1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Ddoe, dangos i boi Ffrangeg sydd newydd symud fewn sut mae gweithio peiriant golchi a hoover, sortio lle i fynd i gael rhif i weithio a rhoi bwyd iddo nes iddo fynd i siopio
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Wel ron i di bwriadu troi yn gas efo pobol neuadd y ddinas am bod nhw cau hel bins am bod na hen ddyled ar y cyfrif, ond di bod yn gweithio mewn llefydd tebyg fy hun felly nes i chwarae'r cardyn 'boi di cael cam'. Mai yn talu fod yn cas fud, pobol sydd yn gweiddi cwyno a rhuo mwyaf sydd yn cael pethau di setlo fwyaf cyflym er bod pawb yn meddwl bod nhw'n 'nobs'
3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Nadw. Gweler uchod
4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
Fel arfer lot fawr, siwr bo fi di darllen rwla bod o yn dda i chi fud
5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
Swni cael llond platiad o 'savouries' gynta cyn troi at pwdin. Un o fy ffrindiau efo tric da mewn 'carvery' a byffets, sef rhoi slabs mawr o gig cynta fel bo chi cael sylfaen da ar y plat i fitio mwy o fwyd arno.