Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Mihangel Macintosh » Gwe 29 Meh 2007 3:12 pm

Jeni Wine a ddywedodd:.. yr antur dwytha oedd... dringo i ben rhyw dwr gwirion yn Anti Sonar - heb gwsg ac yn hollol intoxicated. :rolio:


Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 29 Meh 2007 3:21 pm

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?


Dwi wedi newid fy meddwl. Ross o Friends. Jennifer Aniston 298 o weithiau - Awe!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Wierdo » Gwe 29 Meh 2007 7:25 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Nacydw, ddim o gwbwl. Mi allai fod pan dwi'n gallu ond o ddewis, nacydw.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Yyyym, allai ddim yn fy myw gofio pryd! Yyym....Eshi i Lerpwl rhyw bthefnos yn ôl ac fe gafo ni ddê owt efo nain, taid ac hen anti nghariad. Ondd hwna eitha antur.

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Dwin mynd i Iwerddon fory a dwin edrych mlaen at hynny. Hoffwn i fynd am antur i ffindio ogof tomb-raider esque yn Canada. Mi fysa huna'n antur werth chweil.

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Un o assistants dr who :winc: neu un o'r genod off casanova (teledu)...spot the linc :wps:

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Anrheg penblwydd hwyr gin Sili. Bag wedi'w wneud o gartons diod a giant bubble making mashîn. A chi'n gwbo be? Ma'r bybls yn anferth!!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Cacamwri » Gwe 29 Meh 2007 8:13 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Dwi'n licio meddwl 'mod i, ond ma'n siwr bo fi ddim.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Antur yr hoffwn i anghofio! Gyrru o Dreffynnon lawr i Raeadr wrth ddilyn y sat nav. Nath o arwain fi ar hyd lonydd cul uffernol, a fi'n eitha siwr 'mod i wedi bod rownd a rownd ambell i ffyrdd ddwywaith. Peidwch byth a thrystio blydi sat nav!

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Wwww, hoffwn i fynd ar daith cerdded hir, a champio dros nos yn Venice, cyn ei throi hi am Hong Kong i weld fy nghefnder. Heb weld e ers misoedd. Bygyr it, fi off ar fy antur nawr...yn fy nghwsg!

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Jini Me 'de.

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Dwy sgert neis wrth fy ngwr. Dewis da ganddo chwarae teg. :winc:
Yr anrheg diwetha i mi roi oedd remote control car i fy ngwr ar sul y tadau (wrth fy merch fach wrth gwrs, dw i ddim yn briod a fy nhad!) :P
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron