1. Beth sy’ hen bryd ei lanhau?
Fy nghar. Unrhyw un eisie rhoi gwd sgrwb iddo? £4, paned o de a sgon i bwy bynnag sy'n gwirfoddoli. Falle gewch chi jam gyda'r sgon hefyd os chi'n neud jobyn da.
2. Beth sy’ hen bryd ei archwilio/ wasanaethu/ gynnal a chadw?
Fy nghyfrifon.
3. Pwy sy’ hen bryd eu ffonio/ sgwennu atyn’ nhw?
Run fath a Dwlwen. Da di'r facebook na.
4. Pwy sy’ hen bryd ymweld â nhw?
Fy ffrind sydd wedi torri ei choes. Fi di addo galw ers mis, ond heb wneud eto. Cic tin!
5. Pwy sy’ hen bryd iddyn’ nhw ddysgu gwers, a sut mae angen iddyn’ nhw gallio?
Y blydi gath sydd wedi bod yn eistedd ar fy nghar ers dyddie...Pam ffwc? Dryll unrhywun?
Joc...