1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Anfones i fwnshed o flode ddoe... ond euogrwydd odd hynny. Ges i botel o win i'r Nwdlyn ddoe... ond oedd e'n rhoi beic gwerth canpunt ifi. Hmm, dwi'n stryglo. Y peth caredicaf i fi neud, ma'n siwr, odd treulio fy awr ginio, sbelen fawr yn ol bellach, ar queen street gyda bachgen bach ar f'ysgwydde fel bod e'n gallu edrych am ei fam a'i dad gan bod e ar goll. Ffindon i nhw 'fyd... ac er bod y tad yn edrych arno fi'n amheus iawn, fel bod e newydd ffindo'i fab 'da John Owen, odd y fam mewn dagre a dyma hi'n bereto fe: "Oh, Derek, just thank the man you bloody idiot."
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
dimloldimsaith@yahoo.co.uk
3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Odw, dwi'n meddwl bo fi... os yw carma'n golygu
you reap what you sow ondife...
4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
ddim yn amal iawn ar hyn o bryd (ahem. help!
dimloldimsaith@yahoo.co.uk )
5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
oes 'na savoury? ga'i sosej rôl?
mam y mwnci a ddywedodd:2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Fues i'n eithaf cas efo dynes yn y show home Watkin jones - pan nad oedd hi'n gallu esbonio i fi pam eu bod yn gwerthu 'tai' yng nghymraeg a 'homes' i'r saeson.
s'dim byd fel gwd holltad o flewyn ose?