Pump am y Penwythnos 15/6/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 15 Meh 2007 9:58 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 15 Meh 2007 10:14 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Dim Half Nelson yn yr UGC. O'n i wir moyn gweld honna.

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Methu 'neud croesair y Western Mail ddoe, ond cael 'pontificated'. Odi hwnna'n cyfri?

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Y disgwyl. Yn fy mhen i, fe all unrhyw beth ddigwydd.

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Sai'n gwbod. Ti moyn mynd am beint i drafod y peth?

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Scrabble. Peidiwch â gadael I ar bwys triple word. Mae Q 'da fi!
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Tracsiwt Gwyrdd » Gwe 15 Meh 2007 10:29 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
do. bo' fi dim yn gallu gadael petha' tan munud ola' a chael get awe hefo hi ddim mwy.
2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
do - ma facebook yn dda!
3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
y digwyddiad bob tro.
4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
dwi'm yn gwbod chwaith. bach o'r ddau ar adega gwahanol ac o dan amgylchiada gwahanol.
5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
gem y steddfod. (yr un gwreiddiol o'r saithdega)
Rhithffurf defnyddiwr
Tracsiwt Gwyrdd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1581
Ymunwyd: Mer 20 Awst 2003 3:47 pm

Postiogan Cymro13 » Gwe 15 Meh 2007 10:34 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)

Dim Clymblaid Enfys

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)

na

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?

Os ti ddim yn meddwl am y disgwl mae'r digwyddiad yn lot gwell - ond weithiau gall fod yn bach o anti-climax

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?

Dibynnu lle ydw i

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?

Hungry Hungry Hippos :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan mam y mwnci » Gwe 15 Meh 2007 10:43 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)

do - does gen i ddim coesau a phenol siapus er prynnu par o 'fit -flops - ok ella mod i wedi disgwyl gormod o bar o sgidia !

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)

Do wir yn gig Beat box fozzy yn y galeri - fab!

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?

Y digwyddiad pob tro - byth yn cael fy siomi a dwin CASAU disgwyl am unrhywbeth

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?

Allblyg - ond dwi'n cael ambell sefyllfa yn anodd ac ai y ffordd arall.

[b]5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?[/b}
Bananagrams - os chi'n hoffi scrabble newch chi garu hwn - Methu neud y busnes linc na sorri!
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan docito » Gwe 15 Meh 2007 10:58 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
bwyty junction 28

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
o flaen dy lygaid ar y pwyliaid - gwych

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
disgwyl pob tro

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
sai'n deall be ma nhwn meddwl

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
trivial pursuit a connect 4
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 15 Meh 2007 10:58 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Sbôs nath noson ffilm Jaws ddim cweit gweithio fel o'n i di gobeithio...
2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Gafon ni ffwc o deal am wylia yn Groeg o Thomsons
3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Digwyddiad. Dwi'n trio peidio meddwl am betha cyffrous fatha gwylia, wicend nes mod i ar fin cychwyn o.
4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Rho beint ne ddwy a dwi'n allblyg...ond allai'm deud mod i'n fewnblyg chwaith. Diawl. dwnim.
5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Arfar bod yn Space Crusade ( :wps: )...ond rhaid deud taw Cranium ydi'r gêm parti gora / a Risk ydi'r gêm hogia-rownd-am-sesh-a-smôc-a-malu-cachu-tan-5yb gora. Ma Risk yn ffycin siwpyrb. Erbyn diwedd sa neb yn gwybod be ffwc sy'n digwydd a sa neb yn poeni iot.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan krustysnaks » Gwe 15 Meh 2007 10:59 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Fy arholiad cyntaf, tua pythefnos yn ôl. Embarasing.

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Aeth rhai o'r arholiadau yn well na'r un cyntaf ... a'r Super Furry's - WAW!

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Mae'r disgwyl wastad yn dda a'r digwyddiad mond yn dda weithiau, ond pan mae'r digwyddiad yn dda, mae'n well na'r disgwyl.

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Ychydig bach o'r ddau - dibynnu ar fy nhymer.

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Scrabble Cymraeg. Dwi wastad yn ennill.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Siffrwd Helyg » Gwe 15 Meh 2007 11:08 am

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Do, wrth checio'r balans yn y banc. Fi wir di bod yn trio safio bob ceiniog a fi DAL yn hollol sgint. Boo.

2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Do - dwi di ffeindio allan bod gen i 'intolerance' i gluten a on in devestated achos fi'n hoffi bara, pasta ayyb shwt gyment. Es i i'r siop fwyd maethlon wedi pwdu a prynu rice cakes tra'n gwgu ond ma nhw wir yn neis! Fi'n adicted!

3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Y disgwyl

4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Mewnblyg rhan fwyaf - ond yn dibynnu pwy sda fi, fy nhymer, a os fi'n siarad yn Gymraeg ne Saesneg!

5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Gwyddbwyll. Ne Cluedo. Www, a Risk!
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Re: Pump am y Penwythnos 15/6/07

Postiogan Ray Diota » Gwe 15 Meh 2007 11:10 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Sbôs nath noson ffilm Jaws ddim cweit gweithio fel o'n i di gobeithio...


Damo. Se ni di dod ond odd cricet mlan 'da fi... er, ar ol i fi ddisgyn 3 catch, dwi'n meddwl fydde well da pawb se ni di mynd i watsho ffilms...

1. Yn ystod y mis diwetha’… A gawsoch chi siom? (Pryd/ sut?)
Dim tâl redundancy o'r gwaith dwetha - on i bythefnoss o dan y limit yn ol y sson. Fucking nonsense.
2. …A gawsoch chi siom ar yr ochr orau? (Pryd/ sut?)
Dau ffrind yn dreifo lan o G'dydd i gadw cwmni i fi Ray Dim ffrindie yn aber... odd 'da un docyn i SFA y noson 'ny 'fyd. Whare teg i'r pwrs!
3. Yn gyffredinol, p’un sydd orau, y disgwyl, yntau’r digwyddiad?
Digwyddiad, sbo...
4. Ydych chi’n fewnblyg neu’n allblyg?
Allblyg ar y cyfan... ond dwi'n mynd yn nyrfys ofnadw ambell waith yn lot mwy nyrfys na rhai o fy ffrindiau 'mewnblyg'.
5. Beth yw eich hoff gêm fwrdd?
Gas 'da fi nhw ar y cyfan... Ma Trivial Pursuit drinking games yn gallu bod yn sport ddo...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai