Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan mam y mwnci » Gwe 08 Meh 2007 10:22 am

Jeni Wine a ddywedodd:[b]1
Lot, yn enwedig pan ma Mam y Mwnci o gwmpas.

.


Mae deud hyn yn beth caredig ofnadwy os cai ddeud!

am beth neis i ddweud- ti di codi nghalon i - gei di spin ar fy fit flops unrhyw adeg!
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan krustysnaks » Gwe 08 Meh 2007 10:39 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Fues i'n neis iawn wrth un o fy ffrindiau neithiwr ar ôl iddi gael arholiad gwael. Roedd hi i weld yn hapusach ar ôl cael sgwrs.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Yn ystod y sgwrs honno, fe fitshiais am ffrind. Dwi'n gallu bod yn eitha cas pan dwi'n cadeirio cyfarfodydd.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Na.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
Dibynnu faint o glipiau o Peter Cook a Dudley Moore ar youtube. Rhyw bedwar heddiw, hyd yn hyn.

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
Www, y gacen pen blwydd.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Cymro13 » Gwe 08 Meh 2007 10:43 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?

Pan nath boi ceisio rhoi copi o'r papur newydd Metro ar y ffordd i gwith bore ma - Nes i wenu arno fe poan nes i ddweud NA

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?

Pan nath rhywbeth ddim mynd allan yn y post pryd odd e fod mynd allan yn y post :drwg:

3. Ydych chi'n credu mewn carma?

Weithiau

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?

Dibynnu be sy'n ddoniol

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?

:? Ddim yn cofio
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Sili » Gwe 08 Meh 2007 10:46 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Neithiwr pan nesi gwstard i Ramirez yn bwdin.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Neithiwr pan alwis i Ramirez yn dew.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Nagydw. Ond dwi wastad yn treial bod mor neis efo pobl a dwi'n gallu bob tro.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
Lot gormod. A dwi'n chwerthin ar betha sydd ddim i fod yn ddoniol 'fyd h.y. damweinia a trasiedi a ffreuo a ballu :wps:

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
Bechdana Spam i gychwyn wedyn syth at y blacmange pinc. A ma hwnnw wastad yn blasu'n neisiach os dio di cal ei neud mewn 'mold' siap cwnhingen fawr. Mmm...
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Ifan Saer » Gwe 08 Meh 2007 11:20 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?

Ddoe, prynu batris i'n ffrind gan ei fod yn dwyn rhei fi drwy'r amsar

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?

Ddoe, contio'n ffrind i am ddwyn batris fi drwy'r amsar

3. Ydych chi'n credu mewn carma?

Ydw, pam mae o'n fy mrathu ar fy nhin

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?

Hmm. Anodd deud. Digon amal deud y gwir

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?

Hufen iâ mwy na thebyg ond faswn i jyst isio gwbod lle ma'r diod
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Dwlwen » Gwe 08 Meh 2007 12:19 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Ma 'na foi i fod i gyrraedd any minute now i gasglu stwffach oddiar freecycle.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Ar ol cynnig y stwff freecycle i'r boi 'ma, orfes i weud 'na' wrth 3 person arall.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Ydw, mewn ffordd.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
9.8 gwaith.

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
Rhedeg rownd fel peth gwyllt oedd y peth cynta' yn ty ni... wedyn sosej a chips, wedyn jeli a angel delight.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 08 Meh 2007 12:35 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Nes i brynny chip byti i Calfin 'cos dodd dim arian gyda fe am ginio.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Ddoe. Nes i ddweud wrth gweithiwr HSBC bod ei banc nhw yn shit.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Na. Dwi ddim yn credu mewn tylwyth teg chwaith.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
Fel arfer wrth ddarllen y 'newyddion' yn y Daily Pest.

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
Y drws...
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan ceribethlem » Gwe 08 Meh 2007 12:55 pm

Cymro13 a ddywedodd:1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?

Pan nath boi ceisio rhoi copi o'r papur newydd Metro ar y ffordd i gwith bore ma - Nes i wenu arno fe poan nes i ddweud NA

Ti o ddifri, neu ife joc yw hwn?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 08 Meh 2007 1:09 pm

Pobl Metro yw sgym y ddaear a'r craith ar fy mywyd. Ni chânt na gwên na dim diolch gennyf innau bellach.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 08 Meh 2007 1:17 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Pobl Metro yw sgym y ddaear a'r craith ar fy mywyd. Ni chânt na gwên na dim diolch gennyf innau bellach.


Erm... pam?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron