Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Chwadan » Gwe 27 Gor 2007 2:24 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Hyfryd: fy nghot biws hir neu fy nghot werdd fer
Hyll: cnics gwyn o Primark :x

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff: ma na lot o bobl dwi'n nabod ac yn licio yma. Plys y Model Inn.
Cas: dio'm yn y gogledd.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf: ryw dair blynedd-od
Byraf: dau fis? Neu 3 eiliad os da ni'n cyfri camgymeriadau snoglyd.

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hynaf: anti Men - 93
Ieuengaf: Gwenno - 0

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf: Catrin
Bleriaf: Medi
Dwi'n byw efo'r ddwy :?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Manon » Gwe 27 Gor 2007 3:26 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
hyfryd: fy ffrog briodas, neu ffrog briodas Mam
Hyll: Trwsus tri chwartar o'n i'n gwisgo pan o'n i'n disgwl. O'n i'n edrach 'tha bo' fi'n disgwl twins: un yn fy mol ac un yn fy nhin :rolio:

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff: Ffrindiau, golygfa, hanes, y ffaith bod o ar fynydd.
Cas: Ci dros lon yn cachu yn rar ni :drwg:

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf: Pum mlynedd, hyd yn hyn!
Byraf: dau ddet.

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hynaf: Anti Lydia ma'n siwr: mi fydd yn 90 ym mis Medi.
Ieuengaf: Gath nith fy ngwr eneth fach o'r enw Darcy ryw ddeufis yn ol.

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf: Ffion
Bleraf- Fy ngwr!
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Ray Diota » Gwe 27 Gor 2007 3:33 pm

Manon a ddywedodd:eneth fach o'r enw Darcy


:lol: :lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 27 Gor 2007 3:34 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Fy siaced ledr goch neu fy ngwn nos oren llachar. Mmm. Gwaethaf? Dim. Darling, I have chwaeth.
2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Nol yn Llandismal ar hyn o bryd, felly dwi'n hoff o'r tawelwch, ond mae problem chav cefn gwlad Cymru yn waeth na mewn dinasoedd Lloegr erbyn hyn.
3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Tair wythnos.
4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hen Anti Annie oedd hi, a fu farw yn 99.5 oed ym 1999. Tadcu yw hi erbyn hyn, mae e'n 84. Myfi yw'r ieuengaf yn 23 oed (bron).
5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf? Esther. Mwyaf anniben? Marged.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Wierdo » Sad 28 Gor 2007 12:17 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Hyfryd - Un o fy nwy ffrog blodeuog.
Hyll - Sgin i ddim dillad hyll shwr iawn! Ym, Crys T Piws yn dweud "D is for Diva" mashwr - anrheg penblwydd pan onin 18 gin fy nghariad...heb wisgo fo llawer!

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff Beth - Yr olygfa a'r tawelwch.
Cas Beth - Y niwl. Welcome to Carmel, land of the mist

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf - 3 mlynedd a mis, dal i fynd
Byraf - 3 mlynedd a mis, dal i fynd (os nad di gafael llaw a sws ar y boch yn cyfri fel perthynas

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hynaf - Nain Penygroes (dwin meddwl) - 78ish dwin meddwl
Fenga - Cyfneither - tua 12

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf - fy ffrind Catrin. Neith hi ddim dod i'r sdafell fyw ambell ddwrnod chos fod o rhu fler!
Bleriaf - Fi neu fy ffrind Marsli. Neu unrhywun arall yn y ty a dweud y gwir....
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Cacamwri » Sad 28 Gor 2007 7:04 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Mwyaf hyfryd - top werdd nes i brynu ryw dair mlynedd yn ol, mae e moooor gyfforddus.
Mwyaf hyll - fy jimjams ma'n siwr. I fi, ma'n nhw'n dda am lownjo, ond ma nhw'n erchyll o hyll! Lwcus mod i'n briod a ddim yn ceisio imresio dyn!

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff - Golygfeydd hyyyfryd o Ddyffryn Teifi, cymeriadau'r pentre (er bod rhai ohonyn nhw styc yn y gorffennol), a'r ffaith mai dyna yw 'adre'.
Cas - swn traffic y ceir yn y nos.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Rhywbeth fel dau ddiwrnod yn fy ieuenctid ffol di'r byrraf.
Blwyddyn a hanner, a dal i fynd, di'r hiraf.

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hen Nain Fo di'r hynaf - 95 oed, a'r ifanca' ydi Mari Glwys, fy merch fach hyfryd, 4 mis a hanner.

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf - Cerys, chwaer Fo. Mae'n obsesd!
Anniben - Fi ma'n siwr, er fi'n gallu sgrwbo lan yn dda pan fi'n dewis. :winc: Ond ma'r gwr yn ail agos iawn iawn iawn gyda'i drons a'i sanau budron. Poop.
"I know I beleive in nothing, but it's my nothing."
Rhithffurf defnyddiwr
Cacamwri
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 968
Ymunwyd: Maw 15 Maw 2005 9:39 am
Lleoliad: Nol adre

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Mwddrwg » Sad 28 Gor 2007 10:19 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
fy siaced ledr frown (top gun style) yw fy ffefryn.
fy nilladoedd hylla yw fy sannau gym

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
hoff beth: ashton's, chillies, oddbins wellfield rd, ac en route
cas beth: arogl carffosiaeth yn canton, a treth cyngor drud ofnadwy

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
byrra: tua ugain munud?
hiraf: bron i ddwy flynedd a hanner and counting..
byrraf: cwpl o wthnosau sbo, ond 'swn i'm yn galw hynny'n 'berthynas'

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
tafod_bach a ddywedodd:yncl tudor yw'r hynaf. ma fe'n hen ac yn hoffi rownds o chwist, mynd i'r capel, cwizzes a neu tartenni.
- dito; ond paid ag anghofio'r bowls TB!
ieuengaf ydi Brychan - mab fy nghyfnither (er mae'n ddigon posib nad ydio'n bodoli, am nad ydwi di'w weld o eto)

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
taclusaf: Daffan
bleria: Sian
Rhithffurf defnyddiwr
Mwddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 405
Ymunwyd: Maw 06 Ion 2004 11:10 pm
Lleoliad: c'dydd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Manon » Sul 29 Gor 2007 2:35 pm

Ray Diota a ddywedodd:
Manon a ddywedodd:eneth fach o'r enw Darcy


:lol: :lol:


Paid. A. Son. "Oh! You've had a girl! Lovely! And she's called... Oh! You've had a girl! How lovely!" :rolio:
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron