Pump am y Penwythnos 22/6/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cacamwri » Gwe 22 Meh 2007 2:49 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
On i arfer bod yn ansicr ym mhob dim on i'n neud, ond fi di dod dros hwnnw nawr.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Wythnos diwetha, wrth siarad da'r fam yng nghyfraith. Dyw hi ddim yn siarad Cymraeg. a ma Saesneg fi'n uffernol! Sai'n cofio be wedes i, ond fi'n cofio cochi am sbel ar ol hynny!

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Wnes i weud sori wrth Fe ar ol i ni gwmpo mas nos Lun.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Dwstio'r ty a llais fy ngwr pan mae e'n mynnu i mi wneud paned iddo fe TRWY'R amser! Nid blydi morwyn ydw i! :winc:

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Na, fi'n gadael i'n nheulu, ffrindie, fy ngwr a fy merch fach i wneud hwnnw drosta i.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Ifan Saer » Gwe 22 Meh 2007 2:49 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Bob hyn a hyn, co' uffernol sgenai ddim yn helpu

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Llai na dwy awr yn ol, mynd i dorri'n ngwallt ac yn chwysu chwartia diolch i'r tywydd poeth 'ma. Wedi cerddad yn bell hefyd, nath hynna ddim helpu

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Gweler uchod

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Idiots. Mi fyddai'n trio beth bynnag

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Ydw siwr. Er mod i'n gallu bod yn idiot weithia
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Jeni Wine » Gwe 22 Meh 2007 2:53 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
O hyd.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Pan o'n i'n chwilio am drons i'r gwr yn Satan's Larder gynna. Pam fedar o ddim prynu dillad isa ei hun??!!

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Ymddiheuro i'r gwr anghyfreithlon am ei gyhuddo fo o fod yn ffycwit.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Edrych ar faint o bres sy (ddim) gen i yn y banc.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Nadw.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Postiogan ffwrchamotobeics » Gwe 22 Meh 2007 3:08 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?

ar ol smocio skunk Gaernarfon

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?

Pryd nath John ty melyn sy'n byw dros y ffordd fy ngweld yn noeth lymun drw'r ffenest

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?


am insyltio cerddoriaeth Lleuwen Steffan ar Maes E

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?


cerddoriaeth Lleuwen Steffan

5. Ydych chi’n caru’ch hun?

ydw siwr
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Llefenni » Gwe 22 Meh 2007 3:15 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Mi oedd hyn yn arfer digwydd o hyd - dwi wedi dod yn well am ddelio â'r byd ers gadel coleg - ond mae siopa dillad a nosweithi allan dal yn dipyn o minefield weithie :)

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Mae hyna'n digwydd lot, ond borema, gorod rhedeg allan o gyfarfod achos oni rili angen pi :wps:

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Am hyna siwr o fod, ond dwi wastad yn ymddiheuro am bopeth - rw symptom o or-boleitrwydd Cymraeg neu ansicrwydd mewnol.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
fy mhwysau - iachach joio Hersheys a Duvel ddedwn i :D

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Swni'm yn deud caru, swni'n deud modi'n meddwl modi'n eitha cŵl tho 8)
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Wierdo » Sad 23 Meh 2007 11:32 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Lot o'r amser. Yn enwedig pan ma'n rhaid fi wneud penderfynniad.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Bore ma yn clywed beth oeddwn i'n wneud pan yn feddw

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Bore ma am ddeffro Ramirez a Sili isho goriad i adal y ty

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Petha amhleserus

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Mi ydwyf wych ym mhob ffordd. Heblaw am wneud benderfyniada.

Ydw, dwi yn caru f'hun
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Selador » Sad 23 Meh 2007 11:44 am

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Yn anffodus, byth.

2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?
Ath joc hiliol ddim i lawr yn dda neithiwr...

3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’?
Anamal yr ymddiheural, ond rhaid oedd gwneud ar ol refyrsho drost droed riw hen ddynas wsos dwytha. Roedd ganddi droed anarferol o fawr cofiwch.

4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
Realiti.

5. Ydych chi’n caru’ch hun?
Sut allwn i beidio?
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Re: Pump am y Penwythnos 22/6/07

Postiogan Lowri Fflur » Sad 23 Meh 2007 9:41 pm

1. Pryd y’ch chi’n ansicr o’ch hun?
Pam dwi 'di bod allan y noson cynt a dwi heb gysgu digon a dwi'n gorfod mynd i gwaith y diwrnod wedyn a gwynebu pobl. Ar ddiwrnodau fel hynny dwi'n teimlo fel bag o gachu.
2. Pryd oedd y tro diwethaf i chi fod yn embarrassed?Dwi'm yn cofio i fod yn onasd. Dwi ddim yn mynd yn embarassed yn aml, ddim yn gweld y pwynt.
3. Am beth oedd eich ymddiheuriad diwetha’? Siarad efo ffrind gyna a nath o ofyn os dwi dal wedi sdopi smocio. Nes i ddeud do a bod y ffaith bod fi ddim yn licio fy ngwallt yn drewi o sigarets a fy nanadd yn felyn yn ddigon o insentive i beidio smocio. Nath o ddweud gwylia ti'n siarad amdana fi rwan. Nes i ddeud sori oni'm yn trio beirniadu a, dwi'm yn siarad am y ffordd ti'n byw dy fywyd ond am fy hun yn bersonol.
4. Beth ‘ych chi’n anwybyddu?
5. Ydych chi’n caru’ch hun?[/quote] Dwi'n trio bod yn bosiitif am fy hun. Dwi'n gallu derbyn bod fi'n berson, bod fi'n gallu ffwcio fynny ond bod gyna fi fy rhinweddau hefyd.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron