1. Beth yw eich dilledyn mwyaf hyfryd, a beth yw eich dilledyn mwyaf hyll?
Hyfryd: fy nghot biws hir neu fy nghot werdd fer
Hyll: cnics gwyn o Primark
2. Beth yw eich hoff beth, a beth yw eich cas beth, am y ddinas/ tre’/ pentre’ lle chi’n byw?
Hoff: ma na lot o bobl dwi'n nabod ac yn licio yma. Plys y Model Inn.
Cas: dio'm yn y gogledd.
3. Beth oedd yr hiraf, a’r byrraf, o’ch perthnasoedd rhamantaidd?
Hiraf: ryw dair blynedd-od
Byraf: dau fis? Neu 3 eiliad os da ni'n cyfri camgymeriadau snoglyd.
4. Pwy yw’r hynaf, a pwy yw’r ieuengaf, yn eich teulu?
Hynaf: anti Men - 93
Ieuengaf: Gwenno - 0
5. Pwy yw’r taclusaf, a’r mwyaf anniben, ymysg eich ffrindiau?
Taclusaf: Catrin
Bleriaf: Medi
Dwi'n byw efo'r ddwy