Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 29 Meh 2007 11:04 am

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?

Mersault


L'Etranger?


Wel, ok ella faswn i ddim isho bod yn fo cweit - mae gen i uchelgais y tu hwnt i edrych ymlaen at gael torf llawn casineb yn fy melltithio ar ddydd fy nghrogi, ond dwi wastad wedi meddwl ei fod yn dod drosodd fel boi iawn sydd wedi ei gamddeall a mae ganddo fo fywyd bach reit braf cyn i bethau fynd o chwith does. Ma ganddo fodan sy'n swnio'n dipyn o goer, a dwi hefyd yn cydymdeimlo efo'r ffaith fod haul poeth yn ei yrru'n wallgo - er rhaid mi ddweud dwi rioed di mynd mor bell a saethu neb o'r achos.

Deud gwir, nes i jest gweld 'llenyddol' a panicio :winc: [/i]
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 29 Meh 2007 11:12 am

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Na, nid felly. Dw i'n gwerthfawrogi fy rhyddid bersonol yn ofnadwy ond dw i ddim yn mwynhau fy nghwmni fy hun yn ormodol.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Duw, dwnim. Dw i'm 'di bod ar antur ers sbel. Mynd i 'sgota a lannau'r Fenai a baeddu fy sgidiau newydd, yn dal dim ond yn llwyddo i sefyll ar granc, bosib

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Un rownd tafarn(dai..)

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Saruman - dw i byth yn siwr pam, gen ai 'mbach o obsesiwn efo fo

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Bocs o Ffyj i Ellen fy howsmet am glirio fy chwyd i fyny pan oeddwn yn gachu bants ar ol noson allan
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Manon » Gwe 29 Meh 2007 12:19 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Nadw, dim rili. 'Dwi'n cael fy nghynnal gin lot o bobol.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Es i i Amlwch bora' 'ma i chwilio am fedd hen berthynas. Methu dod o hyd 'ddo fo.

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
'Swn i'n licio mynd i lefydd lle ma' 'na lot o hen chwedlau- Dyffryn Nantlle alla.

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Jane Eyre achos 'dwi IN LYF efo Mr. Rochester!

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Fruit pastille. Cyn hynny, nes i gyri Thai efo salmon a chacan penblwydd i fy met ar nos fercher.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Dwlwen » Gwe 29 Meh 2007 12:52 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Pe bai graddfa annibyniaeth, 'sen i'n dishgwl sgorio 7.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
(Yn dilyn meddwdod dirheswm nos Wener) ddales i dren i Lundain dydd Sadwrn, mynychu parti 'swrrealaeth' yn Clapham, creu siaced aphrodisiac ar gyfer ffrind, yfed gormod o win, cwmpo i gysgu mewn 'stafell llawn dieithriaid, wedyn dihuno llai na 3 awr wedyn i ddal y tren yn ol. Wy ar detox.

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Wy mo'yn synud i'r fflat newydd NAWR! 4 awr i fynd...

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Anna off This Life :?

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Heb rhoi fe to, ond anrheg penblwydd Catrin... 'Nes i dderbyn cwpwl o gasets gan Sioned pwy ddiwrnod: Vibroslap gan Hanner Pei, Bwyd Time gan Gorkys, a mix o'i hoff chaneuon SFA c.1996 :D
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Mwddrwg » Gwe 29 Meh 2007 1:58 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
nachdw

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
taith gerdded yng Nghwm Elan - llwyddais i beidio cael fy mwyta gan anghenfil y reservoir...

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
isho teithio rownd India ar dren trwy lifogydd y monsoon a diffeithdir (rhamantu ar ol gwylio 'Monsoon Railway' ar bbc4 neithiwr...)

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Siwpyrted

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
gwin Condrieu Andre Perret ag albym CSS i'r cariad ar ei benblwydd
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 29 Meh 2007 2:11 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Ydw.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Y lôn at y tŷ yn Groeg wsnos dwetha - ffwcin'el!

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
I Ynys Enlli (a dwi'n mynd fory os ma'r tywydd yn ddigon ffafriol...a fydd o ddim)

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
O dwisio booooood fel Hank....Chinaski, wedi meddwi ac yn hapus ar fy huuuuuuuun.

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Lot o win, cava, bwyd a chwmni da neithiwr a llyfr posteri ffilmiau Mecsicanaidd (diolch!)....o ran rhoi...wedi rhoi planhigion basil a rocet i ffrindia'n ddiweddar.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Jeni Wine » Gwe 29 Meh 2007 2:18 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Weithia, weithia ddim. Dibynnu pa mor gry a hyderus dwi'n teimlo.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Dwi wrth fy modd yn mynd ar anturiaethau! Ym, yr antur dwytha oedd... dringo i ben rhyw dwr gwirion yn Anti Sonar - heb gwsg ac yn hollol intoxicated. :rolio:

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Dwi'n mynd ar gwrs paragleidio i Fwlgaria wsos nesa! Lwmp o antur fowr ia cont. cachu'n hun

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?

Emily of New Moon.
Delwedd

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Rhoi - copi o Beano i'r gwr anghyfreithlon
Derbyn - Olew Olewydd gan Mam y Mwnci o Andalucia
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan Ray Diota » Gwe 29 Meh 2007 3:05 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Nagw'n anffodus. Ffaelu dreifio, ch'weld... angen ffacin liffts i bobman.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
lawr i lunden i weld y brawd bach penwthnos dwetha. joio mas draw.

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
wy moyn mynd i ffrainc i weld ffrindie, berlin i weld berlin a new york i weld new york... dwi actiwali'n mynd i'r llew du i whare pwl.

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Miles off This Life

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Botel o win i'r Nwdlyn... er, dwi meddwl bo fi di yfed e i gyd fy hunan. Ma deffro yn fy nillad am 1pm yn awgrymu hynny, ta beth... :( a derbyn... bwyd ffein ofnadw chez nwdls.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Jemeima Mop » Gwe 29 Meh 2007 3:10 pm

1. Ydych chi'n berson annibynnol?
Rhy annibynnol.

2. Beth oedd yr antur diwethaf i chi fynd arno?
Nes i gerdded i Spar Llangoed i nol peint o semi-skimmed gyna.

3. Pa fath o antur hoffech chi fynd arno nawr?
Bod adra am fwy na 3 noson. Dyna fysa antur!

4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Jemeima Mop 8)

5. Beth oedd yr anrheg diwethaf i chi ei roi/ei dderbyn?
Derbyn - potel o Jamesons gan Mr Hyfryd
Rhoi - potel o Jamesons i Mr Hyfryd
Rhithffurf defnyddiwr
Jemeima Mop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 234
Ymunwyd: Llun 26 Ion 2004 5:04 pm
Lleoliad: Penmon

Re: Pump am y Penwythnos, 29.6.2007

Postiogan sian » Gwe 29 Meh 2007 3:12 pm

Ray Diota a ddywedodd:4. Pa gymeriad llenyddol (llenyddiaeth, teledu neu ffilm) hoffech chi fod?
Miles off This Life


Pwy ond efe?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron