Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 25 Mai 2007 12:21 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?

3. Ydych chi erioed wedi smygu?

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Ramirez » Gwe 25 Mai 2007 12:26 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Cael fy nghariad o gwmpas.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Pirates of the Caribbean 3.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Do. Ddim yn gwneud bellach, chwaith.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Llwyth o hen lol.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?[/quote]
Rhyw hen jins glas sy'n ffitio fel maneg am rwdan.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 25 Mai 2007 12:40 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?

Y gobaith am glymblaid enfys.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?

Y diffyg clymblaid enfys.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?

Yn achlysurol, ond ddim ers noson galan.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

Hen bryd.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?

Crys T 'Dwi'n caru Idris Charles'
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Macsen » Gwe 25 Mai 2007 12:45 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?

Peidio gwneud smonach o gyfweliadau pwysig.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?

Y ffaith nad oes dim byd wedi newid yn Mae Caerdydd ar ol yr holl halibalw.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?

Na.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

Dim barn.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?

Crys-t sy'n frown ac yn ogaleuo'n afiach oherwydd yr holl bobol na'n ysmygu mewn tafarndai. Diolch byth am y gwaharddiad smygu!!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 25 Mai 2007 12:54 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Gwybod bod wythnos lawn arall tan i mi ddechrau fy arholiadau.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Gwybod mai dim ond wythnos arall sydd tan i mi ddechrau fy arholiadau.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Do. Fy brynes i baced o ffags ar fy mhen blwydd yn 16 a gofyn i'r ddynes yn y tobacconists yn dre am y paced rhataf oedd ganddi. Richmonds. Ych. Dwi ddim wedi prynu 'run ers hynny a heb smocio (un llawn) ers tua 9 mis.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Newyddion da. Dwi ddim wedi bod adre llawer i'w fwynhau ond dwi'n cytuno o ran egwyddor ac ymarferoldeb.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Mae'r sanau nes i wisgo ddoe yn eitha drewllyd. Dwi'n siwr bod na rhyw grys t nes i wisgo ar noson allan yn ffestro o dan y domen sydd ar fy nghadair.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Chwadan » Gwe 25 Mai 2007 12:59 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Cael cynnig swydd.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Diffyg clymblaid enfys.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Naddo.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Hen bryd.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Un anodd. Par o nics melyn o Primark (heb eu gwisgo), mi dybiaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Jeni Wine » Gwe 25 Mai 2007 1:01 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Dod i wybod fod y Ffyris yn canu yn Clwb fis nesa

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Sylweddoli na fydda i'n gallu mynd :crio: gytud. hollol gytud.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Do. Di rhoi'r gora iddi ers mis Medi llynadd.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gret - lot haws meddwi a pheidio smocio. Blaw am y chwiws sy rwan yn pla mewn pybs.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Fflers saicadelic tyrcwais. Ma nhw'n rili cwl, ond eto ddim. Os da chi'n dallt be dwi'n feddwl. Mond unwaith dwi wedi eu gwisgo nhw a mi o'n i'n teimlo rel pleb.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 25 Mai 2007 1:03 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Diffyg clymblaid enfys.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Y ffaith bod cymaint o bobl call wedi mynd am y syniad.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Wedi rhoi'r gorau iddi ers cwpwl o fisoedd, ond yn dal i smygu'n achlysurol (yr un ddwetha oedd ar ôl 83 munud o gêm nos Fercher - erbyn i fi ei gorffen, roedd hi'n 2-1)

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gret. Fe gymrodd hi sbel i fi gael fy narbwyllo bod y peth yn syniad da, ond mae'r gwynt mewn tafarnau'n gymaint mwy dymunol.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Maen nhw i gyd wedi mynd i'r siop elusen.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Mephistopheles » Gwe 25 Mai 2007 1:07 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Gorffen coleg 6ed

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Gorffen coleg 6ed

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Ambell waith wedi meddwi

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gwych, er rwan gyda'r arogl smygu wedi diflannu allan o dafarndai/clybiau mae wir arogl drewllyd y lle yn dangos, ee 'BLU' yn Pwllheli, sy'n arogli o draed!

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Fy nghrys chwys, man chwyslyd
I Like escalators, they cannot break, they can only become stairs
Rhithffurf defnyddiwr
Mephistopheles
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 291
Ymunwyd: Maw 06 Meh 2006 11:16 am
Lleoliad: Uffern

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Gwe 25 Mai 2007 1:07 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Aduniad y Garage Gang!

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Librals

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Do, ond dim ers tro byd.


4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

Dim llawer o brofiad ohono eto. Byw yr ochr arall i'r ffin, a rhyw fis i aros tan daw i mewn yn fama. Dwi'n meddwl y bydd o'n beth da, ac yn edrych mlaen i beidio a theimlo'n sal wrth arogli nillad bore wedyn!

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Cot ddu dwi wedi colli cawl pys drosti wythnosau yn ôl, a dal heb fynd â hi i'r cleaners. Dwi ofn agor y bag i weld sut siap sydd arni erbyn hyn... siwr ei bod hi wedi llwydo i gyd. Biti - cot neis.
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai