Tudalen 3 o 4

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 2:42 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Mr Gasyth a ddywedodd:Ti'n trio cychwyn ffrae ta be Gwahanglwyf :winc:


:o

Sai'n gwbod am beeeeeeth wyt ti'n sôn...

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 2:53 pm
gan Hogyn o Rachub
docito a ddywedodd:
Reufeistr a ddywedodd:1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Yr ymateb anhygoel sydd wedi bod i'r grwp 'Huw Ifor' neshi greu ar Ffesbwc. O fewn 10 munud o'i greu roedd yna 15 aelod. Ma hena'n 1.5 aelod y munud. Mae bellach 81 aelod a ma'n dal i dyfu.

ond ma hwnna'n 81 aelod mewn 27 awr sydd yn gweithio allan fel 0.05 person pob munud sydd llawer llai 'impressive


Faint ydi 0.05 person tybed?

Bawd? Clust? Tafod?

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 3:11 pm
gan Rhodri Nwdls
1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Dwi'n mynd i ynys yn Groeg am wsnos ac ynys Enlli am wsnos ddiwedd Mehefin!

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Fod Llafur yn cael rhygnu mynd am 4 mlynedd arall.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Pob dim oedd yn cynna o 13 tan 27, ac ers hynny'n achylsurol gyda pheint.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gwd thing. Er nad o'n i'n meddwl hynny ddwy flynedd yn ôl.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Hen drôns piws. Dal yn gwisgo nhw weithia pan nad oes dewis arall ar ôl.

Dwi di gwneud sawl faux pas fashiynol dros y blynyddoedd (a pharhau i wneud siwr o fod heb sylwi...), ond ma'r eitemau hynny wedi mynd i'r siop elusen.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 3:21 pm
gan ceribethlem
1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?Hanner tymor yn dechre heddi.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?Rhai o ganlyniadau TASau Blwyddyn 9

3. Ydych chi erioed wedi smygu?Do

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?Gwych o beth.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?Odd gyda fi grys rygbi Lloegr unweth. Er barodd e' ddim yn hir ar ol cwrdd a England's Glory

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 3:34 pm
gan mam y mwnci
1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon? dod i ben a sgrifennu un bennod yn gwaith

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon? Bod 13 i fynd

3. Ydych chi erioed wedi smygu? Ydw , mynd i rhoi'r gorau ymhen pythefnos

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?da iawn pan yn braf - wir yn mynd ar fy nhits pan yn bwrw glaw!

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?[/quote] Pajamas Hen iawn flanalette pinc ond ma nhw'n gynnes pan yn campio! :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 3:45 pm
gan Fflamingo gwyrdd
1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
'Mod i wedi rhoi fy notis i mewn heddiw, a'r ffaith mai dim ond saith diwrnod sydd tan i fi fynd ar fy ngwyliau - wypîîîîî 8)

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Fod y gwesty oeddan ni'n ei wir ffansio yn Llafranc yn llawn am y pedair noson oeddan ni'n gobeithio aros yno

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Naddo 'rioed. Yr agosaf ydw i wedi dod i neud, ydi esgus gwneud o flaen annwyl gefnder meddw yn Hwngari flynyddoedd yn ôl, er mwyn trio siarad sens efo fo. Doedd 'na ddim hydynoed tân arni. Roedd o'n rhy feddw i hydynoed sylwi hynny!

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gwych. Dim ogla. Dim llygaid coch yn llifo. A dim llwch, dderffôr, dim tishan chwaith.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?[/quote]
Argol, dwnim. Ma'na fwy nag un dilledyn, mashwr.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 4:31 pm
gan Sili
Rhodri Nwdls a ddywedodd:ynys Enlli am wsnos ddiwedd Mehefin!


Gai ddod? Nath y cariad a minnau fethu bwcio adeg oedd yn siwtio'r ddau ohona ni mewn pryd ac felly gan fod bron bob ty wedi ei fwcio dros gyfnod y gwylia erbyn hyn, dani'n ddi-wyla i weld rwan :crio:

Pliiis mistar Nwdls? :winc:

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 4:40 pm
gan sian
Mr Gasyth a ddywedodd:Fod pobl yn ... diffinio eu hunain wrth pwy mae nhw'n eu herbyn yn lle be maen nhw o'i blaid.


Da!

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 5:38 pm
gan Jon Bon Jela
1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Dim. Dw i wedi bod yn isel iawn â bod yn onest.

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Noson gomedi Poncho nos Iau.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Nac ydw!

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gwychbeth gachboeth. Mae lefelau pretence Clwb Ifor Bach wedi mynd lawr 80% ers Ebrill 1af.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Hmm... Mae gen i chwaeth eithaf anarferol, ond ma fy nghwpwrdd dillad i yn dderbyniol. Ond, pan o'n i'n 18, roedd gyda fi bâr o jîns gyda crotch o ledr ffug. Chwyslyd.

Re: Pump am y Penwythnos, 25.5.2007

PostioPostiwyd: Gwe 25 Mai 2007 6:05 pm
gan dave drych
1. Beth sydd wedi codi'ch calon yr wythnos hon?
Gorffen arholiadau a gorffen coleg o'r diwedd! Mae hi di bod yn ddiawl o amser hir. A'r dynes yn llyfrgell di cymyd £2 i ffwrdd o'r bil £5 oedd gennai :D

2. Beth sydd wedi'ch siomi yr wythnos hon?
Dim byd llawer, wythnos golew.

3. Ydych chi erioed wedi smygu?
Byth di bod yn ysmygwr go-iawn, ond arfer bachu sigaret gan ffrindiau oes oeddwn i wedi meddwi. Oni'n partial i ambell jazz-sigaret adeg chweched hefyd. Fyswn i'm yn meddio anadlu'r fath rwj wan.

4. Beth yw'ch barn chi am y gwaharddiad smygu?
Gwych. Er bod tafarndai yn drewi o'i herwydd.

5. Beth yw'r dilledyn mwyaf afiach sydd gyda chi?
Genai boxer-shorts ers ryw 6-7 mlynedd. Maen nhw'n hollol racs a di rhigo, ond am ryw reswm fedrai ddim llecho nhw i'r bin. Eitha 'attatched' iddyn nhw :wps: