Pump am y Penwythnos 15/6/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Manon » Gwe 15 Meh 2007 11:20 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Ma' rhywun 'di gazympio ni ar gartref fy mreuddwydio bore ma... A 'dwi'n meddwl bo' nhw am iwsho fo fatha ty Ha'! :drwg: :drwg: :drwg:
2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Do, mae 'na fwy o Gymraeg ym Machynlleth nag o'n i'n meddwl.
3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Digwyddiad.
4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Mewnblyg. Mae hyd yn oed fy ffrindia'n galw fi'n social retard.
5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Hummbug! O mae hwn yn ace!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 15 Meh 2007 12:02 pm

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Do yn bendant. Oni dw i'm yn cofio be. Fydda i wedi fy siomi yn aml

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Na. Dydi o'm yn bosib.

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Y digwyddiad - mae'n gas gen i ddisgwyl

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Dw i'n hanner cymaint o allblyg ag oeddwn i'n arfer bod, ond byddwn i dal yn ystyried fy hun ar yr ochr allblyg.

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Gwyddbwyll
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan ceribethlem » Gwe 15 Meh 2007 12:47 pm

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)Cymru'n gadael cais mewn yn y munud ola i glooi'r gem yn erbyn Awstralia yn siomedig, ar ol dod mor agos.

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)Ges i botel o win coch rhad o rywle, ac odd e'n neis iawn.

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?Weithiau un, weithiau'r llall, mae'n dibynnu ar amgylchiadau gwahanol yn amal.

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?Odw

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?Monopoli Star Wars
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 15 Meh 2007 1:15 pm

ceribethlem a ddywedodd:1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)Cymru'n gadael cais mewn yn y munud ola i glooi'r gem yn erbyn Awstralia yn siomedig, ar ol dod mor agos.


Ges i deimlad cryf uffernol i ladd Gareth Cooper yn bersonol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Dwlwen » Gwe 15 Meh 2007 2:58 pm

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Pan weiddodd y boi 'na "gay" jyst cyn climax sioe stand-up Daniel Kitson. Wy'n itha siwr i fi weld calon Kitson yn torri...

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Tocyn i SFA yn Clwb ar y funud ola'. (Plys clywed bod Daniel Johnston yn dod i whare yng Nghaedydd!)

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Sda fi ddisgwyliadau uchel, sy'n wych cyn y digwyddiad, ond yn eitha shit pan bod e'n digwydd.

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Mewnblyg. (a hyblyg...)

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Guess Who!
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan nicdafis » Gwe 15 Meh 2007 3:43 pm

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)

Dim mwy nag arfer.

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)

Sori i fod mor bathetig, ond naddo.

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?

Y digwyddiad. Prin iawn dw i'n mynd yn ecseited am bethau sy'n mynd i ddigwydd, wedyn yn aml iawn, dw i <b>yn</b> cael fy siomi ar yr ochr orau. Wir yr. Dw i ddim yn Eeyore Pontgarreg trwy'r amser.

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?

Mewnblyg, mae'n debyg.

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?

Escape From Colditz.


Diolch Dwlwen, dw i'n teimlo yn llawer well nawr ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Mwddrwg » Sad 16 Meh 2007 4:20 pm

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
ges i siom ddoe wrth i mi sylwi y bydda' i on-call wthnos nesa pan fydd PAWB arall allan ar y pys efo gwaith :drwg:

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
newydd glywed bydd 'na gawl ffa a pancetta, wedyn meatballs efo tagiatelle yn fy nisgwyl pan gyrhaedda' i adre o gwaith heno :P

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
y digwyddiad.

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
dibynu ar y lefel alcohol yn fy ngwaed

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
hungry hippos - heb amheuaeth! er - ma guess who efo pobl dach chi'n nabod ar y cardiau yn ail agos...
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Sili » Sul 17 Meh 2007 11:21 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Do. Un arholiad UFFERNOL dydd Iau dwytha nad oedd gennai obaith mul o basio.

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Do. Dwy arholiad aeth yn lot gwell na'r disgwyl :)

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Y disgwyl i mi, os dio'n rwbath dwi'n edrych 'mlaen i neud th'gwrs. Stori tra wahanol os dwi fawr o ffansi'r digwyddiad (e.e. canlyniad arholiada...)

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Allblyg dwi'n meddwl. Dwi'm yn fewnblyg beth bynnag. Rwbath yn y canol?

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Connect 4. Oria ac oria o hwyl 8)
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Sili » Sul 17 Meh 2007 11:24 am

Mwddrwg a ddywedodd:5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
hungry hippos - heb amheuaeth! er - ma guess who efo pobl dach chi'n nabod ar y cardiau yn ail agos...


:ofn: Gai newid fy ateb? Hwn YDI y gem ora ERIOED. Ffwl stop.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sul 17 Meh 2007 12:30 pm

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Do. Gwaith yn pyllu adel fi cymerid fwy o amser bant. Fel fi'n daeall, ma pobol arall moyn mynd ar gwylie - oherwydd y haf yw e. Duw, ma cheek ar rai!
2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Do, gan yr ymateb i'r stori Thomas Cook.
3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Y disgwl, achos ma dy ben gallu neud unrhywbeth gyda'r disgwyliad.
4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
[gosod ateb arferol ynglyn a alcohol yma]
5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Sai'n cofio'r enw yn gymws, gem gyda dice tu fewn cromen bach blastig yn y cenol oedd e. Oedd rhaid i chi gwasgu lawr ar y peth er mwyn towlu'r dice. Unrhywun arall yn cofio hwn?
O'n ni'n joio Connect4 'fyd.
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai