Ramirez a ddywedodd:Ynys Enlli eto ella, neu 'nelu'r fan unai am yr Alban neu Gernyw a gweld be ddigwyddith.
Croesi bysedd am Enlli...
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi dorri'r gyfraith (a beth wnaethoch chi)?
Wierdo a ddywedodd:Hyd y gwyddwn (ac y cofiaf), bthefnos yn ôl. Yfad Quinns ar y stryd! Woo.
(Ma hwn yn troi yn PayP reit ddi-feddwl ar fy rhan i wythnos yma...)
3. Beth y'ch chi'n ei ddarllen ar hyn o bryd?
Catalogue Korg ddoth drwy'r post bora ma. Ma na gymaint o oel driblo arna fo erbyn hyn ma'r tudalennau i gyd wedi glynnu...
4. Pwy hoffech chi i chwarae'ch rhan chi mewn ffilm am eich bywyd?
5. Ydych chi'n hoff o'ch trwyn?
Ydw. Ma genna fo fylb ar ei ddiwedd. A lwmpyn bach hanner ffordd i lawr. A mae o'n rhoi'r camsyniad fod o'n reit fach o'r ffrynt tan dwi'n troi i'r ochr. Rhyw optical-illusion bach pinc.