Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Selador » Gwe 08 Meh 2007 1:21 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
Ma'r cymraeg yna lot rhy warthus i ateb.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Ma hwnna 'fyd.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Ia mi fysa chdi bysachd y twat.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
Bob tro ti'n dwat.

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
Ti wedi byta nhw i gyd do.
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 08 Meh 2007 2:53 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?
ddoe neshi roi tocyn parcio i ryw foi bach gwallt gwyn. ond nath o'm diolch... oni'n dyfaru wedyn.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
nos ferchar pan oni'n sdresd a neshi wylltio. wps.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?
yndw. ond dwi di lladd miloedd o chwiws bach niwsans sy'n bla'n y ty 'ma... felly dwi'n siwr o gael amsar diawledig am y misoedd nesa' 'ma.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
bob tro ma babi'n sbio arna fi.

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?
y presanta.
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Positif80 » Gwe 08 Meh 2007 8:54 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?

Rhoaddais i pres i ryw ddynes oedd yn casglu ar gyfer yr NSPCC heno.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?

Wytnos diwethaf, pan dywedodd ryw pric Saesneg mewn car "go to the gym", dweudais i yn y hen ffordd traddodiadol, plentynaidd: "That's not what your mother said last night".

A classic - never gets old.

3. Ydych chi'n credu mewn carma?

Nacdw.

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?

Oes na quota neu rywbeth?

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?

Brechdam wy.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y Penwythnos, 8.6.2007

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 08 Meh 2007 9:25 pm

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun? Nes i adael i hogan digartref oedd methu seinio ar yn Iwerddon achos bod hi'n dod o Loegr a methu sortio rhif pps allan achos bod gyna hi ddim cyfeiriad aros yn fy ystafell.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?
Nes i gal llythur gan fy landlord yn dweud bod fi'n byw yn y ty a rhoid llythyr iddi hi a llythyr gennyf i yn dweud bod hi'n byw yn y ty iddi gael seinio ar. 3 mis yn ddiweddarach doedd hi dal heb seinio ar a dal yn cysgu yn fy ystafell yn breddwydio. Nes i ddeutha hi os mae hi'n gwybod neu beidio, bod hi'n defnyddio fi a bod well iddi hi bacio ei stwff a mynd a bod hi angen reality check. Oni'n teimlo'n euog ond nath o weithio am y gorau achos aeth hi'n syth i sortio ei dol y diwrnod wedyn a da ni'n fwy o ffrinidiau nag erioed rwan.
3. Ydych chi'n credu mewn carma?
Yndw. Dwi'n coelio bod pobl ar y cyfan yn cael ei trin fel mae nhw'n trin eraill.
4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?
Dibynu ar be dwi 'di neud ar y diwrnod yna.
5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?[/quote]
Jeli coch.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mici » Sad 09 Meh 2007 9:12 am

1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn garedig i rywun?

Ddoe, dangos i boi Ffrangeg sydd newydd symud fewn sut mae gweithio peiriant golchi a hoover, sortio lle i fynd i gael rhif i weithio a rhoi bwyd iddo nes iddo fynd i siopio

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn gas i rywun?

Wel ron i di bwriadu troi yn gas efo pobol neuadd y ddinas am bod nhw cau hel bins am bod na hen ddyled ar y cyfrif, ond di bod yn gweithio mewn llefydd tebyg fy hun felly nes i chwarae'r cardyn 'boi di cael cam'. Mai yn talu fod yn cas fud, pobol sydd yn gweiddi cwyno a rhuo mwyaf sydd yn cael pethau di setlo fwyaf cyflym er bod pawb yn meddwl bod nhw'n 'nobs'

3. Ydych chi'n credu mewn carma?

Nadw. Gweler uchod

4. Sawl gwaith fyddwch chi'n chwerthin bob dydd?

Fel arfer lot fawr, siwr bo fi di darllen rwla bod o yn dda i chi fud :lol:

5. Mewn parti hen ffasiwn gyda blancmange, hufen iâ, jeli etc, beth yw'r peth cynta' fyddech chi'n mynd amdano?

Swni cael llond platiad o 'savouries' gynta cyn troi at pwdin. Un o fy ffrindiau efo tric da mewn 'carvery' a byffets, sef rhoi slabs mawr o gig cynta fel bo chi cael sylfaen da ar y plat i fitio mwy o fwyd arno.
Rhithffurf defnyddiwr
Mici
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 846
Ymunwyd: Gwe 21 Ion 2005 11:47 am
Lleoliad: Galway

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai