Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 27 Gor 2007 10:00 am

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Ray Diota » Gwe 27 Gor 2007 10:21 am

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
wy newy' gal sawl pâr o jîns wrth ffrind sy 'di tewhau - result! hefyd yn hoff iawn o fy nghrys t sydd ag erthygl cwrs y byd gan saunders arno fe (le ma fe'n cal bach o go ar yr iddewon ond anghofiwn ni am hynna, ife -Hydref 25, 1939)
2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
y ffaith mai dim caerdydd yw e... na, fi'n joio nol yn aber ond ma'n boen yn ffani gorfod gofyn am liffts i bobman
3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
99 i 2003 gyda gap cyfleus o flwyddyn yn canol...
byraf? hmm... 14:30 - 14:35 yn y llew du sbel fach nol... :wps:
4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Nain 90odd a'r ciwti Elinor Megan - 1
5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
fi yw'r mwya' anniben gas da fi daclusrwydd... wel, na, gas da fi dacluso...
lot o'n ffrindie i'n fois taclus, gweud gwir...
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Gwe 27 Gor 2007 10:31 am

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Hoff ddiledyn: cot hir lwyd brynes i gydag arian Dolig. Mae'n neud i fi deimlo'n swish.
Cas ddiledyn: crys rygbi Cymru circa 2000, achos mae'r llythrenne 'di dod bant.

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff beth: yr olygfa o'r bont draw i Barc Bute. Wy'n croesi'r bont 'na bob bore, ond chi'n gallu gweld bryniau ar un ochr a Stadiwm y Mileniwm ar yr ochr arall.
Cas beth: sbwriel ym mhobman.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf: fy un bresennol. Wyth mis. Sai'n gwbod beth mae hynna'n gweud amdana' i.
Byrraf: cwpwl o wythnose.

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hynaf: tadcu sy'n wythdeg wyth (plyg plyg)
Ieuengaf: merch fach fy nghyfnither gafodd ei geni ym mis Mai. Ond sai wedi'i gweld hi 'to.

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?[/quote]
Taclusaf: sai'n nabod pobl daclus. Rhinwedd y cyffredin yw taclusrwydd.
Mwyaf anniben: Mei. Am gogydd, dyw e ddim yn gwbod shwt mae glanhau.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Sleepflower » Gwe 27 Gor 2007 10:46 am

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf
hyll?


Hyfryd - Traci bottoms rhetro addidas

Hyll - pants sydd wedi'u rhwygo ym mhob man, ond fi'n cadw nhw am resymau sentimental.

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?

Hoff - tafarndai neis.

Cas - traffig.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?

Hiraf - 2 flynedd.

Byrraf - Es i mas da rhywun dwywaith, wythnos y tro!

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?

Hynaf - hen fodryb posh sy'n byw yn Drenewydd fi heb weld ers o'n i'n blentyn.

Ieuengaf - Alaw Medi. (g. Medi 2006). Mae nyth/nai ar y ffordd ym mis Rhagfyr hefyd.

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?

Taclusaf - y landlord, diolch byth.

Mwyaf anniben - Ffycin Aaron Evanson, Holyhead, aye.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Dwlwen » Gwe 27 Gor 2007 10:59 am

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
hoff ddilledyn: ffrog goch lachar.
cas ddilledyn: llwyth o grysau T maint plant sy'n giwt uffernol ond tam bach rhy fach erbyn hyn.
2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
hoff beth: cerdded trwy'r parc yn yr haul.
cas beth: draens/ llwybrau beicio/ palmentydd cachu.
3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
hiraf: tair blynedd
byrraf: pythefnos-ish
4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Wy wir ddim yn siwr :wps: ma'r hen bobl yn fy nheulu agos i gyd 'di marw... af fi am Uncle Frank, sy' tua 93, a Sali, sy' tua 2, yw'r ieuengaf.
5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Ferch o Coleg o'r enw Claire McAreavey yw'r person taclusaf i fi gwrdd erioed... Ma 'na lot o gystadleuaeth am y mwyaf anniben.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 27 Gor 2007 11:11 am

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Crys-t "Pwdryn" Rwth Jên (ond ma crys REU mewn ffram gennai, felly ella hwnna ddyla fo fod). Mwya hyll: jympar oren gesh i llynadd sy di shrincio'n y wosh. Afiach. Dwi di gwisgo lot o betha afiach yn y nydd...
2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff: Ultracomida a lan môr / Cas: trêns a bysus shait i gael o ma'n handi
3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf: cyrent musus, agos at dair mlynadd rwan / Byrraf: wel, pa mor fyr tisio mynd, ella swn i'n gallu dod a fo lawr i gwpwl o eiliadau wrth feddwl nôl i sdeddfods a barn dances. Serial snogio oedd ddy nêm of ddy gêm.
4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Fi di'r hynaf, 6 oed di'r iengaf.
5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusa: yr un hoyw, wrth gwrs / blera: wel, sneb lot yn cystadlu fo fi fan'na
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan tafod_bach » Gwe 27 Gor 2007 12:25 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
allen i ddim byw heb fy nghardigan binc. mae'n atgoffa fi o wylie cruise ships yn y 70au. dilledyn mwyaf hyll? siaced 'george michael' mae'n siwr. mae'n neud i fi edrych fel brithyll.

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
hoff beth: mae'n rhad
cas beth: mae'n fudur

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
byrra: tua ugain munud?
hiraf: dau fis and counting...

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
yncl tudor yw'r hynaf. ma fe'n hen ac yn hoffi rownds o chwist, mynd i'r capel, cwizzes a neu tartenni.
ieuengaf ydi krustysnakman. mae o'n hoffi miwsig ofnadwy a bwyd môr.

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
taclusaf: kate
bleria: craig mashwr, ond fi di'r arch-frlewraig yn anffodus.
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan Sili » Gwe 27 Gor 2007 12:36 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Crys hipi myddar o'r chwedegau ydi'r hyfryta dwi'n ama, a'r hyllaf ydi 'hoodie' du Korn brynis i pan oni'n 13 :wps:

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff beth - yr olygfa o'r mor a'r mynyddoedd Cambrian dros y gorwel.
Cas beth - y traffig gwael ar y lon fawr yn ystod yr Haf.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Byrraf - wythnos pan oni'n 14, a'r hiraf - dipyn dros dwy flynadd a dal i fynd :D

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Yr hynaf ydi taid Efailnewydd yn 89, a'r fengaf ydi un o'r amryw gefndryd yn rwla mwn.

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Y taclusaf - un o'm ffrindiau coleg. Dwi wastad yn teimlo'n anghyfforddus wrth ymweld a'i dy gan fod o wastad yn sgleinio a finna wastad mor fler.
Y bleraf - Ramirez heb os. Dwi rioed di cwarfod neb mor anniben yn fy myw :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 27/7/07

Postiogan krustysnaks » Gwe 27 Gor 2007 1:08 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Mae gen i un siwmper lwyd, syml sydd wastad yn cael sylwadau a dwi ddim yn siwr pam. Mwyaf hyll - nes i brynu crys Hawaiiaidd ar gyfer parti gwisg ffansi cwpwl o fisoedd yn ôl. Iych.

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff beth - y môr. Cas beth - twristiaid.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf - mis neu ddau, ddim yn hir iawn. Byrraf - llai na noson.

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hynaf - yncl Tudor (87 oed), ieuengaf - fi!

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf - mae gen i un ffrind sy'n daclus iawn ac yn cael sawl cawod y dydd ... Anniben - fy chwaer, o bellter.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Positif80 » Gwe 27 Gor 2007 2:24 pm

1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Dwi ddim yn cymryd llawer o sylw ar beth dwi'n wisgo, gan fy mod i'n gwisgo yn y tywyllwch.

2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?

Hoff beth: Cerdded ar y traeth.
Cas beth: y canoedd o twristiaid sydd hefyd yn hoffi mynd am dro ar y traeth.

3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Erm....[embarassed look, less pussy than Snoopy]..errrr

4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?

Dad yw'r hynaf, fy chwaer yw'r ieuengaf (17 oed).

5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?[b]

Ffrindiau? Cyfeillion? Rub it in, why don't you! :crechwen: [/b]
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Nesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron