1. Ydych chi'n berson annibynnol?
'Swni'n lecio deud yndw... ond nagydw. Ddim o gwbwl a bod yn onest. Ond ddim ond pan mai'n dod at chydig o arian ychwanegol...
a liffts... a golchi dillad...
2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Esi a Ramirez am dro drwy cors y diwrnod o'r blaen am ddim rheswm o gwbwl. Mi fuo ni'n cerdded am rhyw ddau funud cyn i mi benderfynnu nad oeddwn i'n gwisgo "sgidiau call" ac felly bu rhaid ei throi hi am adra. Welis i lindys
3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Nesi gynhyrfu ddoe wrth feddwl am wylia fydd y cariad a minnau'n gymryd i'r Alban pen mis mewn fan goch. Dwi di bod drwy catalog Argos yn barod i chwilio am stof campio a di prynu
y 'Swiss army knife' mwyaf cwl erioed!
4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Y darllenydd di-enw yn 'War of the Worlds'.
5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Telyn geltaidd fach fach gan Ramirez ar fy mhenblwydd. Dwi di alw fo'n Hari Morgan