Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan docito » Gwe 03 Awst 2007 10:42 am

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
foltron

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Gwasanaethau cwsmeriaid BA

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Neithiwr. All in gyda pocket 9 - heads up. Idiot yn galw gyda 10j grrrrrrrrrr :x

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
Yn y soffa

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
Gyrru i'r gogs :?
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Cymro13 » Gwe 03 Awst 2007 12:25 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?

Superted

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?

GWAITH

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?

solitare ar y cyfrifiadur

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?

ym mhoced fy nghot

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?

aros yn sobor :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Llewelyn Richards » Gwe 03 Awst 2007 12:56 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?

Craca Hyll

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?

Tudalen chwaraeon Y Guardian. Darllen gormod ohoni.

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?

Fedrai ddim cofio - blynyddoedd maith.

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?

O dan dillad siwr o fod, ond mi wnes i eu gadael nhw yn yr oergell unwaith.

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?

Peidio bwyta caws.
"What contemptible scoundrel has stolen the cork to my lunch?" W.C. Fields
Rhithffurf defnyddiwr
Llewelyn Richards
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1188
Ymunwyd: Iau 21 Awst 2003 3:28 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Wierdo » Gwe 03 Awst 2007 7:05 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
smotyn. Ond yn bennaf oherwydd mai hwnnw yw'r gwisg ffansi orau erioe i mi wisgo.

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Breuddwydion a bod wedi blino

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Dros pasg yn Ffrainc mashwr?

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
Dim syniad.

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
Gweld fy nghariad :wps: mynd i siopa fo mam yn lle!
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Jaff-Bach » Gwe 03 Awst 2007 8:52 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
Y twcans- dim ond atgofion bach sgenai, ond dwi yn cofio y defaid evil odd ar i hola nhw, grrrr

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Gorfod gweithio mewn swyddfa yn sbio ar yr haul (a glaw pan dwin cal dwrnod ffwrdd)

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
chwara 'ring of fire' yn sesh fawr, waw am gem

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
yn y llanast ar y bwrdd

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
clirio a llnau'r ty, a ailgylchur poteli cwrw cyn i mam a dad ddod nol o wlad yr ia, waw mi fydd na le dydd llun
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Geraint » Gwe 03 Awst 2007 9:28 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?

Sami Sbadrun

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?

Y ffaith mod i methu yfed a bwyta'n dda pob nos, a mynd i gwely'n hwyr, a codi'n hwyr.

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?

Cwpl o flynyddoedd, does gennai ddim mynedd i chware poker, cant be arsed

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?

O dan rhwbeth. Ma nhw wastad o dan rhwbeth , y bastads
5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?

Fel dwedodd sawl un, troi yfed yn gyhedrol nos sadwr, mae'n dreif hir iawn o Gelli Gandryll i Fangor pan da chi'n teimlo fel chwydi pob pum munud :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Manon » Gwe 03 Awst 2007 10:10 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
Wil Cwac Cwac, a Ffiffi'n ail agos iawn.

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Fi fy hun yn bod yn typical Brit yn llosgi yn yr haul... 'Dwi'n thic ac yn goch :-(

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Tua 3 mis yn ol. Mae fy nhwr a minnau'n gwneud yn reit aml.

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
Nes i adael nhw ar set car fy ngwr, in full view o bwy bynnag oedd yn pasio... ddaru 'na ryw ffycar o Fangor blygu drws car y gwr, cymryd y goriada' a mynd a 'nghar i. Diolch byth, oedd y car yn iawn yn diwadd. Mae o'n deimlad afiach cael car wedi ei ddwyn... Llawer, lalwer gwaeth pan ma'ch bai chi ydi o...!

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
Gwaith. Sgin im mynadd.
Even I, as sick as I am, I would never be you...
Rhithffurf defnyddiwr
Manon
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 958
Ymunwyd: Gwe 13 Chw 2004 5:16 pm

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Lowri Fflur » Gwe 03 Awst 2007 10:16 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
y llipryn llwyd.
2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Pobl yn malu cachu am big brother.
3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Neithiwr
4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?yn fy nhocad
5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?[/quote] Cael amser off gwaith i fynd i steddfod
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Jeni Wine » Sad 04 Awst 2007 8:14 am

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
Mistar Mostyn

2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Gwaith ac ogla piso cath.

3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Tua mis yn ol yn Ty'n Llan. Texas Hold 'Em. Bron iawn ag ennill o drwch blewyn gwybedyn.

4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
Nesh i golli nhw penwythnos dwytha. Ma nhw dal yng nghar fy chwaer.

5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
Gorffen pennod 7. Mynd i'r jim.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y Penwythnos - 3/8/07

Postiogan Cawslyd » Sad 04 Awst 2007 5:49 pm

1. Pwy yw eich hoff gymeriad cartŵn Cymraeg?
Unai Smotyn neu Elvis oddi ar Sam Tân.
2. Beth ydych chi wedi cael llond bol ohono yr wythnos hon?
Rhyw obsesiwn bach gwirion 'sgenai.
3. Pryd oedd y tro diwethaf i chi chwarae gêm o gardiau?
Ryw bythefnos nôl, gêm o poker efo'r hogia. Nes i ennill 'chydig.
4. Ble oedd eich allweddi/ goriadau y tro diwethaf i chi eu colli?
O dan fy ngwely. Y lle amlwg.
5. Beth na fyddwch yn gwneud dros y penwythnos, y dylech ei wneud?
Cario logs i'r tŷ, clirio'n llofft, ateb e-byst. Well genai ddiogi.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai

cron