Pump am y penwythnos - 6/7/7

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cymro13 » Gwe 06 Gor 2007 11:36 am

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)

10 a 10 bydd y sglodyn o Macdonalds

2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?

1 - Fyddai bron byth yn bwyta hufen ia

3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?

Personol 1/10 Yn y Gwaith - 9/10

4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?

Wel mi fydda i yn
Abertawe
Aberystwyth
Aberteifi
a Chaerdydd dros y penwythnos so rhwng y tri na i roi 7 lawr - bownd ga i haul rywle :winc:

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?

1 Ma gormod i deithio da fi neud ta beth :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Re: Pump am y penwythnos - 6/7/7

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 06 Gor 2007 2:26 pm

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)
0
2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?
0
3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?
8
4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?
6
5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?
11
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y penwythnos - 6/7/7

Postiogan Sili » Gwe 06 Gor 2007 5:24 pm

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)
9.9 - gan gymryd mai fan y cariad dwi'n son am, wel ma popeth dan haul yn llechu yn hwnnw felly synnwn i fawr tasa na sglodyn yno 'fyd :rolio:

2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?
0 - tydwi'm yn ffan mawr.

3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?
9 - dwi'n disgwyl presant penblwydd hwyr a llythyr unrhyw adeg.

4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?
1 - Pen Llyn? Ddim yn debygol...

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?
10 - os na neith yr anwyd a'r tagu bondigrybwyll 'ma waethygu eto :ing:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y penwythnos - 6/7/7

Postiogan nicdafis » Gwe 06 Gor 2007 5:39 pm

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)

1 - byth yn wastraffu bwyd fel 'na.


2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?

1 - dw i ar ryw fath o ddeiet.

3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?

3 - wastad yn bosibl y ga' i gerdyn bost, sbo.

4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?

8 - fel wedodd rhywun yn y Ship y pnawn 'ma, "mae'n ddiwrnod neis, am fis Tachwedd."

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?

1 - prin iawn, oni bai bod rhywbeth anarferol yn digwydd yn y pyb heno. Mae Philippa bant am y penwythnos.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Cacamwri » Gwe 06 Gor 2007 6:57 pm

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)
Wel nai weud 1 achos sai'n lico sglods. Ond ma bach o bopeth yn fy nghar i.

2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?
Falle gaf i cornetto fach lawr yng ngharnifal Llandysul fory os fydd hi'n braf, so weda i 7.

3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?
Sneb byth yn sgwennu llythyron i fi, so 1.

4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?
Fi wedi archebu'r haul trwy courier ers dydd Mercher yn barod at fory, so 10!

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?
Dim ond fi a Mari adre heno, so 1.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Postiogan Positif80 » Gwe 06 Gor 2007 7:31 pm

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?

O'n i mewn hwylia reit dda tan i mi ddarllen y cwestiwn uchod a sylweddoli mae -10 fase'n ateb i. Gwych :? :drwg: :crechwen:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y penwythnos - 6/7/7

Postiogan krustysnaks » Sad 07 Gor 2007 10:39 pm

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)
Fel arfer, fe fydden i'n ateb 1 neu 2, ond ges i sglodion i swper heno, felly mae'n fwy tebygol - rhyw 3 neu 4.

2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?
1. Dwi ddim yn hoffi'r stwff.

3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?
6 neu 7. Mae'n wyliau o'r coleg a dwi'n ysgrifennu llythyrau gyda llaw yn weddol aml, felly yn eu derbyn yn weddol aml hefyd.

4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?
Dwi'n mynd i fod yn Llanymddyfri ac Aberystwyth dros y pythefnos nesaf a dwi'n gobeithio ei bod hi tua 10 achos does na ffyc ol i neud yn Llanymddyfri.

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?
1. Fel ddywedais i'n gynharach, dwi'n Aberystwyth.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y penwythnos - 6/7/7

Postiogan anffodus » Sad 07 Gor 2007 11:15 pm

1. Ar raddfa 1 - 10 (gyda 1 yn isel, 10 yn uchel) be yw’r tebygolrwydd fod 'na sglodyn yn llechu yn eich car? (Os nad ydych yn berchen ar gar, soniwch am y cerbyd y byddwch yn teithio ynddo mwyaf aml…)
1. Car fy rhieni - not feri laicli. Er bod na bob math o 'nialwch ynddo fo efo gwobr "Car blera'r mileniwm" o fewn cyrradd, un o bechoda' mawr y rhieni ydi byta chips yn car am ryw reswm.

2. Ar yr un raddfa, pa mor debyg yw hi y byddwch yn bwyta hufen ia dros y 4 dydd nesa?
8.

3. Pa mor debyg yw hi, y cewch chi lythyr wedi’i sgwennu â llaw drwy’r post dros y bythefnos nesa’?
3. byth bron yn cal un

4. Pa mor debyg yw hi y bydd hi’n heulog ble ‘rydych chi dros y penwythnos?
9.9. odd hi'n eitha braf heddiw felly ma na obaith am fory ma siwr

5. Ac ar raddfa 1 – 10, beth yw’r tebygolrwydd y byddwch chi mewn cwmni person noethlymun dros y 24 awr nesa’?
1
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai