Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 18 Mai 2007 9:36 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?

3. Pa anifail hoffech chi fod?

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 18 Mai 2007 9:51 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
mam
2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
yndw. lle ma petha'n cael eu cadw.
3. Pa anifail hoffech chi fod?
tylluan.
4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
lot, a wedyn geshi 'neffro i chwilio am ddwmi.
5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
wife swap selebs cymraeg.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan CORRACH » Gwe 18 Mai 2007 9:55 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Mae'n syniad drwg rhannu cyfrinachau, felly - neb.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Na dim felly, jyst ffasgydd am tipyn bach o bopeth, fel petai.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Eliffant ysgithrog iawn, neu Famoth mewn oes a fu.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
£2.79

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Yr un sy'n gorffen hefo firing squad, wal a lot o dyllau bwledi.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 18 Mai 2007 9:58 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Neb, wrth gwrs.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Fedrai'm helpu ond corddi ym mêr fy esgyrn yn clwad pobl dw i'n gwybod sy'n gallu siarad Cymraeg yn siarad yn Saesneg efo'i gilydd.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Armadilo

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Tua awr

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Un amdanaf fi.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cymro13 » Gwe 18 Mai 2007 10:06 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Gyda'r Prison Psychiatrist :crechwen:

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?

Bron bob dim

3. Pa anifail hoffech chi fod?

Eryr

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?

2 bennod o Doctor Who

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?

Sut fyddai Cymro13 yn gwario £100,000,000 :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Sili » Gwe 18 Mai 2007 10:08 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Ramirez gan amlaf, weithia'r chwaer 'cw os dio'n gyfrinach sydd angen ei rannu. Fel arall mi gadwai'n shtwm.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Dwi'n sticlar am gadw amser. Ma bod yn hwyr a cadw pobl yn aros yn mynd 'dan fy nghroen i fwy na'm byd dwi'n meddwl.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Malwan Affrican anferthol er mwyn cael sgyrsiau diddorol efo'r un sgennai.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Dim hir, oni di blino'n lan ar ol gwario oriau ar y tren drwy'r dydd. Ond mi oni'n deffro bob hyn a hyn i'r swn chwyrnu mwyaf annuwiol a glywodd neb erioed gan yr yddyr half. Felly dwi'n barod am fy ngwely rwan digwydd bod :?

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
'Criddle Cam'.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Chwadan » Gwe 18 Mai 2007 10:17 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Y Fo, ac wedyn ma na ffrind gwahanol ar gyfer pob math o gyfrinach.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Ailgylchu.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Jiraff.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Eitha hir. Ac eitha hir wedyn am 5, pan ges i fy neffro gan hawsmet meddw y Fo yn dod adre gan ganu "Sir Drefaaaaaaaaaldwyn, Sir Drefaaa-aaaa-ldwyn, Together standing tall" :x

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Symud Cymru i Barbados.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan gronw » Gwe 18 Mai 2007 10:21 am

Chwadan a ddywedodd:Ac eitha hir wedyn am 5, pan ges i fy neffro gan hawsmet meddw y Fo yn dod adre gan ganu "Sir Drefaaaaaaaaaldwyn, Sir Drefaaa-aaaa-ldwyn, Together standing tall"

haha :D allai'm help teimlo bo fi'n nabod y boi na. ydy ei enw o'n dechre efo m?
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 18 Mai 2007 10:31 am

gronw a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Ac eitha hir wedyn am 5, pan ges i fy neffro gan hawsmet meddw y Fo yn dod adre gan ganu "Sir Drefaaaaaaaaaldwyn, Sir Drefaaa-aaaa-ldwyn, Together standing tall"

haha :D allai'm help teimlo bo fi'n nabod y boi na. ydy ei enw o'n dechre efo m?


Maldwyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Manon » Gwe 18 Mai 2007 10:39 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Fy ffrindiau Eleri a Ffion.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Na.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Morfil.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Ddim yn hir iawn ond buan ges i 'neffro gyda "Mama!" uchal o lofft y bych.

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Big brother Cymraeg.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron