Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Dwlwen » Gwe 01 Meh 2007 9:32 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Cymro13 » Gwe 01 Meh 2007 9:47 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?

Downfall

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?

Rwsieg

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?

Groeg

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?

Yr Almaen

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?

Ffraneg neu Eidalaidd
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Manon » Gwe 01 Meh 2007 9:51 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
Trois Couleurs: Rouge. Mae gynnon ni boster hiwj o'r ffilm yn stydi ty ni.
2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
Ffrangeg. Mae o mor secsi.
3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
'Swn i'n licio heirio winebago a mynd rownd yr UDA.
4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Seland Newydd. 'Swn i'n byw ar lan y mor lle ti'n gallu gweld y morfilod yn nofio yn y mor.
5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
jambalaya efo prawns (mae Mr Manon yn ffab am wneud o!)
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Postiogan Socsan » Gwe 01 Meh 2007 10:07 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
Ar y funud, Volver. Ma Amelie yn hen ffefryn, a L'auberge Espagnol fyd. Y rhai commercial dwi'n lecio fel arfer :rolio:

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
Mandarin - am ei bod hi'n iaith eithriadol o annodd i'w dysgu medda nhw

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
Quebec neu rwla poeth hefo traeth

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Catalunya mashwr, ond os swn in dewis gwlad sy'n siarad Saesneg, swn i'n mynd i Seland Newydd.

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Sbaeneg :D
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 01 Meh 2007 10:16 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
Yr un cynta sy'n dod i mhen bob tro efo lists fel hyn ydi Delicatessen. Mae 'na gymaint dwi'n lecio amdano fo. Y Troglots, y trais slapstick, y miwsig, y naws a'r lliw, y dyn brogaod, yr olygfa peintio'r to/orgasm, y Tika Tika Walk efo Livingstone...y diweddglo sy'n gadal fi'n gegrwth bob tro. A dwi dal heb ei weld yn y sinema.

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?

Siapaneeg - am fod o wedi bod yn freuddwyd ers tipyn.

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
Rhwla tawal, efo traeth a môr glas. Gili Trawangan, Lombok, Indonesia ella.

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Ostrelia (Sydney yn benodol). Fan'no dwi di teimlo fwyaf chwithig i'w adael ar ôl cyfnod o fyw yno. Lle da, dyddia da.

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Ar hyn o bryd...Cawl miso gyda nwdls a deiliach gwyrdd a tofu. Flavour of the month yn lle ni.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Meh 2007 10:27 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
H.y. ddim o'r diwylliant Eingl-Americanaidd? Cwestiwn anodd dros ben. À bout de souffle, o bosib. 'Na i siwr o fod newid fy meddwl mewn dwy funud.

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
Ffrangeg er mwyn deall y wej pan mae hi'n siarad 'da'i chath.

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
Seland Newydd.

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Ffrainc. Toulouse falle, neu Biarritz. Neu Perpignan. Mae 'na batrwm fan hyn...

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Ga' i neud hamper? Kabanos o Wlad Pwyl, ham Parma o'r Eidal, halloumi o Gyprus... (dylyfu gên a la Homer)
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 01 Meh 2007 10:31 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
Yr un cynta sy'n dod i mhen bob tro efo lists fel hyn ydi Delicatessen. Mae 'na gymaint dwi'n lecio amdano fo. Y Troglots, y trais slapstick, y miwsig, y naws a'r lliw, y dyn brogaod, yr olygfa peintio'r to/orgasm, y Tika Tika Walk efo Livingstone...y diweddglo sy'n gadal fi'n gegrwth bob tro. A dwi dal heb ei weld yn y sinema.


Fe wylies i hi 'to ddydd Sul gyda phaned o de a tharten rhiwbob a hithe'n pisho bwrw tu fas. Nefoedd. :D
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Wierdo » Gwe 01 Meh 2007 10:32 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
Sgin im un. os ydwi wedi gwylio un, tydwim yn cofio :wps: gwarth!

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
Yyyym Ffraneg. Diflas mi wn ond meh! Neu Llydaweg

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
Canada

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Canada (ma gin i thing am canada...dwnim pam ond dwi wedi bod eisiau mynd yno erioed

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Caws bara a siocled ffrainc. Och, hyfrytwch!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 01 Meh 2007 10:38 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?

Dwi'm yn ffilm buff o bellfordd mewn unrhyw iaith de ond dwi'n cofio ffilm Korean weles i ryw dro o'r enw Dead Dogs Don't Bite am foi sydd, ie, yn byta cwn. Hefyd rhwy ffilm Norwyeg o'r enw Adams Apple welish i'ng Ngwyl Ffilmie Gaerdydd rywdro, roedd honno'n ddoniol iawn.

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?

Rwsieg ma'n siwr er mwyn cal swnio'n galed. Nes i drio cychwyn dysgu rywdro ond ges i'm pellach na'r wyddor yn anffodus.

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?

Dwyrian ewrop rywle ma'n siwr, ar dren. Nes i fwynhau Bosnia yn fawr llynedd, felly Moldova a Trans-Dinistra sydd nesa dwi'n meddwl.

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?

Ffrainc. They just don't give a shit.

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?[/quote]

Indian ma'n swir. Hoffi blasau cryf.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos - 1/6/2007

Postiogan Jeni Wine » Gwe 01 Meh 2007 10:38 am

1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
Ar hyn o bryd - Cache (Hidden)

2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
Catalaneg.

3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
Dwi *yn* mynd ar wylia fory - i Sardinia! Ond tasa pres ddim yma nac acw, mi faswn i'n mynd i Cuba. Neu Cheina. Cyn iddyn nhw gael eu difetha. Mae'n eironig na fedra i fforddio mynd i lefydd sy ar fin cael eu chwalu gan gorfforaethau Eingl-Americanaidd afiach.

4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Catalunya

5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Salad groegaidd, tzatziki a iogwrt a mel Groeg i bwdin.
Neu Sbageti Vongole. Methu penderfynu.
Golygwyd diwethaf gan Jeni Wine ar Gwe 01 Meh 2007 10:49 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai