gan Madrwyddygryf » Gwe 01 Meh 2007 12:44 pm
1. Beth yw eich hoff ffilm o dramor?
The Lives of Others yw fy ffefryn ar y foment. Ond mae Goodbye Lenin, The Edukators ac Downfall wedi bod yn werthchweil. Mae'r Almaenwyr wedi dechrau gwneud ffilmiau da iawn.
2. Pe bai chi’n gallu siarad unrhyw iaith (heblaw’r rheini ‘ych chi’n siarad yn barod) p’un fyddech chi’n dewis siarad?
Yn dilyn fy ateb uwchben, yn sicr Almaeneg.
3. Pe bai chi’n cael mynd ar wyliau fory, i ble fyddech chi’n mynd?
Fe hoffwn trafeilio fyny o San Franciso trwyn Portland i Seattle wedyn ar draws i Montana yn sicr.
4. Pe bai chi’n gorfod galw gwlad arall yn ‘adref’, p’un fyddech chi’n dewis?
Rwsia dwi'n meddwl. Mi es yna pan oeddwn yn blentyn a mae na rhywbeth am y lle sydd wastad wedi dennu fi.
5. Pa bryd o fwyd o dramor sydd orau gennych chi?
Mi wnes i fwynhau bwyd Almaeneg/Tsiec. Cig, tatws, gravy a cwrw. Dim byd gwell !
Golygwyd diwethaf gan
Madrwyddygryf ar Gwe 01 Meh 2007 12:47 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|