Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan joni » Gwe 18 Mai 2007 11:08 am

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Neb rili. Ond wedyn, sai'n foi am gyfrinachau.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Lot o bethe bach sy'n ddibwys i eraill. Fel newid bog-roll ar ol iddo orffen er enghraifft.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Bravestar - eyes of the hawk, ears of the wolf, speed of a puma.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Es i mas bron strait awe. O'n i'n cnacyrd ar ol whare ffwtbol.

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Dancing with Wolves. Basically, ma loads o celebrities yn cael eu rhoi mewn arena a ma rhaid i nhw ddawnsio. Bydd 'na fleiddiaid llwglyd fewn yn yr arena hefo nhw hefyd.
soon, my pretties...soon...
alcoflog
Rhithffurf defnyddiwr
joni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3983
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 5:32 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Chwadan » Gwe 18 Mai 2007 11:57 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
gronw a ddywedodd:
Chwadan a ddywedodd:Ac eitha hir wedyn am 5, pan ges i fy neffro gan hawsmet meddw y Fo yn dod adre gan ganu "Sir Drefaaaaaaaaaldwyn, Sir Drefaaa-aaaa-ldwyn, Together standing tall"

haha :D allai'm help teimlo bo fi'n nabod y boi na. ydy ei enw o'n dechre efo m?


Maldwyn?

Haha - na, O, ond ma nhw siwr o fod yn ffrindia gora/perthyn yn agos - fel ma pobl Sir Drefaldwyn de :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan khmer hun » Gwe 18 Mai 2007 12:31 pm

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Teulu a ffrindie. Yn ymddiried ormod mewn pobol, fi'n amau.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Weeel... ailgylchu (ond dim gyts i weud wrth bobol sy'n gwrthod chwaith), miwsig crap, hysbysebion babïaidd ar teli sy'n bychanu, pobol yn siarad Saesneg ar raglenni Cymreig pan alle voiceovers neu is-deitlau neud yn iawn thenciw, hela a dillad ffwr, ceir mowr cocwyllt, rhaglenni gwerthu tai dramor. Fwy o pet-hates na thueddiadau ffasgaidd ond hei ho.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Teigrrr

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Ro'n i yng ngwlad Huwcyn Cwsg am 10.30. Chênj

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Twlu llwyth o dramorwyr cool mewn i JMJ neu Bantycelyn a gweld yr ymateb.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Mai 2007 12:38 pm

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?Ddim yn un am gyfrinache fel 'ny.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?Text speak. Fi'n casau fe, ac yn gwrthod ei ddefnyddio, hyd yn oed os mae'n cymryd tri text yn lle un!

3. Pa anifail hoffech chi fod?Ci sy'n cael ei sbwylo fel un fi.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?Dim lot, braidd yn nacyrd

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?Casau rhaglenni realiti. Felly "Celebrity Lemmings" lle bydd twats z list yn rhedeg at ochr clogwyn a taflu eu hunain bant.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan mam y mwnci » Gwe 18 Mai 2007 1:03 pm

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Y gwr.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
pobl heb blant yn parcio mewn llefydd rhiant a phlentyn a pobl efo 11 (neu fwy) eitem yn y ciw 10 eitem neu lai :drwg:

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Sloth. mmmmmm cysgu

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Pen ar y gobenydd a bant a fi...pob nos :D

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Wife swap yng nghymraeg (heb selebratis - sori Manon!)
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 18 Mai 2007 1:23 pm

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?

Fy ffrind cudd o'r enw Alwyn. Pam nad oes neb yn bedyddio'u plant yn Alwyn mwyach?

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?

Fy ochr i o'r gwely.

3. Pa anifail hoffech chi fod?

Cath am resymau amlwg heblaw cael fy rhedeg drosodd.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?

2 botel o Erdinger.

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?

Band Reunited yn Gymraeg. Ond fasa fo'n ddiflas ar ol sbel, achos fysa'r cyn-aelodau gyd yn gweithio yn yr un adran o'r BBC neu S4C. :rolio:
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan khmer hun » Gwe 18 Mai 2007 1:31 pm

mam y mwnci a ddywedodd:Wife swap yng nghymraeg (heb selebratis)


Asu, se hi'n rhemp byse? Se dim ffraeo fel y rhai Saesneg - jyst yn meddwi'n gocls ar win coch ac Edward H, yn cymharu hen ddisgos young farmers a garantid yn landio lan yn gwely da'i gilydd.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 18 Mai 2007 1:56 pm

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Neb llawer, neu bawb. Does gen i ddim un confidant ond dwi'n gallu bod yn eitha blase a flippant gyda cyfrinachau ar adegau.

2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Dwi'n ffasgydd eitha mawr am lot o bethau e.e pobl sy'n defnyddio amp tra'n bysgio, pobl sy'n smocio wrth werthu'r Big Issue, yr head ar beint o Guinness.

3. Pa anifail hoffech chi fod?
Cath.

4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
Eitha tipyn. Dwi'n darllen trwy'r dyddiadur fues i'n cadw dros yr haf a roeddwn i'n benderfynol o orffen ei ddarllen neithiwr.

5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Dilyn krustysnaks fel rheolwr tim pêl droed.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 18.5.2007

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 19 Mai 2007 9:49 pm

1. Gyda phwy fyddwch chi'n rhannu'ch cyfrinachau?
Marged a Joey. A maes-e.
2. Ydych chi'n bach o ffasgydd am unrhyw beth yn arbennig?
Ailgylchu. Wedi colli nifer o ffrindiau dros y mater.
3. Pa anifail hoffech chi fod?
Fflamingo.
4. Faint gymerodd hi i chi gysgu neithiwr?
9 awr - cloc y corff yn ffycd ar hyn o bryd oherwydd traethodu diwyd.
5. Beth fyddai'ch rhaglen realiti ddelfrydol?
Dw i wrth fy modd gyda "Any Dream Will Do?" ac yn HOLLOL GYTID bod Daniel wedi mynd. :crio: :crio: Roedd e mor ffit, hefyd. Arr...
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai