd ddim i'w gael yn Threshers. A di reverse light y car ddim yn gweithio ers misoedd chwaith.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

Zeno and the Tortoise: How to think like a Philosopher, gan Nicholas Fearne. Dwi angen dysgu mwynhau ffuglen.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Robert de Nero - mae fy nghariad yn ei addoli.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Wel, does gen i ddm problem efo fo heblaw ei fod yn or-hoff o dishian.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Wilfred » Gwe 11 Mai 2007 1:31 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

Ddim yn siwr eto. Rwla poeth efo traeth neis. Nes i drafeilio am fis rownd De America llynedd a gweld lot o betha ond leni dwi awydd ymlacio a gneud dim tra dwi ffwrdd.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Gor yrru ma siwr ar y ffordd i gwaith bore ma.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

This Human Season by Louise Dean.

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Mici Plwm!!!!

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Yndw.
A'r noson honno aeth Wil i'w wely heb damaid o gacen prygenwair ei fam. "Cwaaac"
Rhithffurf defnyddiwr
Wilfred
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 872
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 6:49 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 11 Mai 2007 1:40 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?
Nunlla

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Hmmm, goryrru ychydig fisoedd nol

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Dim byd - rybish yn gwaith am addysg a loliach

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
Y boi 'na ar Grumpy Old Men sy' 'di marw

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Wel, ydw, mae'n siwr
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 11.5.2007

Postiogan nicdafis » Gwe 11 Mai 2007 1:57 pm

1. Ble fyddwch chi'n mynd ar eich gwyliau haf?

Fyddai i ddim yn mynd ar wyliau, ond am y Steddfod, y Dyn Gwyrdd, ac efallai ambell i benwythnos bant.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?

Nos Fercher/bore Iau. Well i mi beidio dweud.

3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?

Proust, credwch neu beidio.

Pretentious? <i>Moi</i>?

4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?

Whoopi Goldberg.

5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?

Ydw, mae'n hyfryd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron