Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan docito » Gwe 25 Mai 2007 1:12 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
pipo inzaghi. sdim byd gwell na gweld skin heads canol oed yn crio

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
colli ar ol cyrraedd heads up gyda 18,000 o chips yn erbyn 2,000 fy ffrind mewn gem 9 person. Dyw 'all in' bluff gyda j/3 ddim yn syniad da :wps:

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
dal yn weithie, pan yn ceisio dennu sylw i'n hun

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
da. ond am y ffaith bod ni oll yn mynd i droi mewn i fastads hunangyfiawn. o'n i wastad yn casau cwrdd a americanwyr odd yn cwyno am ein tafarndai
oh my god this place is like... so like dirty

http://youtube.com/watch?v=sTbp4DqX_AE

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
siaced tracwisg retro adidas o'n i wastad yn meddwl odd yn cwl ond su'n neud i fi edrych fel glc
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Mici » Gwe 25 Mai 2007 1:19 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Diwrnod talu cyflog am wn i

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Tywydd sal mis Mai a Lerpwl yn colli nos Fercher

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Mond rhyw un ddau pan yn chwil

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
O blaid

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Crys lliw 'Lime Green'/cyri a defnydd 'drainpipe'. Mae o bell yn y wardrob yn rwla ond dwi'n ofn fod na luniau o'r archif a ddeith i fy nychryn rhyw ddiwrnod :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Postiogan Cymro13 » Gwe 25 Mai 2007 1:20 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?

Y Posibiliad o Glymblaid Enfys

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?

Dim Clymblaid Enfys
Cymaint o bobl call yn erbyn Clymlaid Enfys
(byddai wedi ychwanegu Liberals ond dwi ddim yn disgwyl gwell ganddyn nhw :winc: )

3. Ydych chi erioed wedi smygu?

Do

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

Ti'n gallu anadlu fe ar anadl pobl fwy mewn tafarn

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?

loads o grysau t sydd yn awr yn rhy fach i fi
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 25 Mai 2007 1:27 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Uffar o ddim. Dwi 'di cael wythnos shit a dw isio chi wybod hynna.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Gwleidyddiaeth

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Do, ydw. Lot.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
O'n i'n erbyn yn y dechrau ond dw i o'i blaid hi rwan

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Ffyc, 'sa hwnnw'n gallu bod yn rwbath, seriws. Methu meddwl, mae nillad i gyd yn afiach. Ond bosib un o'r rhai 'na efo Trwy Ddulliau Chwyldro, crys-t 'di troi bob lliw dan haul ac wn i ddim paham.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhodri » Gwe 25 Mai 2007 1:58 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?

Cywiro Sais o Abersoch mai ddim Abuhsock ydy enw'r lle.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?

Y ffaith na ddaru o wrando bygyr ol arna i.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?

Do

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

Ma pybs yn drewi. Ond mae mwydro cyd-ysmygwyr tu allan yn wych o beth.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?

Ryw grys glas ges i o Tenovus chydig yn ol achos bod hi'n oer. Dwim hyd yn oed yn LICIO line dancing!


Wel mi basiodd hynna ryw bum munud debyg. :rolio:
shifft y westral!
Rhodri
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 285
Ymunwyd: Iau 19 Rhag 2002 2:07 pm
Lleoliad: Put-Jelly

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Sili » Gwe 25 Mai 2007 1:59 pm

Ramirez a ddywedodd:5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Rhyw hen jins glas sy'n ffitio fel maneg am rwdan.


Wel nage wir. Rhyw grys T glas llachar anferth efo twll gwddf sydd lot rhy fach a sy'n gneud i ti edrych fel twrist. Yachfi.

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Bod adra ym Mhen Llyn o'r diwedd.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Gorfod codi tua'r 7 bob bora i fynd i weithio i Ysbyty Gwynedd. Dwi'n gelain ar fy nhraed bellach...

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Naddo, erioed. Ond mi fyswn i'n cychwyn 'smygu baco tasa rhywun yn fodlon prynu peip i mi 8)

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Ogla pips a rhech yn y pybs i gyd bellach braidd yntoes? Ar y llaw arall ma'n braf medru mynd allan heb orfod golchi'r mwng o wallt yn syth wedyn.

[b]5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?

Hen siwmper gwaith wlannog fy nhad. Ma'n dylla i gyd ac yn ogleuo o gychod, cwn a phetrol a dwi'n ei wisgo byth a beunydd rownd y ty :D
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Reufeistr » Gwe 25 Mai 2007 2:04 pm

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Yr ymateb anhygoel sydd wedi bod i'r grwp 'Huw Ifor' neshi greu ar Ffesbwc. O fewn 10 munud o'i greu roedd yna 15 aelod. Ma hena'n 1.5 aelod y munud. Mae bellach 81 aelod a ma'n dal i dyfu.

Yn ogystal a hyn, mae Huw Ifor (fel mae o'n neud pob wsos) wedi codi nghalon i.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Dim follow-through ar y man about a dog situation oni am neud wicend ma.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Do / Yndw

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Fel udodd Pen Wy, hen lol wirion.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Wel dwi'n gwisgo'r jeans ma wan ers Ungodly amount of time heb eu golchi. Dwi di chwara degau o gigs ynddo nhw.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 25 Mai 2007 2:24 pm

Ti'n trio cychwyn ffrae ta be Gwahanglwyf :winc:

1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?

Car newydd.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?

Fod pobl yn amharod i roi gelyniaethau'r gorffenol i'r neilltu er mwyn adeiladu dyfodol gwell, ac yn diffinio eu hunain wrth pwy mae nhw'n eu herbyn yn lle be maen nhw o'i blaid.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?

Do, am flynyddoedd. Ond ddim ers 15 Ebrill 2006

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?

Iawn de. Dwi'm di sylwi arno fo lot deud wir. Fel tase fo wedi bod yno erioed.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?

Off top fy mhen, fedrai'm meddwl. Ma'r rhai fiach yn mynd i Oxfam
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan Reufeistr » Gwe 25 Mai 2007 2:36 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
3. Ydych chi erioed wedi smygu?

Do, am flynyddoedd. Ond ddim ers 15 Ebrill 2006



:rolio:
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

Postiogan docito » Gwe 25 Mai 2007 2:40 pm

Reufeistr a ddywedodd:1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Yr ymateb anhygoel sydd wedi bod i'r grwp 'Huw Ifor' neshi greu ar Ffesbwc. O fewn 10 munud o'i greu roedd yna 15 aelod. Ma hena'n 1.5 aelod y munud. Mae bellach 81 aelod a ma'n dal i dyfu.

ond ma hwnna'n 81 aelod mewn 27 awr sydd yn gweithio allan fel 0.05 person pob munud sydd llawer llai 'impressive
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron