Pump am y Penwythnos 22/6/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 22 Meh 2007 10:18 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 22 Meh 2007 10:32 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
O ran ymddangosiad, ond yn gyffredinol wy'n berson gweddol hyderus.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Methu cofio. Ddo' i nôl at y cwestiwn.

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Pan ollynges i feic yn erbyn penelin honna dros frecwast ddoe. Ei bai hi am ei gadw fe mewn lle mor dwp, wrth gwrs.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Gormod o bethe. Fi mor ddiog ar hyn o bryd.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Ydw. Pam lai?
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan CORRACH » Gwe 22 Meh 2007 10:34 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Pan mae gen i bethau i'w gwneud, a dwi'n anwybyddu nhw am fywyd hawdd, wedyn sylweddoli bod RHAID gwneud o'r diwedd.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
dwi'm yn cofio wan, amser maith yn ol. Anaml dwi'n teimlo cywilydd mawr neu'n cochi na dim byd fel'na.

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
sori, nes i'm deall y cwestiwn. . . . . nanana, ymddiheuro i'r twat sy'n byw lawr grisiau am imi a Bambi wneud swn wrth drwsio bwrdd (oeddan ni ond 5 munud am 9 o'r golch y nos ffor ffyc sec.), ar ol cnocio drws ac ordro ni i "Keep the noise down please", gerddodd o lawr grisiau tra mod i ar ganol ymddiheuro wrtho. Twat.com

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
pethau ariannol - checkio'r balans banc, biliau yn enwedig.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Pwy Fi? Byth.
Rhithffurf defnyddiwr
CORRACH
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 894
Ymunwyd: Sul 14 Maw 2004 6:53 pm
Lleoliad: Llyn Cwm Llwch

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Manon » Gwe 22 Meh 2007 10:37 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Pan 'dwi 'di ffindio'n hun mewn sgwrs intellectual a 'dwi'n blagio'n ffor' drwyddi.
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Nos Sadwrn yn y Galeri- O'n i'n gwisgo top low-cut ac mi ddwedodd 'na ffrind "ffoffycsecs Manon, cyfra nw fyny, ma nhw jest a disgyn allan." :wps:
3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Nesh i ymddiheuro i fy annwyl wr am fod yn sdresd- O'n i'n paratoi i ddangos rhywun rownd y ty.
4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Y craving i gael tattoo arall :rolio:
5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Weithia- Lot mwy ers cael plentyn!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 22 Meh 2007 10:46 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?

Yn y gwaith rhan fwyaf o'r amser pan fydda i'n cael gwaith yn ol i'w gywiro a hwnnw'n llawn o farciau cochion. Yn ddiweddar o flaen pobl anghyfarwydd (doedd hynny byth yn digwydd o'r blaen!)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?

Neithwr, yn y George yng Nghaerdydd (sydd ddim patch ar y Sior yng Ngharneddi a gas gen i'r lle) wrth i ddyn o Awstralia ddod ataf a rhoi ei fraich amdanaf a gafael yn fy llaw a'm harwain o amgylch y dafarn.

Iawn ond am y ffaith fy mod yn sobor.

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Ddaru grwp o enethod oedd wedi paratoi rhywbeth ar gyfer fy mhen-blwydd er i mi fynnu am fisoedd nad o'n i isio ffys. Wnaethon nhw ddim yn y diwedd ond mi es yn gandryll gyda nhw, a theimlo'n eugo iawn. Dim ond trio bod yn neis oeddan nhw, a dydi genod byth yn ffycin gwrando eniwe.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Llythyrau, a phobl nad ydw i'n eu hoffi, os gallaf.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Ar y cyfan, nadw, ond dw in' cal pwl o draha ambell i waith pan dw i'n teimlo'n hunanfodlon gyda darn o waith neu rhyw fân ffraethineb.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan fela mae » Gwe 22 Meh 2007 10:59 am

--------------------------------------------------------------------------------

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
O ran edrychiad bron drwy'r amser blaw bo fi di meddwi fel arall dwi ddim ond weithiau rwy'n ansicr yn yr hyn dwi'n ysgrfiennu - e.e gwaith coleg, arholiadau..neu cyfrannu ar maes-e !

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
dwi wastad yn llwyddo i neud rhwybeth embarssing - mae'n siwr mae'r tro diwetha oedd pan nes i syrthio lawr grisiau yn cinema llandudno pan es i am ddet efo cariad - nes i hedfan lawr..a lanio'n fflat ar fy ngwyneb a welodd bron pawb oedd yno bo fi di neud - lwcus bod hi ddim mor llawn a hynny digwydd bod - on i ddim yn gwbo be i neud chwerthin ne crio!

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
dwi'm yn cofio - ma siwr bo fi di gweud sori wrrth y mrawd noson o'r blan am gyhuddo fe o ddwyn remote control y teledu..

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
marwolaeth

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Na ddim o gwbl- ddim yn deall shwt ma person yn gallu caru ei hun chwaith
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Sili » Gwe 22 Meh 2007 11:27 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Pan dwi'n gorfod cerdded drwy torf fawr ar ben fy hun e.e. mynd i chwilio am rhywun sy'n ista yng nghefn y dafarn a'r darafn hwnnw'n llawn dop.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Pan oni'n methu pwyntio Cilan (na rhan fwyaf o ardaloedd Pen Llyn) allan ar fap. Does gennai ddim 'sense of direction' :wps:

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Am bwdu efo Ramirez am iddo droi can werinol oni di sgwennu yn ddarn tecno heb i mi sylwi wrth recordio :?

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Gwaith.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Nagydw. Ma gennai hunan-barch, ond fyswn i'm yn ei alw'n gariad.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Ray Diota » Gwe 22 Meh 2007 2:20 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Fel arfer, bron byth... hynny yw, falle bo fi'n t'imlo'n ansicir ond fydden i wastad yn gweud erth yn hunan i b'ido becso mo'r ffyc... yn ddiweddar, ddo, ma'r polisi 'di lando fi mewn cachu so wy'n ansicir bron bob blydi munud... damo, damo.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Dwi di t'imlo cywilydd uffernol bob dydd wthnos 'ma ar ol ffonio rhywun nos wener a gadel 8 neges hynod hynod gas, yn llawn rhegfeydd ar yr answerphone. Sai'n cofio ffac ol - so fel arfer fydde na ddim problem. Ond ath y person, druan, i'r drafferth o dranscreibio nhw. Ma fe'n ofnadw. Cywilydd ofnadw ac embarrassment llwyr. Awful.

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Gweler uchod. Odd e'n un o'r sefyllfaoedd nad oedd ymddiheurad yn mynd i'w ddad-wneud so odd dim diben yn diwedd... Duw a wyr shwt na'i lan amdano fe. :?

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
deadline dim lol

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Ma'n siwr y bydde pawb yn gweud mod i. A fydde raid i fi gytuno. Ond ers ryw fis dwi'n ymwybodol mai fi yw TwatMwyafCeredigionTM, so ar y foment - Nagw. Neith e'm para, cofiwch! 8)
Golygwyd diwethaf gan Ray Diota ar Gwe 22 Meh 2007 3:09 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Sleepflower » Gwe 22 Meh 2007 2:24 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?

Byth, fi'n or-hyderus os rybweth.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?

Oeddwn i yn y deintydd ddoe yn cael 4 ffiling.

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?

Bore ma am siarad gyda rhywun yn fy mhants.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?

Pobl sy'n treial cael fi i gwympo mas 'da nhw.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?

Ydw.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 22 Meh 2007 2:38 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Fel arfer.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Pan ges i gompliment gan gyd-weithiwr gynne.

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
'Nes i ymddiheuro i Dad ar ol windo'n Fam i lan pw'ddiwrnod.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Mam :winc:

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Ddim mewn ffordd hunanbwysig sai'n credu, ond fydde fe'n gelwydd gweud 'na' (a sefyllfa itha annoying 'fyd 'sen i'n meddwl...)
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron